Bangor: Pryder am ddyfodol caeau pêl-droed oherwydd dyled
- Cyhoeddwyd
Mae yna ansicrwydd am ddyfodol adnodd pêl-droed "arbennig" yng Ngwynedd oherwydd anghydfod rhwng y tenantiaid a Chyngor Dinas Bangor.
Bob wythnos, mae cannoedd o blant ac oedolion yn defnyddio'r caeau yn Stadiwm Nantporth, fydd yn cynnal rownd derfynol Cwpan Cymru tymor yma.
Ond mae gan y Cwmni Buddiant Cymunedol (CIC), sy'n rhedeg y cyfleusterau, ddyled o £63,000 i'r cyngor.
Mae'r cyngor bellach yn mynnu taliad ac yn bygwth camau cyfreithiol.
Yn ôl Nantporth CIC, mae rhan o'r cyfanswm hwnnw yn deillio o fethiant CPD Dinas Bangor - oedd yn is-denantiaid tan iddyn nhw ildio'u les yn 2022 - i dalu eu rhent.
Dywedodd un o gyfarwyddwyr y cwmni eu bod eisiau trafodaethau pellach gyda chyngor y ddinas fel bod modd datrys y sefyllfa ac ad-dalu'r ddyled dros gyfnod o amser.
Wrth ymateb, dywedodd y cyngor fod yr "anghydfod yn ymwneud â thorri telerau'r les yn barhaus" a bod ganddyn nhw gyfrifoldeb i "weithredu er budd trethdalwyr Bangor".
Does gan CPD Dinas Bangor ddim tîm bellach, ond dywedodd y perchennog Domenico Serafino bod "problemau anataliadwy" wedi achosi eu trafferthion ariannol.
Yr ansicrwydd "yn beth ofnadwy i ni gyd"
Heddiw, mae tua 25 clwb yn defnyddio'r cyfleusterau - y stadiwm a'r cae pob tywydd - yn gyson.
Yn eu plith mae CPD Merched Bangor 1876, sy'n chwarae yn y stadiwm ac sy'n agos at ennill pencampwriaeth yn eu hadran.
Ond heb sicrwydd o stadiwm o safon fel Nantporth ar gyfer y tymor nesaf, fyddan nhw ddim yn gallu cael dyrchafiad.
"'Dan ni wedi dod yn bell dros y blynyddoedd diwethaf, y flwyddyn yma yn enwedig," meddai Catrin Hughes, sy'n chwarae yng nghanol yr amddiffyn i'r tîm.
"Dydy hi ddim yn neis, rili, ein bod ni ddim yn cael mynd fyny achos bod dim sicrwydd am y cae."
Ar y cae pob tywydd 3G gerllaw, mae timau iau'r clwb yn ymarfer.
Ymhlith y rhieni sy'n gwylio mae Ffion Thomas sy'n drysorydd, ac yn fam i ddwy eneth sydd wrth eu bodd efo'r bêl gron.
"Mae o'n bob dim," meddai. "Mae'r genod 'ma allan trwy'r adeg yn chwarae pêl-droed, 'dan ni'n treinio yn yr wythnos, mae gynnon ni gêms dydd Sadwrn. Mae o'n rhywbeth mawr iawn yn tŷ ni."
Yn ogystal â dod â mwynhad, mae rhedeg a chicio pêl yn gwneud lles i iechyd ei merch, Megan, sydd ag awtistiaeth.
"Mae o'n cael gwared o lot o deimladau tu mewn i Megan ac mae hi'n berson lot, lot, lot hapusach ar ôl chwarae pêl-droed," meddai.
Ychwanegodd Ms Thomas fod y cyfleusterau "arbennig" yn destun "cenfigen" a bod yr ansicrwydd "yn beth ofnadwy i ni gyd".
"Mae gynnon dros 150 o aelodau yn y clwb ac mae hynna'n lot fawr o blant i fod yn chwilio am rywle arall i chwarae pêl-droed", meddai.
I Nicola Davies, sy'n dod â'i thair merch i'r sesiynau ymarfer, mae'r syniad na fydd y safle ar gael iddyn nhw yn y dyfodol yn rhywbeth dydy hi "ddim eisiau meddwl" amdano.
"Dwi'n meddwl 'neith nhw i gyd golli ffrindiau, colli'r chance o chwarae pêl-droed a cymysgu. 'Neith o jyst effeithio ar y gymuned."
Trafodaethau wedi "rhewi"
Cwmni cymunedol Nantporth (CIC) ydy perchnogion y cae 3G ac maen nhw'n rhentu'r stadiwm gan Gyngor Dinas Bangor.
Ar 8 Mawrth, derbyniodd Dilwyn Jones, un o gyfarwyddwyr y cwmni, lythyr heb ei ddyddio gan gyfreithwyr y cyngor yn gofyn iddyn nhw dalu eu dyled yn llawn o fewn 21 diwrnod.
Mae tua £44,000 o'r ddyled yn deillio o rent o'r gorffennol, ac £19,000 o gostau yswiriant, ond roedd Mr Jones yn "meddwl y byddai 'na le i drafod, ac yn ôl ein sgyrsiau cynnar gyda'r cyngor, mi oedd 'na".
Dywedodd fod y trafodaethau wedi "rhewi" ond mae'n annog y cyngor i ail-gychwyn siarad am gynlluniau ad-dalu posib ac i beidio gweithredu am 12 mis er mwyn rhoi sicrwydd i'r clybiau sy'n defnyddio Stadiwm Nantporth.
Ychwanegodd bod y cwmni bellach yn gallu dechrau talu'r ddyled yn ôl, wedi iddyn nhw lwyddo i ddenu pobl i ddefnyddio'r cyfleusterau o'r newydd wedi tranc CPD Dinas Bangor.
"Roedden ni'n disgwyl y byddai pethau'n araf iawn i gychwyn," meddai. "Ond mewn gwirionedd roedd 'na ryddhad yn lleol bod adnodd fel hwn ar gael yn annisgwyl."
Roedd clwb Dinas Bangor yn arfer bod yn is-denant ond fe wnaethon nhw roi'r gorau i'w les drwy gytundeb llynedd.
Erbyn hynny, roedden nhw wedi bod drwy flynyddoedd o ansicrwydd ariannol, wedi eu gwahardd rhag chwarae ac wedi tynnu allan o'u cynghrair.
Dywedodd y perchennog, Domenico Serafino, bod "y safle wedi cael ei roi'n ôl i Nantporth CIC fel rhan o gytundeb gafodd ei arwyddo gan y ddwy ochr, ac felly does ganddon ni ddim dyledion i Nantporth CIC."
Er ei fod yn cydnabod eu bod wedi ysgwyddo'r ddyled yn sgil y cytundeb, dywedodd Mr Jones o'r CIC bod "tua 90%" o'r rhent sydd bellach yn ddyledus i'r cyngor yn deillio o fethiant y clwb Dinas Bangor i dalu eu rhent yn y gorffennol.
Ychwanegodd bod y cyngor hefyd yn "gwbl ymwybodol" o'r sefyllfa.
Ond dywedodd Cyngor Dinas Bangor bod yr anghydfod "yn ymwneud â thorri telerau'r les yn barhaus".
Ychwanegodd llefarydd: "Mae gan Gyngor y Ddinas gyfrifoldeb statudol i reoli cyllid cyhoeddus hyd eithaf ei allu a gweithredu er budd trethdalwyr Bangor.
"Ni fydd Cyngor y Ddinas yn gwneud mwy o sylwadau ar fanylion y mater hwn gan nad yw'n dymuno dylanwadu ar unrhyw gamau cyfreithiol posibl.
"Fodd bynnag, hoffai'r Cyngor sicrhau dinasyddion Bangor ei fod wedi cymryd y cam hwn er mwyn sicrhau dyfodol hirdymor sefydlog i'r stadiwm, a fydd yn cefnogi'r timau a'r clybiau sy'n defnyddio stadiwm dinas Bangor."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2022