Beiciau rhithwir: Am dro ar hyd llwybrau'r cof

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Norma Deaves: "'Mi fydda' i'n syffro fory wedi'r beicio"

Gyda'i thraed ar y pedalau a'i llygaid ar y sgrîn, mae Norma Deaves yn ailymweld â bro ei mebyd, Biwmares. 

Yn 91 oed, mae hi wedi neidio ar y cyfle i lywio beic rhithwir sydd wedi cael ei osod yn ei chartref presennol - datblygiad Hafan Cefni yn Llangefni.

Wrth i ddelweddau Google o'r dref hanesyddol ymddangos o'i blaen, daw llu o atgofion i'w meddwl.

"Unwaith y flwyddyn roeddan nhw'n lluchio pres i lawr - hot pennies," meddai wrth weld Gwesty'r Bulkeley ar ochr y ffordd.

"Ac roedd 'na lwyth o blant yn trïo cael pres poced i drïo prynu sigaréts neu sweets."

Procio'r cof

Mae Hafan Cefni wedi derbyn un o'r beiciau rhithwir yma fel rhan o brosiect gan Gymunedau Digidol Cymru, gyda chefnogaeth Cyngor Ynys Môn.

Yn y bôn, mae'n syniad syml - beic ymarfer wedi ei adnewyddu a'i gysylltu â chyfrifiadur a gwefan mapiau Google. Wrth i chi symud pedalau'r beic, mae'r map yn mynd yn ei flaen.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffion yn un o'r myfyrwyr chweched dosbarth fu wrthi'n sodro a drilio

Procio cof pobl hŷn ydy prif bwrpas y fenter, ond mae'n pontio'r cenedlaethau hefyd - cafodd y beiciau eu haddasu gan ddisgyblion o Ysgol David Hughes, Porthaethwy, mewn her undydd.

"'Dan ni 'di troi'r handlan fel eich bod chi'n gallu'i ddal o yn bellach," esboniai Ffion.

"Ac wedyn 'dan ni 'di rhoi botymau ar yr handlan fel eich bod chi'n gallu troi ar y peth Google Maps.

"Ac 'naethon ni roi rhyw fath o chip ynddo fo sydd yn gwneud o weithio efo'r laptop."

'O fudd a lles i'r preswylwyr'

Mae beiciau fel y rhain yn brysur ennill eu plwy' fel ffordd o annog pobl mewn oed i feddwl ac ymarfer corff, ac maen nhw'n destun ymchwil wyddonol hefyd, dolen allanol.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y beiciau eu haddasu gan ddisgyblion o Ysgol David Hughes, Porthaethwy, mewn her undydd

Fe adeiladodd y disgyblion bedwar beic i gyd, a thra bydd un yn aros yn Hafan Cefni, bydd y tri arall yn cael eu defnyddio mewn lleoliadau tebyg ar draws yr ynys.

"Mi fydd o fudd a lles i'r preswylwyr yn fan 'ma iddyn nhw gael ymarfer, trafod, ac mae o'n dda o ran yr iaith Gymraeg hefyd," meddai Deian ap Rhisiart, sy'n cydlynu'r prosiect ar ran Cymunedau Digidol Cymru.

"Mae o'n ddechrau sgwrs, ac mae pob math o bethau yn gallu dod ohono fo o ran hanes llafar.

"Dyna dwi'n meddwl sy'n dda amdano fo - mae'n rhywbeth mor syml ond yn gwneud lot o fudd i lot o bobl."

Wrth iddi barhau i feicio, a nesáu at Gastell Biwmares, daw atgof i arall i feddwl Norma Deaves.

Disgrifiad o’r llun,

Deian ap Rhisiart yn cynorthwyo Norma ar y beic

"Mi oedd 'na swans mawr yma ac roeddan nhw 'di dodwy," meddai. "Ond daeth 'na hogiau drwg a malu'r wyau i gyd."

Eisiau mynd i weld ei fferm enedigol yn ardal Talwrn mae Eurwen Jones, un arall o breswylwyr Hafan Cefni, sydd wedi bod ar gefn un o'r beiciau yma yn y gorffennol. 

"Roeddwn i'n mynd ar 'y 'meic i weithio, dair milltir i Langefni, bob bore tua saith, am flynyddoedd," meddai. 

Dywedodd bod ailgreu'r siwrna honno'n bleser, a'i bod hi eisiau droi yn ôl byth a beunydd, i weld yr un ffyrdd eto ac eto.

Disgrifiad o’r llun,

Eisiau mynd i weld ei fferm enedigol yn ardal Talwrn mae Eurwen Jones

"Roedd o'n ecseting iawn tro dwytha - pawb yn gweiddi! 

"'Dan ni'n lwcus iawn 'di 'u cael nhw'n ôl."

'Gweithgaredd newydd i ni'

Gwneud lle i sesiwn wythnosol ar y beic ydy'r nod rŵan, yn ôl Brenda Hughes, rheolwraig Hafan Cefni.

"Mae o'n bwysig i bawb gael cyfathrebu a rhannu amser efo'i gilydd," meddai. 

"'Dan ni'n gwneud lot o weithgareddau yma, a bydd hwn yn weithgaredd newydd i ni hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Gwneud lle i sesiwn wythnosol ar y beic ydy'r nod rŵan, yn ôl Brenda Hughes

Ond sut mae'r coesau wedi'r holl seiclo?

"Mi fydda' i'n syffro fory!" meddai Norma gan wenu, cyn bwrw ati i feicio ymhellach.

Pynciau cysylltiedig