Dyn wedi'i drywanu'n angheuol yn y stryd gan gyn-ffrind
- Cyhoeddwyd
Mae rheithgor wedi clywed fod dyn o Fwcle sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio ei gyn-ffrind ym mis Hydref y llynedd, wedi ei erlid drwy strydoedd y dref cyn ei drywanu trwy'r galon a'r ysgyfaint.
Mae Jamie Mitchell, 25 oed o Lexham Green Close, Bwcle yn gwadu llofruddio Steven Wilkinson, a oedd yn 23 oed pan fu farw.
Wrth agor yr achos yn ei erbyn yn Llys y Goron yr Wyddgrug dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, Michael Jones KC, fod Jamie Mitchell "yn bwrpasol" wedi gadael y tŷ gyda chyllell gegin y noson honno, "wedi mynd ar drywydd, cornelu" ac wedi trywanu Steven Wilkinson yn "fwriadol" cyn ei adael gydag anafiadau "trychinebus" ac angheuol.
Dywedodd Mr Jones KC wrth y llys fod Jamie Mitchell a Steven Wilkinson wedi bod yn ffrindiau ar un adeg, ond eu bod wedi ffraeo ar ôl i Mr Mitchell ddechrau perthynas gyda chwaer Mr Wilkinson, Jessica yn 2020.
Er i'r berthynas honno ddod i ben yn 2021, roedd wedi ei ail-ennyn y diwrnod lladdwyd Steven Wilkinson.
Roedd "gelyniaeth" gan Jamie Mitchell tuag at Steven Wilkinson, ychwanegodd Mr Jones KC.
Y diwrnod cyn iddo gael ei ladd, dywedodd Jamie Mitchell wrth Mr Wilkinson mewn siop Spar leol "dim ond aros nes i chdi fynd allan", gydag aelod o staff yn dweud i Mr Wilkinson "ymddangos ei fod yn ofnus" o Mr Mitchell.
'Cyllell gegin ar y llawr'
Dywedodd Mr Jones KC wrth y rheithgor bod Jessica, chwaer Mr Wilkinson, wedi treulio'r diwrnod yn nhŷ ei chyn-bartner ar 4 Hydref y llynedd, ar ôl bod yn anfon negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol.
Ond arhosodd allan o olwg ei fam, a hynny am ei bod hi wedi ei chael yn euog yn y gorffennol o ymosod arni hi a Jamie Mitchell.
Bu cyfres o gwynion hefyd am ei hymddygiad ac ymddygiad ei ffrindiau a'i chariad newydd, Dylan Ashfield, oedd wedi achosi difrod troseddol i dŷ Jamie Mitchell.
Ond doedd dim tystiolaeth, meddai Mr Jones KC, fod Steven Wilkinson yn gysylltiedig.
Clywodd y llys bod Jessica wedi mynd mewn i ystafell wely Mr Mitchell, gweld cyllell cegin ar y llawr, a gofyn iddo pam ei fod yno.
Dywedodd Mr Mitchell ei fod yn bwriadu ei ddefnyddio ar Mr Ashfield, cyn ei guddio dan bentwr o ddillad.
Yn ddiweddarach y noson honno cafodd ffenestr ei falu yn y tŷ, ac fe glywodd y llys bod Mr Mitchell wedi cymryd y gyllell yr oedd wedi'i chuddio a gadael y tŷ i chwilio am y rhai roedd yn credu oedd yn gyfrifol.
Nid oedd Mr Wilkinson na'i ffrind, Jordan Spencer, yn gysylltiedig, meddai Mr Jones KC, gan eu bod nhw wedi treulio'r noson mewn dwy dafarn yn y dref, cyn prynu bwyd o siop tecawê.
Wrth i'r ddau ffrind gerdded tuag at eu cartrefi tua 22:00 BST, fe welson nhw ffigwr mewn du, ac fe sylweddolon nhw mai Mr Mitchell oedd yn dod tuag atyn nhw.
Gwelodd Mr Spencer fod ganddo gyllell a dywedodd wrth Mr Wilkinson am redeg.
Cafodd ei erlid ar draws glawdd gwair ac mewn i Jubilee Court, lle cafodd ei gornelu mewn gardd gefn. Clywodd y llys fod Mr Mitchell wedi trywanu Mr Wilkinson drwy ei frest, gan dyllu ei ysgyfaint a'i galon cyn rhedeg i ffwrdd.
Dywedwyd wrth y rheithgor y bydden nhw'n gweld lluniau teledu cylch cyfyng o'r erlid ac yn clywed gan dyst yn cerdded adref o gampfa leol, a welodd Mr Mitchell yn rhedeg ar ôl Mr Wilkinson.
Dywedodd Mr Jones wrth y rheithgor fod Mr Wilkinson wedi aros ar ei draed wedi'r ymosodiad, a cheisio gwneud rhwymyn gyda'i grys-t.
Ceisiodd ei ffrind, Mr Spencer, a dyn arall ei helpu a galw am ambiwlans. Ond bu farw yn ddiweddarach y noson honno yn Ysbyty Maelor, Wrecsam.
Aeth Mr Mitchell adref a dweud wrth Jessica "Fe wnes i drywanu Steven" a bod pethau'n "wael iawn".
Clywodd heddwas, oedd wedi mynd i gyfeiriad Mr Mitchell i ymchwilio i'r difrod troseddol, am y digwyddiad o drywanu ar ei radio. Pan ddeallodd mai Mr Mitchell oedd yn cael ei amau, fe arestiodd ef.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2022