Lluniau: Gwiwerod coch Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Wiwer gochFfynhonnell y llun, Hugh Rowlands
Disgrifiad o’r llun,

Wiwer goch

Ydych chi erioed wedi gweld gwiwer goch? Ar un cyfnod mi fyddai'n rhywbeth reit arferol.

Ond braint prin ydi gweld yr anifail bellach ac oherwydd bygythiad parhaol y wiwer lwyd mae galw am weithredu unwaith eto.

Mae'r wiwer lwyd yn cario haint sy'n lladd y wiwer goch, ac o ganlyniad mae dros 10,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn cefnogi galwad Ymddiriedolaeth Wiwerod Coch Cymru ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu brechlyn newydd.

Mae'r ddeiseb yn galw ar ddatblygu brechiad ar gyfer wiwerod coch i geisio sicrhau cynllun tymor hir i'w hachub.

Dyma oriel o wiwerod coch yng ngwarchodfa Dingl ar Ynys Môn ac ambell ffaith am yr anifail.

Ers talwm roedd gwiwerod coch yn byw ym mhob rhan o Gymru, ond maen nhw i'w gweld bellach mewn pocedi yn unig.

Ffynhonnell y llun, Hugh Rowlands

Yn 1997, dim ond 40 gwiwer goch a oedd ar ôl, ond yn dilyn rhaglenni ailgyflwyno, mae'r boblogaeth gwiwerod coch bellach yn cynnwys tua 800 o wiwerod coch ar Ynys Môn.

Ffynhonnell y llun, Hugh Rowlands

Mae tua 35-40 ohonyn nhw yn byw yng ngwarchodfa natur Dingl.

Ffynhonnell y llun, Hugh Rowlands

Mewnforiwyd gwiwerod llwyd i'r DU o Ogledd America yn y 19eg ganrif, ac ers iddyn nhw ddechrau bridio yn y gwyllt maen nhw wedi achosi dirywiad sylweddol yn nifer y gwiwerod coch brodorol.

Ffynhonnell y llun, Hugh Rowlands

Mae'r llwyd, sy'n fwy o faint, yn gallu cystadlu yn erbyn y goch am fwyd a chynefin. Mae hefyd yn cario clefyd y mae'n imiwn iddo ond sy'n gallu difa poblogaeth gyfan o rai coch.

Ar un adeg, roedd gwiwerod llwyd yn helaeth, ond arweiniodd rhaglen drapio a ddechreuwyd yn 1998 at eu gwaredu.

Ffynhonnell y llun, Hugh Rowlands

Mae gwiwerod coch yn hawdd i'w hadnabod oherwydd eu ffwr coch, eu clustiau a'u cynffonnau hir, blewog. Ond gall lliw eu cot amrywio gyda rhai coch yn ymddangos yn llwyd iawn.

Ffynhonnell y llun, Hugh Rowlands

Os ydych eisiau gweld un, yr amseroedd gorau i chwilio yw'r bore a diwedd y prynhawn oherwydd dyna pryd maen nhw fwyaf egnïol.

Ffynhonnell y llun, Hugh Rowlands

Mae gan wiwerod coch ddiet llysieuol yn bennaf sy'n cynnwys hadau, cnau cyll a mes, ffwng, rhisgl, a gwynnin. Ar brydiau maen nhw hefyd yn bwyta adar ifanc ac wyau.

Ffynhonnell y llun, Hugh Rowlands

Ar gyfartaledd mae'r wiwer goch yn byw am dair blynedd yn y gwyllt ond fe allen nhw fyw nes eu bod nhw'n 10 oed.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig