Cefnogwyr Wrecsam yn ysu am barti ar y Cae Ras

  • Cyhoeddwyd
Cefnogwyr tu allan i'r Cae Ras
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cefnogwyr yn heidio yn eu miloedd i'r Cae Ras yn barod am gêm fawr

Mae hi wedi bod yn ddegawd a hanner cythryblus i dîm pêl-droed Wrecsam.

Ond erbyn hyn mae tîm y Cae Ras o fewn cyrraedd eu breuddwyd o ddychwelyd i gynghrair bêl-droed Lloegr.

Sylwebydd pêl-droed Radio Cymru, Dylan Griffiths, sy'n bwrw golwg nôl dros y daith llawn cyffro - taith sydd erbyn hyn yn denu sylw rhyngwladol.

Byddai buddugoliaeth yn ddigon i sicrhau dyrchafiad i'r Dreigiau.

Fe fydd Dylan a chyn-chwaraewr Wrecsam a Chymru Wayne Phillips yn sylwebu ar y gêm rhwng Wrecsam a Boreham Wood ar raglen Chwaraeon Radio Cymru am 18:15 ddydd Sadwrn.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Dylan Griffiths a Wayne Phillips yn sylwebu yn fyw ar y gêm ddydd Sadwrn

Mae cefnogwyr Wrecsam wedi aros yn hir am y diwrnod yma - pymtheg mlynedd i ddweud y gwir.

Roeddwn i yn Henffordd pan gollodd y Dreigiau o ddwy gôl i ddim yn erbyn y tîm cartref - canlyniad oedd yn golygu eu bod yn syrthio o'r Gynghrair Bêl-Droed am y tro cyntaf mewn 87 o flynyddoedd.

Ers y cyfnod hwnnw, mae 'na gymaint wedi digwydd - pryder gwirioneddol y byddai'r clwb yn mynd i'r wal, yna yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr am 18 mis, colli yn erbyn Casnewydd yn rownd derfynol gemau ail gyfle 2013 yn Wembley a nifer o reolwyr yn mynd a dod.

Ond mi ddaeth tro ar fyd yn y modd mwyaf dramatig posib pan y cyhoeddwyd ym mis Chwefror 2021 bod dau o sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, wedi prynu clwb y Cae Ras ac ers y diwrnod hwnnw mae'r diddordeb a'r sylw mae'r clwb wedi ei dderbyn wedi bod yn rhyfeddol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae llwyddiant y Dreigiau wedi trawsnewid ar ôl dyfodiad y perchnogion newydd Rob McElhenney a Ryan Reynolds

Yn wythnosol mae 'na gamerâu teledu yn dilyn hynt a helynt y clwb.

Mae'r gyfres ddogfen 'Welcome to Wrexham' wedi rhoi'r ddinas ar y map rhyngwladol gyda chefnogwyr o'r Unol Daleithau, Canada a thu hwnt yn ymwelwyr cyson bellach yng ngogledd Cymru.

Ond tydi cael perchnogion enwog a digon o bres ddim o hyd yn gwarantu llwyddiant, fel y cafodd ei brofi y tymor diwethaf.

Er gorffen yn ail yn y tabl, colli oedd hanes Wrecsam yn erbyn Grimsby yn rownd gyn derfynol y gemau ail-gyfle.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Phil Parkinson: 'Byddai sicrhau dyrchafiad o flaen cefnogwyr y tîm cartref yn beth arbennig'

Yn naturiol felly roedd 'na bwysau cynyddol ar y rheolwr Phil Parkinson y tymor yma i lwyddo.

Gyda dwy gêm o'r tymor i fynd maen nhw wedi cael 107 o bwyntiau sy'n record, wedi sgorio 112 o goliau a heb golli ar y Cae Ras yn y gynghrair.

Mewn unrhyw dymor arferol mi fyddai Wrecsam wedi sicrhau dyrchafiad ers amser bellach, ond mae'r frwydr gyda Notts County sy'n ail wedi bod yn un debyg i'r un rhwng Arsenal a Manchester City yn Uwch Gynghrair Lloegr .

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ben Foster a chwaraewyr Wrecsam yn dathlu wedi'r fuddugolaeth yn erbyn Notts County

Mae County ar 103 o bwyntiau, ond roedd y fuddugoliaeth 3-2 yn eu herbyn ar Ddydd Llun Y Pasg yn ganlyniad anferth sy'n golygu bod tynged Wrecsam yn eu dwylo nhw eu hunain.

Mi ddywedodd Parkinson wrtha i'r wythnos yma y byddai sicrhau dyrchafiad o flaen cefnogwyr y tîm cartref yn beth arbennig i'w wneud.

"Byddai'n golygu gymaint oherwydd yr hyn mae'r clwb wedi bod drwy a'r boen o 15 mlynedd yn yr adran hon.

"Ry' ni'n gwybod beth mae'n ei olygu ac yn benderfynol o roi popeth sydd gennym ar y penwythnos," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r clwb wedi bod trwy gyfnodau tywyll ond erbyn hyn yn obeithiol am y dyfodol

Mi fydd yna dros 10,000 yn bresennol eto heno, ac i'r cefnogwyr sydd wedi bod yn selog dros y blynyddoedd diwethaf a'r cefnogwyr newydd sydd wedi eu hudo gyda'r cynnwrf diweddar, mae heno gobeithio am fod yn noson i'w thrysori a chymaint wrth gwrs wedyn i edrych ymlaen ato ar gyfer y tymor nesaf, ond un cam ar y tro...