Cofio cael fy arestio ar Sul y Blodau yn 1980
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n bump o'r gloch y bore pan ddaeth yr heddlu i gartref Gethin ap Gruffydd, gan ei dynnu'n noeth o'i wely.
Cafodd ei daflu mewn i ystafell arall tra roedd ei bartner, Sian Ifan, yn cael ei dal yn erbyn wal.
Cafodd y ddau eu harestio ar amheuaeth o fod â rhan yn yr ymosodiadau ar dai haf ar draws Cymru.
Ddeuddydd yn hwyrach, cafodd Gethin a Sian eu rhyddhau yn ddi-gyhuddiad.
Nawr mae cyn-heddwas, oedd yn rhan o'r arestio ar Sul y Blodau yn 1980, yn honni bod plismyn o dan "bwysau gwleidyddol" i weithredu.
Fe gafodd tai haf eu llosgi'n fwriadol gyntaf yn 1979 - yng Ngwynedd a Sir Benfro.
Gyda diweithdra yn cynyddu ar y pryd, roedd bythynnod a thai yng nghefn gwlad Cymru yn apelio at y rhai oedd yn gallu fforddio prynu tai. Yn eu plith, roedd nifer o brynwyr o Loegr.
Roedd nifer yn gweld yr ymosodiadau llosgi bwriadol fel ffordd o brotestio yn erbyn hyn.
Fe wnaeth yr ymosodiadau, a gafodd eu galw'n ymgyrch Meibion Glyndŵr, barhau gydol yr 80au a 90au, gyda 228 ymosodiad yn cael eu cofrestru yn ystod y cyfnod.
Ond yn gynnar yn yr ymgyrch, ar y 30ain o Fawrth 1980, fe wnaeth cyrchoedd cydlynol gan gangen arbennig a swyddogion heddlu dargedu tua 50 o bobl ledled Cymru.
Deallir mai dim ond pedwar o'r rhai a arestiwyd a gafwyd yn euog.
Roedd nifer yn teimlo bod yr arestiadau yn targedu cenedlaetholwyr Cymreig.
Hanes Gethin a Sian
Roedd Sian Ifan a'i phartner, Gethin ap Gruffydd, ymhlith y rhai a dargedwyd.
Roedd Gethin wedi ei garcharu am drefnu Byddin Rhyddid Cymru yn 1969 ac erbyn 1980 roedd yn byw mewn fflat yn Aberystwyth gyda Sian.
Roedd y cwpl yn ymwneud â Cofiwn - cymdeithas hanesyddol a sefydlwyd i hybu ymdeimlad o hunaniaeth Gymreig.
"Roedd rhwng 50 a 60 o bobl yn dod gyda ni ar dripiau o gwmpas lleoliadau hanesyddol Cymru," meddai Sian wrth siarad â phodlediad BBC Cymru Drowned - The Flooding of a Village.
"Roedd pobl yn mwynhau oherwydd roedd baneri a phob dim gyda ni. Roedd y cyfan yn lliwgar iawn ac yn ddramatig."
Ddiwrnod cyn cael eu harestio, roedd Sian a Gethin wedi bod mewn cyfarfod Cofiwn. Mae'r ddau yn amau bod aelodau o'r gymdeithas yn cael eu hamau yn sgil eu gweithgareddau gwleidyddol yn y 1960au.
"Fe wnaethon nhw afael yn Gethin yn gyntaf oherwydd ei fod yn nes at ymyl y gwely - doedd e ddim yn gwisgo dillad - a'i lusgo i ffwrdd i'r ail ystafell wely," meddai Sian.
"Fe wnaethon nhw fy nal yn erbyn y wal yn ein hystafell wely. Roedden nhw'n fy arestio am achosi gwerth £250,000 o ddifrod."
Cafodd y pâr eu cludo i orsaf heddlu.
"Doedd neb yn gwybod lle oedden ni," meddai Sian.
"Doedden nhw ddim yn fodlon dweud wrth ein teulu lle oedden ni. Doedden nhw ddim yn fodlon dweud wrth ein ffrindiau. 'Nethon ni ddiflannu o wyneb y ddaear."
Yn ôl Sian doedd dim tystiolaeth gan yr heddlu. Ar ôl deuddydd neu dri, cafodd y ddau eu rhyddhau.
"Roedd yr heddlu yn cymryd pobl mewn gyda'r gobaith o gael gwybodaeth allan ohonyn nhw," meddai Sian.
"Nethon nhw ddweud wrth Gethin: 'Dere 'mlaen. Roeddet ti'n rhan o bethau yn y 60au, ges di dy arestio a charcharu am naw mis am drefnu Byddin Rhyddid Cymru, a ti'n disgwyl i ni gredu bod ti ddim yn rhan o hwn?'
"Pryd nethon ni gyrraedd adre o'r diwedd, roedd y fflat wedi ei dynnu'n ddarnau."
'Pwysau gwleidyddol'
Mae Sul y Blodau 1980 yn fyw yn y cof hefyd i Clive McGregor, cyn uwch-arolygydd heddlu.
Dywedodd fod yr arestiadau penodol yr oedd e'n rhan ohonynt yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn cynnwys "peth tystiolaeth", ond bod eraill wedi eu targedu yn syml oherwydd eu bod yn genedlaetholwyr Cymreig.
"Mi oedd rhai ohonyn nhw hefo tystiolaeth i gael i'w arestio nhw. Wnai gydnabod 'falle fod rhai wedi cael eu corlannu am resymau eraill.
"Rwy'n meddwl bod hynny'n ffaith, ac wedi'i gadarnhau gan y ffaith bod yn rhaid i'r gwasanaeth heddlu dalu iawndal i bobl am eu harestio'n anghywir," meddai wrth y podlediad.
Yn ôl Mr McGregor, roedd yr ymgyrch yn "fwy o ymarfer pysgota nag ymgyrch ar sail cudd-wybodaeth".
Roedd yr ymosodiadau llosgi bwriadol wedi cael tipyn o sylw ar y cyfryngau ac yn ôl Clive McGregor, roedd 'na dipyn o bwysau ar yr heddlu i ddod i wybod pwy oedd yn gyfrifol amdanyn nhw.
"Dwi'n credu fod rhaid edrych ar y pwysau gwleidyddol fanna. Roedd yn rhaid i rywbeth ddigwydd," meddai.
"Ac wrth gwrs roedd y pwysau yn dod i lawr o Whitehall, drwy'r Swyddfa Gartref, i benaethiaid yr [heddlu]."
Ond ar ôl y cyrchoedd, fe ddaeth i'r amlwg fod nifer o'r arestiadau wedi digwydd ar sail gwybodaeth ffug.
"Fe wnaethon ni sylweddoli ein bod ni wedi gwneud y gorau gallen ni gyda'r wybodaeth oedd gennym ni ond doedd hynny ddim yn ddigon da, bryd hynny," meddai Mr McGregor, sydd hefyd yn gyn-arweinydd Cyngor Ynys Môn.
Yn 1993, cafwyd un person yn euog o fod yn gysylltiedig â'r ymgyrch llosgi bwriadol.
Cafodd Sion Aubrey Roberts ei garcharu am 12 mlynedd yn 1993 am bostio bomiau tân.
Teimla Mr McGregor fod cyrchoedd yr heddlu wedi cael effaith niweidiol ar ei berthynas gyda chymunedau.
"Fel gwasanaeth heddlu fe wnaethon ni ildio rywfaint o ewyllys da," meddai.
"Hyd yn oed os oedd help a chymorth ar gael yn y gorffennol, yn gyndyn iawn y'i rhoddwyd, os o gwbl yn y cyfnod hwn," meddai.
Pan ofynnwyd iddo gan y newyddiadurwr Betsan Powys a oedd hynny oherwydd nad oedd pobl yn hoffi'r hyn a welsant yn 1980, atebodd: "Mae'n debyg, ie."
Mae modd gwrando ar y podlediad Drowned - The Flooding of a Village ar BBC Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2015