Galw am newid polisi TB 'annynol' Llywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae llefarydd amaeth y Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid eu polisïau "annynol" ac "annheg" ar y diciâu (TB) er mwyn amddiffyn iechyd meddwl ffermwyr.
Mae sawl elusen iechyd meddwl wedi dweud eu bod wedi gweld mwy a mwy o ffermwyr yn gofyn am gymorth dros y blynyddoedd diwethaf.
Ond ym marn Samuel Kurtz AS, mae poen meddwl amaethwyr yn deillio'n uniongyrchol o'r polisïau sy'n cael eu llunio ym Mae Caerdydd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai lles anifeiliaid yw prif nod y polisi, gan fynnu nad yw'n "annynol nac yn ddidostur".
O dan y rheolau presennol mae gwartheg cyflo - gwartheg sy'n disgwyl llo - sy'n profi'n bositif am y diciâu yn cael eu saethu ar dir y fferm gan nad oes modd eu cludo ymaith i gael eu difa.
Mae ffermwyr wedi bod yn disgrifio'r profiad emosiynol o wylio'u hanifeiliaid yn cael eu saethu, ond ar ben hynny, mae gweld llo yn boddi o fewn groth y fam yn gadael poen meddwl.
"Mae'n gwbl annynol," meddai Mr Kurtz wrth raglen Newyddion S4C.
"Dwi'n credu ei fod e'n annynol i'r anifail, a does 'na ddim daioni i les y fuwch yn sgil y sefyllfa yma sydd gyda ni yng Nghymru.
"Mae hefyd yn annheg i'r ffermwyr orfod gweld hynny - gweld buwch yn cael ei difa, a llo yn y groth yn brwydro.
"Dyw hynny ddim yn sefyllfa dwi eisiau bod yn gysylltiedig ag e, ac mae'n drueni mawr fod Llywodraeth Cymru yn mynnu glynu at y polisi yma."
'Trist iawn'
Geraint Evans yw pumed genhedlaeth ei deulu i amaethu ar ei fferm yn Sir Benfro.
Mae wedi bod yn gweithio o dan gwmwl y diciâu ers 11 mlynedd.
Mae ganddo gof byw o orfod gwylio chwech o'i fuches yn cael eu difa ar y clos.
"Roedd yn rhaid i fi eu rhoi nhw mewn rhes yn barod i fynd mewn i'r crush, a gweld nhw'n cael eu saethu," meddai.
"Ond beth oedd yn fy nolurio i fwyaf, wedd gweld y llo yn y groth yn cael ei fogi.
"Oedd y fuwch - y fam - wedi marw, a wedd y llo yn ymladd. Trist iawn."
'Cydymffurfio'n llawn â deddfwriaeth lles'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai "lles anifeiliaid yw'r ystyriaeth bennaf wrth dynnu gwartheg o ffermydd sy'n cael eu heffeithio gan TB".
"Caiff gwartheg eu lladd ar y fferm pan fydd yn anaddas iddynt gael eu cludo'n fyw o ffermydd," meddai llefarydd.
"Nid yw ein Polisi TB yn annynol nac yn ddidostur ac mae lladd gwartheg ar y fferm yn cydymffurfio'n llawn â deddfwriaeth lles."
O dan amodau llym yn Lloegr, mae modd oedi cyn difa buwch sydd o fewn 60 diwrnod at roi genedigaeth er mwyn caniatáu iddi ddod â llo.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn trafod gydag unigolion a sefydliadau o fewn y diwydiant, ac yn grediniol bod ffyrdd gwell o ddelio â'r sefyllfa.
Maen nhw'n dweud nad oes tystiolaeth gadarn i ddangos bod gwartheg sydd wedi'u heintio yn debyg o basio'r clefyd ymlaen i'r llo.
"Hoffwn i weld y fuwch yn cael ei hynysu, bant oddi wrth gweddill y fuches," meddai Samuel Kurtz.
"Mae hi wedyn yn gallu rhoi genedigaeth gydag urddas a pharch.
"Mae'r tebygolrwydd bod y clefyd yn pasio rhwng y fam a'r llo yn isel iawn, iawn, os o gwbl.
"Beth allai hynny ei wneud ydy cynyddu stoc, ac ychwanegu at y gwartheg sy'n cael eu colli gan y ffermwr.
"Mae hefyd yn rhoi'r cyfle i'r llo fyw, achos ar hyn o bryd mae'n boddi yn y groth.
"Mae hefyd yn caniatáu i'r fuwch farw gydag urddas, sydd ddim yn digwydd ar hyn o bryd."
Tu hwnt i'r polisi penodol yma, mae Geraint Evans yn disgrifio'r profiad o ffermio yng Nghymru ar hyn o bryd fel un digalon sy'n arwain at iselder.
"Mae cwmwl tywyll du drosom ni, a dwi'n defnyddio'r Saesneg yn aml i ddisgrifio fe - mae fel ffermio mewn straight jacket," meddai.
'Pwysau enfawr ar ffermwyr fel mae hi'
Wedi ymddeol fel dyfarnwr rygbi rhyngwladol, mae Nigel Owens wedi bod yn ffermio ers 2019.
Mae ganddo bryderon dwys ynglŷn â phroblemau iechyd meddwl o fewn y diwydiant.
"Mae 'na bwysau enfawr ar ffermwyr fel mae hi, a chi'n cael y gofid wedyn o'r TB 'ma ar ben hynna hefyd," meddai.
"Does dim pwynt i ni beidio trafod y peth. Mae ffermwyr wedi cymryd bywydau eu hunain.
"Dwi ddim yn dweud mai TB yw'r unig reswm ond mae e'n rhan o'r pictiwr mawr sydd yn achosi lot o ofid i ffermwyr.
"Chi'n siarad â phobl sydd ynghlwm â'r DPJ Foundation a faint o ffermwyr sydd yn troi at help.
"Mae'n ofid ac mae e yn effeithio ar ffermwyr heb os nac oni bai, ac mae'n rhaid 'neud rhywbeth amdano fe."
Ychwanegodd Roger Lewis o undeb NFU Cymru fod ladd gwartheg cyflo yn "ddigwyddiad torcalonnus i bawb sy'n rhan ohono".
"Mae TB yn parhau i ddinistrio teuluoedd ffermio ledled Cymru, ac mae'r profiad yma ond yn ychwanegu at y baich emosiynol sy'n cael ei achosi gan y clefyd yma.
"Ry'n ni'n deall fod Llywodraeth Cymru yn gweithio ar adnewyddu eu safle ar TB, ac ry'n ni'n barod i weithio gyda nhw er mwyn dylunio ffordd wahanol o weithio."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "yn ymwybodol o her enfawr TB mewn gwartheg, a'r gofid i ffermwyr orfod ei reoli".
"Rydym wedi gweld cynnydd da tuag at ddileu TB ers inni sefydlu ein rhaglen, gyda gostyngiadau hirdymor mewn achosion a nifer yr achosion newydd," meddai.
"Mae anifeiliaid sydd wedi eu lladd er mwyn rheoli TB wedi gostwng o 11,655 yn 2009 i 9,516 yn y 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2022, sy'n ostyngiad o 18.4%."
'Erfyn am lwybr ymlaen'
Mae Samuel Kurtz yn derbyn bod y ffigyrau yn gostwng, ond mae'n awyddus i danlinellu nad yw'r sefyllfa yn bositif o bell ffordd.
"Beth mae'r diwydiant yn erfyn amdano gyda TB yw gobaith, a llwybr ymlaen er mwyn dod â hwn i ben," meddai.
"Ar hyn o bryd, newidiadau bach iawn sydd i'r polisi TB mewn gwartheg yng Nghymru, yn hytrach nac ymdrech i gymryd gafael yn y sefyllfa er mwyn sicrhau bod gan Gymru statws sy'n glir o'r diciâu unwaith ac am byth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2020