'Problemau difrifol' yn rheolaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
- Cyhoeddwyd
Mae staff sy'n rhedeg parc cenedlaethol wedi bod o dan "bwysau annerbyniol" yn ôl eu hundeb.
Mae gweithwyr yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (APCBB) wedi eu "gorlwytho", yn ôl casgliad adroddiad Archwilio Cymru yn gynharach eleni.
Roedd "problemau rheolaethu difrifol" wrth i'r Awdurdod wynebu heriau fel atal dirywiad amgylcheddol, meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Dywedodd APCBB eu bod nhw'n "dechrau pennod newydd" ar ôl "cyfnod eithriadol o heriol".
Mae nifer o'r staff wedi gadael, gyda'r awdurdod wedi ei "or-ymestyn", yn ôl Darron Dupre o undeb Unsain.
Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "gweithio'n agos" gydag APCBB i'w "ddychwelyd i weithredu'n effeithiol".
Bu Archwilio Cymru yn monitro twf yr awdurdod wrth iddo weithredu "cynllun newid" - ail-strwythuro a ddechreuodd yn 2019.
Roedd yn rhan o ymdrech i wella'r amgylchedd a chynefinoedd naturiol yn y Parc, i'w helpu i addasu i newid hinsawdd, a symud i economi carbon-isel.
Roedd hi'n glir fod angen "gweithredu radical" yn ôl yr Archwilydd, er mwyn atal dirywio pellach i ecoleg a bioamrywiaeth y Parc.
Bwriad arall y cynllun oedd gwella'r ffordd oedd yr awdurdod yn cael ei reoli.
Ond canfu adroddiad ym mis Mawrth eleni fod "problemau rheolaethol" yn parhau, gyda "diffyg capasiti".
Dywed adroddiad Archwilio Cymru fod "nifer" o aelodau o staff wedi tynnu sylw at "faich personol gweithio o fewn yr awdurdod, gan nodi problemau cysgu, straen parhaol a gofid".
Roedd "inertia cynyddol" a "phoeni am wneud y peth anghywir" yn broblemau clir.
"Gall hyn yn aml arwain at oedi wrth gyflwyno gwybodaeth mewn cyfarfodydd ffurfiol, neu ohirio cyfarfodydd, sy'n golygu bod y broses o gymryd penderfyniadau yn dod i stop," meddai'r adroddiad.
Nodwyd hefyd fod staff hŷn yn "parhau i adael yr awdurdod" a bod hynny yn arwain at golled o brofiad a gwybodaeth fewnol.
Casglodd yr adroddiad:
Doedd rheolau na phrosesau gwneud penderfyniadau yn gweithio'n effeithiol;
Roedd gwahaniaethau yn nehongliad a gwaith yr aelodau yn atal yr Awdurdod rhag mynd i'r afael â phroblemau;
Roedd y gofid am gapasiti a dycnwch yn parhau.
Yn ôl eu gwefan, mae'r Parc yn cyflogi tua 130, gan gynnwys wardeiniaid, staff canolfannau gwybodaeth, cynllunwyr, swyddogion datblygu cymunedol a staff cynorthwyol.
Mae gan yr awdurdod 18 aelod, gan gynnwys 6 wedi'u pennu gan Lywodraeth Cymru a 12 cynghorydd lleol, yn ogystal â thîm rheoli dan arweiniad Prif Weithredwr.
Mae'r model yma'n gweithio'n dda yn awdurdodau Sir Benfro ac Eryri, ond nid ym Mrycheiniog, lle mae gan yr aelodau, meddir, "syniadau gwahanol iawn am eu union rôl".
Effaith y gwahaniaethau yma yw "tanseilio'r broses o gymryd penderfyniadau, a rheolaeth yr awdurdod", meddai'r Archwilydd.
'Siop siafins'
Mae'r adroddiad yn "siop siafins" ac yn creu darlun o "fwrdd camweithredol", dywedodd Darron Dupre o Unsain.
"Y staff sy'n dioddef yn hyn oll, gyda nifer wedi gadael. Mae wedi cael effaith andwyol ar iechyd meddwl pobl, gyda straen a gofid.
Gobaith Mr Dupre yw y bydd arweinwyr newydd yn arwain at dro ar fyd.
Dywedodd AS Brycheiniog a Maesyfed, y Ceidwadwr James Evans, fod yr adroddiad yn "ddamniol".
"Mae'r problemau yma wedi bodoli ers blynyddoedd," meddai. "Mae pobl leol yn teimlo fod y Parc Cenedlaethol yn eu diystyru, gan esgeuluso pethau fel amaeth, y gymuned fusnes ac elfen cynllunio'r Parc.
"Dyma le dylai Llywodraeth Cymru hoelio'u sylw."
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod APCBB wedi gofyn am gymorth wrth fynd i'r afael â'r problemau ddaeth i sylw'r Archwilydd.
"Rydyn ni wedi cytuno i roi cymorth, ac yn gweithio'n agos gyda'r awdurdod er mwyn ei ddychwelyd i effeithiolrwydd gweithredol," meddai llefarydd.
'Pennod newydd'
Dywedodd llefarydd ar ran APCBB eu bod wedi "gwrthsefyll cyfnod heriol" a bellach yn "dechrau pennod newydd".
Mae tîm arwain newydd wedi ei benodi, a chynllun rheoli newydd ar waith ar gyfer y pum mlynedd nesaf, ychwanegodd.
"Mae staff wrth galon popeth, gyda'u hymroddiad yn glir ym mhob rhan o'n gwaith.
"Mae lles ein staff yn bwysig dros ben, ac ry'n ni'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau nad oes dim yn amharu ar yr ymroddiad yma."
Bydd Archwilio Cymru yn craffu eto ar yr Awdurdod yn yr Hydref.
Gallwch weld mwy ar y stori hon ar raglen Wales Live ar iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2022
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd27 Awst 2021