Strategaeth pum mlynedd i fynd i'r afael â'r diciâu
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwr llaeth ifanc wedi dweud bod ei theulu i gyd wedi bod mewn dagrau oherwydd effaith diciâu ar eu hanifeiliaid.
Roedd llwytho 55 o fuchod wedi eu heintio ar lori i'w difa yn un o'r pethau "gwaethaf" i Mary Raymond o Sir Benfro orfod eu gwneud erioed.
Daw ei sylwadau wrth i Lywodraeth Cymru ddatgelu strategaeth newydd ar gyfer mynd i'r afael â'r clefyd dros y pum mlynedd nesaf.
Bydd dau dasglu newydd yn cael eu sefydlu, gyda'r nod o ddileu diciâu mewn gwartheg yng Nghymru erbyn 2041.
Ond dywedodd undeb NFU Cymru y bydd ffermwyr yn "rhwystredig" gyda'r cynllun, wrth gyfeirio at "brinder manylion".
'Peth erchyll i fynd drwyddo'
Mae 'na frwydro'r clefyd wedi bod ar fferm deuluol Ms Raymond, ger Croesgoch, ers dros dair blynedd a hanner.
Yn ddiweddar rhoddodd y fenyw 20 oed lun o bentwr o goleri'r gwartheg a gafodd brawf positif ar wefan gymdeithasol ar ôl iddyn nhw gael eu cludo o'r fferm ar lori.
Cafodd y llun ei weld dros 200,000 o weithiau.
"Roedd 55 o wartheg wedi profi'n bositif i gyd. Des i adref [o'r brifysgol] am y penwythnos oherwydd roeddwn i eisiau bod gyda mam a dad gan ei fod yn beth erchyll i fynd drwyddo," meddai.
"Ar ôl hynny fe wnaethon ni i gyd wahanu ar y fferm a chael 10 munud i'n hunain, eiliad i grio - fe wnaeth pob un ohonom ni - oherwydd ei fod mor emosiynol ac yn dorcalonnus.
"Mae pawb wedi rhoi cymaint o amser ac ymdrech i fagu'r buchod yna o fod yn lloi, ac yna rydych chi gyda nhw am eu hoes - rydych chi'n eu bwydo, a'u godro - ac yna mae hynny i gyd yn wastraff oherwydd does dim byd yn dod ohono."
Esboniodd Ms Raymond bod y rhan fwyaf o'r ffermydd cyfagos hefyd wedi'u heffeithio, gyda Sir Benfro yn cael ei nodi fel ardal gyda lefelau uchel o'r haint.
Mae ffermydd sydd wedi cael eu taro yn wynebu cyfyngiadau llym, gyda buchod sy'n profi'n bositif yn cael eu cymryd i ffwrdd a'u lladd.
Mae Ms Raymond annog Llywodraeth Cymru i weithio'n agosach gyda ffermwyr ar fesurau i frwydro'n erbyn TB.
"Pe baen nhw'n gwrando ar yr hyn mae ffermwyr Cymru eisiau, efallai na fyddai cymaint o agweddau negyddol yn y berthynas rhwng y llywodraeth a ffermwyr ar TB," meddai.
'Cynnydd da'
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod ei Rhaglen Dileu TB yn gwneud "cynnydd da".
Rhwng 2009 a Rhagfyr 2022, fe wnaeth nifer yr achosion newydd o TB ostwng 49% mewn buchesi yng Nghymru tra bod nifer yr achosion wedi gostwng 32%.
Roedd 94.7% o fuchesi heb TB erbyn diwedd Rhagfyr 2022.
Serch hynny cafodd 9,516 o wartheg eu difa y llynedd.
Wedi ymgynghoriad cyhoeddus mae cynllun pum mlynedd newydd ar gyfer mynd i'r afael â'r haint wedi ei lansio yn y Senedd gan y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths.
Mae'n cynnwys ymrwymiad i sefydlu dau dasglu newydd - bwrdd cyflawni rhaglenni sy'n cael ei benodi'n gyhoeddus a bwrdd cynghori technegol ar TB.
Bydd yr ail dasglu yn cynnwys pobl ag arbenigedd yn y maes - o sefydliadau ffermio a bywyd gwyllt i filfeddygon ac academyddion.
Eu pwrpas fydd darparu her a chyngor i Brif Swyddog Milfeddygol Cymru a Llywodraeth Cymru ar gyrraedd y nod o ddileu TB erbyn 2041.
Beth fydd dan sylw?
Un o dasgau cyntaf y bwrdd cynghori technegol fydd adolygu'r arfer o ladd buchod beichiog sydd wedi'u heintio â TB ar fferm, yn dilyn rhybuddion gan lawer yn y diwydiant am yr effaith mae'n ei gael ar iechyd meddwl ffermwyr.
Mae prosiect penodol i'w lansio sy'n canolbwyntio ar Sir Benfro, gan weithio gyda ffermwyr lleol a milfeddygon i geisio lleihau nifer y buchesi heintiedig yno - gyda'r llywodraeth yn addo mwy o fanylion maes o law.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddiystyru difa moch daear, er gwaethaf galwadau gan undebau'r ffermwyr, ac yn dweud y bydd yn bwrw ymlaen â phrosiectau brechu moch daear.
Bydd un o'r rhain yn digwydd ar Ynys Gybi, gyda'r potensial o'i ehangu ar draws Ynys Môn, sy'n ardal sy'n peri pryder i arbenigwyr gan fod achosion newydd o'r clefyd wedi cyrraedd eu lefel ucha' ers wyth mlynedd yn 2021.
Mae gweinidogion hefyd am weld ffermydd Cymru yn cymryd rhan mewn treialon ar gyfer brechlyn gwartheg newydd posibl yn erbyn TB, sydd ar y gweill yn Lloegr ar hyn o bryd.
Dywedodd y Lesley Griffiths: "Mae cynnydd da eisoes wedi'i wneud, gyda'r tueddiadau tymor hir yn dangos gostyngiad mewn achosion.
"Rhaid i ni adeiladu ar hyn. Fodd bynnag, ni all y llywodraeth wneud hyn ar ei phen ei hun.
"Mae angen gweithio mewn partneriaeth gyda'n ffermwyr a'n milfeddygon i gyrraedd ein nod o Gymru heb TB.
"Mae'r cynllun rydw i wedi'i gyhoeddi heddiw yn amlinellu'r hyn y gallwn i gyd ei wneud gyda'n gilydd dros y pum mlynedd nesaf, er mwyn adeiladu ar yr hyn sydd eisoes wedi'i gyflawni.
"Mae'n rhaid i ni gyd uno i lwyddo i gael gwared ar y clefyd yma."
Yn ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar faterion cefn gwlad, Sam Kurtz, fod "angen i'r llywodraeth weithio gyda'r diwydiant" os ydyn nhw am ddileu'r diciâu yng Nghymru.
Ychwanegodd llefarydd amaeth Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor ei bod yn "wirion diystyru" difa moch daear mewn ardaloedd ble mae TB yn amlwg.
'Rhwystredig'
Mewn datganiad, fe ddywedodd undeb NFU Cymru fod y cynllun yn "brin ar fanylion" ac y bydd ffermwyr yn teimlo'n "rhwystredig".
"Tra bod y cynllun yn edrych ar gynnydd positif tuag at leihau achosion mewn rhai ardaloedd, ni fydd hyn yn cynnig llawer o gysur i'r ffermwyr hynny sydd wedi cael gwartheg yn cael eu difa ar ôl gweld eu buchesi yn cael eu heintio gan y clefyd hwn," dywedodd dirprwy lywydd yr undeb, Abi Reader.
"Mae gennym ni gannoedd o fusnesau fferm dan gyfyngiadau bTB a miloedd yn rhagor yn byw mewn ofn o ganlyniadau eu profion TB nesaf ar y fferm.
"Er bod angen amser arnom o hyd i asesu'r manylion llawn yn y cynllun, ar y darlleniad cyntaf nid yw'n ymddangos bod ei gynnwys yn cynnig llawer o obaith i ffermwyr yn Ardaloedd TB Uchel Cymru, na bod ymdrechion yn cael eu blaenoriaethu i fynd i'r afael â'r clefyd ar draws pob ffynhonnell o haint."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2021