Pasg prysur yn 'hollbwysig' i fusnesau lleol Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'n hanfodol bod gwyliau'r Pasg yn llwyddiant os yw busnesau yng Nghymru am oroesi eleni.
Dyna'r rhybudd gan nifer o fusnesau bach ar hyd y wlad wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer penwythnos gŵyl y banc.
Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn dweud bod y sefyllfa bresennol yn bryder i nifer, gan ychwanegu pa mor bwysig yw hi i bobl wario'n lleol.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr heriau sy'n bodoli, gan ddweud eu bod yn gwneud popeth sy'n bosib i gefnogi pobl, busnesau a chymunedau.
Yn ôl Laura Hubbard, sy'n rhedeg bwyty Flows yn Llandeilo, mae'r wythnosau nesaf yn hanfodol ar gyfer dyfodol y busnes.
"Ni 'ishe pobl i wario arian. Ma' bills a pethe' yn codi, trydan, bwyd," dywedodd.
"Ma' pobl dal yn gwario arian, ond ddim mor aml ag o'n nhw cyn y pandemig."
I Nia Prytherch yn Llandeilo, mae'r misoedd diwethaf wedi golygu newid mawr o safbwynt ei busnes.
Mae wedi cau ei siop flodau, gan benderfynu gwneud y gwaith o adref er mwyn arbed arian.
"[Mae] rhedeg siop nawr wedi mynd yn ddrud iawn. O'dd angen rhyw £3,500 arna' i cyn bo' fi'n agor y drws bob mis, ac o'dd hwnna'n codi ac yn mynd yn fwy bob blwyddyn.
"Ni ddim yn gw'bod beth sydd o'n blaenau ni. Ni 'di ca'l Brexit, wedyn Covid, a nawr y problemau 'ma, gyda Rwsia yn ategu at y problemau gyda chostau byw.
"Ma' 'da fi obaith, ond mae'n mynd i fod yn flwyddyn anodd iawn 'dw i'n credu i fasnach yn gyffredinol."
'Brwydro gyda biliau'
Yn debyg i'r busnesau yn Llandeilo, mae Lauren Evans ym Mhorthcawl yn wynebu heriau. Mae Fablas yn fusnes hufen iâ sy'n cyflogi bron i 30 o bobl yn lleol.
"Rydyn ni'n brwydro gyda'n biliau trydan. Maen nhw'n anhygoel. Mae'n rhaid i ni gadw ein rhewgelloedd 'mlaen 24/7," dywedodd.
"Rydyn ni'n mynd mewn i'n hamser prysuraf ond o fis Medi i fis Ebrill y flwyddyn ganlynol, sut ydyn ni'n mynd i ymdopi?
"Bydd yn rhaid i ni wirioneddol bwyso a mesur beth rydyn ni'n mynd i'w wneud ym mis Medi os nad yw'r llywodraeth yn camu i'r adwy a helpu gyda chostau."
'£1 yn mynd ymhellach yn lleol'
Gyda gwyliau banc ychwanegol ar y gweill yr haf hwn i nodi Coroni'r Brenin Charles, mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn annog pobl i wario eu harian yn lleol.
Yn ôl Ben Cottam, pennaeth y ffederasiwn, mae'r rhagolygon "yn anodd" o fewn "un o sectorau mwyaf deinamig" Cymru.
"Mae'n bwysig nad ydym ni fel defnyddwyr yn anghofio'r rôl hanfodol mae busnesau bach yn ei chwarae yn ein cymunedau.
"Mae eich £1 yn mynd ymhellach pan fydd yn mynd yn lleol, felly mae'n hollbwysig ein bod yn defnyddio'r penwythnos gŵyl banc hwn i ddangos cefnogaeth i'n busnesau lleol."
Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn cydnabod yr heriau mae llawer yn eu hwynebu yng Nghymru ar hyn o bryd.
Dywedodd Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, fod y llywodraeth yn "canolbwyntio ar ledaenu buddion twristiaeth" ledled Cymru.
"Mae effaith y dewisiadau economaidd bwriadol a gymerwyd gan lywodraethau olynol y DU yn cael effaith negyddol ar dwristiaeth Cymru," meddai.
"Mae hyn yn cynnwys prisiau ynni uchel iawn, recriwtio staff yn anodd oherwydd y math o Brexit mae Llywodraeth y DU wedi'i ddewis, a'r argyfwng costau byw sy'n wynebu cymaint o deuluoedd ledled Cymru a gweddill y DU."
Dywedodd y Canghellor Jeremy Hunt ddechrau'r flwyddyn fod cefnogi busnesau a theuluoedd yn flaenoriaeth iddo ef a'r llywodraeth.
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi lansio ymgyrch i helpu busnesau bach a chanolig i leihau eu biliau ynni, gan gynnig cyngor ar sut i arbed ynni.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2022