Paneli solar wedi 'achub canolfan Calon Tysul rhag cau'

  • Cyhoeddwyd
Calon Tysul
Disgrifiad o’r llun,

Mae Canolfan Calon Tysul bellach wedi gosod paneli solar i helpu gyda'r costau ynni

Mae grant o £75,000 wedi achub canolfan ffitrwydd yng Ngheredigion rhag gorfod cau, yn ôl yr ymddiriedolaeth sy'n ei redeg.

Roedd Canolfan Gymunedol Calon Tysul yn Llandysul wedi apelio am gymorth ar ôl i'w chostau trydan ac olew dreblu.

Erbyn hyn mae'r dyfodol yn edrych yn fwy sefydlog ar ôl i baneli solar PV gael eu gosod, gan alluogi'r ganolfan i gynhyrchu ei ynni ei hun.

Ond rhybuddiodd yr ymddiriedolwyr nad yw'r paneli yn ateb pob problem sy'n wynebu canolfannau o'r fath.

'Ni fyddai pwll yma nawr'

Wedi ei adeiladu yn 1975, mae 300 o blant yn derbyn gwersi nofio yno gyda'r cyfan yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Fe ymddangosodd y ganolfan ar raglen The One Show yn ddiweddar, gydag ymweliad gan y nofiwr Paralympaidd, Ellie Simmonds

Cafodd y ganolfan hamdden ei drosglwyddo o reolaeth Gyngor Ceredigion i fwrdd ymddiriedolwyr pwll nofio'r dref yn 2017 yn sgil toriadau i gyllidebau hamdden y sir.

Yn ôl rheolwyr y ganolfan mae'r system newydd yn lleihau'r costau yn sylweddol.

Dywedodd un o'r ymddiriedolwyr, Iestyn ap Dafydd: "Pan gynyddodd prisiau olew a thrydan roedden ni wir yn meddwl efallai byddai'n rhaid i ni gau ein drysau.

"Roedd ein costau trydan wedi codi o ychydig llai na £2,000 i fwy na £4,000 y mis, a'n disel o tua £800 yr wythnos i £2,400.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 70% o gost y gwaith o osod y paneli gwerth £75,000 wedi ei ariannu gan grant gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru

"Fe wnaethon ni ddod o hyd i rywfaint o arian i'n cael ni drwy'r gwaethaf, a rhan o'r amodau y tu ôl i hynny oedd ein bod ni'n rhoi dulliau arbed ynni ar waith, fel y paneli solar.

"Heb y prosiect yma, dwi'n meddwl y bydden ni wedi cau - ni fyddai pwll yna nawr."

Ychwanegodd: "Nawr ein bod ni wedi cwblhau'r cam hwn, mae'n mynd i wneud gwahaniaeth enfawr.

Disgrifiad o’r llun,

Iestyn ap Dafydd: "Roedd ein costau trydan wedi codi o ychydig llai na £2,000 i fwy na £4,000 y mis"

"Byddwn yn cynhyrchu ein trydan ein hunain a bydd defnyddio'r rhan fwyaf ohono ein hunain yn gwrthbwyso ein biliau.

"Bydd hyn wedyn yn caniatáu inni chwilio am ffyrdd eraill o ddiwallu ein hanghenion ynni."

'Dyw hi ddim yn hawdd'

Mae tua 70% o gost y gwaith wedi'i ariannu gan grant gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), gyda'r gwaith o osod y paneli yn rhan o gynllun H-Factor AMMV Energy Worx.

Ond tra bod y paneli solar yn helpu gyda llawer o gostau'r adeilad, ni fydd yn helpu i leddfu'r gost fwyaf, sef gwresogi'r pwll nofio ei hun.

Mae hwnnw'n gweithio ar foeler sy'n cael ei redeg gan olew, gan gostio tua £1,000 yr wythnos.

Yn hynny o beth maen nhw'n "parhau i chwilio am ddatrysiad".

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Matthew Adams maen nhw'n "parhau i chwilio am ddatrysiad" ar gyfer costau gwresogi'r pwll

Dywedodd rheolwr y ganolfan, Matthew Adams: "Mae hyn yn sicr yn newyddion da iawn, ond dyw e ddim yn ateb bob problem yn anffodus... dyw hi ddim yn hawdd.

"Y broblem fwyaf yw gwresogi y pwll, rydyn ni dal i chwilio am ddatrysiad gan fod e'n costio tua £1,000 yr wythnos i wresogi'r pwll.

"Mae'n adnodd cymunedol mor bwysig."

Pynciau cysylltiedig