Achos Lola James: Dyn wedi 'chwalu'r cartref' â morthwyl

  • Cyhoeddwyd
Sinead JamesFfynhonnell y llun, Dimitri Legakis/Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Mae mam Lola, Sinead James, yn gwadu achosi neu ganiatáu marwolaeth ei merch

Mae llys wedi clywed bod dyn sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio merch fach ei bartner wedi "chwalu" eu cartref gyda morthwyl ar ôl cymryd Xanax.

Bu farw Lola James yn yr ysbyty ar 21 Gorffennaf 2020 o anaf "catastroffig" i'w phen ac roedd ganddi 101 o anafiadau allanol.

Dywedodd Sinead James, 30, fod Kyle Bevan yn treulio amser gyda'r plant yn coginio iddyn nhw ac yn chwarae gyda nhw.

Fe glywodd y rheithgor yn Llys y Goron Abertawe nifer o negeseuon gan Ms James yn diolch iddo am ofalu amdanyn nhw.

Mae Mr Bevan, 31 o Aberystwyth, yn gwadu llofruddio Lola James, gan honni fod ci y teulu wedi achosi ei hanafiadau a'i gwthio i lawr y grisiau.

Mae Sinead James yn gwadu achosi neu ganiatáu ei marwolaeth.

'Merch fywiog'

Clywodd y llys fod Lola yn ferch fach fywiog dros ben a'i bod o ganlyniad yn cael damweiniau yn aml.

Roedd Sinead James wedi gwneud cais iddi gael ei hasesu ar gyfer cyflwr ADHD ond doedd hynny ddim yn bosib tan ei bod hi'n bum mlwydd oed.

Wrth restru cyn-bartneriaid Sinead James, gofynnodd David Elias KC ar ran yr amddiffyniad, pwy oedd bwysicach iddi hi, ei phlant neu ei chyn-bartneriaid?

"Fy mhlant," atebodd Ms James.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan Lola anaf "catastroffig" i'w phen a dros 100 o anafiadau allanol

Fe wnaeth Kyle Bevan symud i fyw gyda Ms James a'i phlant ym Mawrth 2020, tua mis ar ôl dechrau eu perthynas.

Dywedodd hi fod Mr Bevan yn hynod o dda gyda'r plant.

"Roedd ef o hyd yn prynu pethau iddynt, pethau nad oedden nhw eu hangen, ond roedd ef eisiau eu plesio," meddai.

Dywedodd ei fod wedi dweud wrthi ei fod wedi cymryd cyffuriau gan gynnwys amffetaminau, Xanax a chanabis yn ystod eu perthynas.

'Cymryd cyffuriau'

Clywodd y llys am ddigwyddiad ym mis Mai pan gymrodd Mr Bevan y cyffur Xanax ac yfed alcohol.

"Fe ddechreuodd e' ymddwyn yn dreisgar gan achosi difrod yn y tŷ," meddai Ms James.

Doedd e ddim, meddai Sinead James, yn dreisgar tuag ati hi na'r plant ond fe aeth hi â nhw i dŷ ffrind.

Drannoeth, meddai, roedd yn edifar ac fe addawodd na fyddai'n cymryd Xanax eto a dim ond yn yfed unwaith y mis.

Gofynnodd ei bargyfreithiwr David Elias KC iddi droeon a oedd ganddi unrhyw bryderon am ddiogelwch y plant yng nghwmni Kyle Bevan, "nag oedd" meddai bob tro.

Pan gafodd hi ei holi gan Mr Elias, am anafiadau Lola a'r plant eraill, dywedodd ei bod hi'n credu bod yna eglurhad am y rhain ac nad oedd yn poeni am eu diogelwch.

Ond yn ddiweddarach wrth roi tystiolaeth, torrodd Sinead James i lawr, gan ddweud ei bod yn ofni Kyle Bevan, ac yn teimlo ei fod wedi ei dychryn.

Disgrifiodd dymer anwadal Mr Bevan gan ddweud: "Fe allai fod yn iawn un funud ac yna'r funud nesaf fe fyddai'n hollol wahanol."

Ffynhonnell y llun, LLUN TEULU

Clywodd y llys hefyd am ddigwyddiadau'r noson y cafodd Lola yr anafiadau angheuol.

Dywedodd Sinead James ei bod wedi cael ei deffro am 07:20 gan Kyle Bevan yn dweud wrthi fod Lola wedi syrthio lawr y grisiau.

Holodd ei bargyfreithiwr David Elias KC: "A feddylioch chi o gwbl mai Kyle Bevan oedd yn gyfrifol?"

"Na," atebodd. "Doeddwn i ddim yn meddwl y bydde fe'n gallu niweidio plentyn."

"Tasech chi'n poeni ei fod e am niweidio eich plant beth fyddech chi wedi gwneud?" holodd Mr Elias.

"Bydden i wedi mynd a'r plant yn syth i dŷ fy mam," meddai.

'Gwybod sut berson oedd Kyle Bevan'

Clywodd y llys fod Sinead James wedi bod ar gyrsiau yn dilyn profiadau blaenorol o drais domestig.

"Roeddech chi'n gwybod sut berson oedd Kyle Bevan," meddai Caroline Rees KC.

Atebodd Ms James: "Feddyliais i erioed y byddai Kyle Bevan yn troi mas fel hyn ac y bydden ni'n colli Lola o'i achos e."

"Pam fod e yno gyda chi?" holodd Ms Rees.

"Achos roedd e wedi addo gwarchod y plant ond wnaeth e ddim. Fe wnaeth e gymryd mantais o'r sefyllfa er mwyn cael cyfle i niweidio fy mhlant," atebodd Ms James.

Mae'r achos yn parhau.