Aur, arian a diemwntau: Seremonïau coroni'r gorffennol

  • Cyhoeddwyd
CoronauFfynhonnell y llun, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Gyda Brenin Charles III yn cael ei goroni ddydd Sadwrn 6 Mai, mae Ruth Gooding, Llyfrgellydd Casgliadau Arbennig Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cymryd golwg drwy archifau'r brifysgol i weld sut cafodd rhai o seremonïau coroni'r gorffennol eu dathlu:

Cadw traddodiad

Y Deyrnas Unedig yw'r unig frenhiniaeth Ewropeaidd sy'n parhau i gynnal seremoni goroni, yn hytrach na seremoni urddo neu seremoni orseddu. Mae'r gwasanaeth wedi cadw at yr un ffurf sylfaenol ers mwy na mileniwm; gwelwn lawer o'r prif elfennau yn y ddefod a luniodd Dunstan, Archesgob Caergaint, ac a ddefnyddiwyd yn 973 yn seremoni goroni Edgar.

Pan fo'n bosibl, câi seremonïau coroni eu cynnal yn Abaty Westminster; y seremoni goroni gynharaf yno, yn ôl cofnodion, oedd un Wiliam Goncwerwr ar 25 Rhagfyr 1066.

Ffynhonnell y llun, Hulton Archive
Disgrifiad o’r llun,

Roedd seremoni goroni Elizabeth II yn debyg mewn nifer o ffyrdd i seremonïau'r gorffennol - fel y bydd un ei mab, Charles III

Ers diwedd y 14eg ganrif, mae pob seremoni goroni wedi dilyn yr un drefn gwasanaeth fwy neu lai; mae Archesgob Caergaint yn cyflwyno'r teyrn, wedyn bydd ef neu hi'n tyngu cyfres o lwon, yn cael ei eneinio ag olew sanctaidd, ei goroni, yn cael y tlysau brenhinol ac yn derbyn gwrogaeth.

Er gwaethaf ei natur sefydlog, mae'r ddefod goroni wedi esblygu dros amser, gyda llawer o newidiadau yng ngeiriad y llw yn arbennig. Byddai'r seremonïau canoloesol a Thuduraidd yn y Lladin; seremoni goroni James I ar 25 Gorffennaf 1603 oedd yr un gyntaf i ddefnyddio'r Saesneg.

'Pasiantri ysblennydd'

Yn dilyn dienyddio Charles I cafodd y rhan fwyaf o'r teyrndlysau hynafol eu toddi neu eu gwerthu, felly ar ôl yr Adferiad, gwariodd Charles II £32,000 ar ail-wneud tlysau'r goron, gan ddefnyddio disgrifiadau manwl a oedd wedi eu cadw yn Nhŵr Llundain.

Yn ystod seremoni goroni Charles II, roedd y pasiantri ysblennydd yn arddangos gogoniant y frenhiniaeth. Daeth gorymdaith Siarl drwy Lundain y diwrnod blaenorol yn gyrhaeddiad gorfoleddus, gan ei gyflwyno fel 'arwr epig' yn dychwelyd i feithrin 'undod, heddwch a ffyniant'.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Disgrifiad o’r llun,

Mae copi o ddisgrifiad Francis Sandford a Gregory King o goroni James II yn archif Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Daeth James II, brawd iau Charles II, yn frenin yn 1685. Roedd litwrgi'r ddwy seremoni goroni'n debyg, ond nid oedd seremoni goroni James yn cynnwys yr Ewcharist; ac yntau'n aelod o'r Eglwys Gatholig, ni allai gymryd y cymun yn Eglwys Loegr.

Treuliodd Francis Sandford a Gregory King ddwy flynedd yn ysgrifennu cofnod o'r seremoni goroni, yn cynnwys saith ar hugain o ysgythriadau ysblennydd o'r gwyliau, y gorymdeithiau a'r tân gwyllt. Yn anffodus i'r ddau awdur, ni chafodd y llyfr ei chyhoeddi tan ychydig cyn y Chwyldro Gogoneddus, pan gafodd James ei orfodi i ildio'r orsedd.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Disgrifiad o’r llun,

Darlun o seremoni coroni James II o'r pamffled 'The history of the coronation of the most high, most mighty, and most excellent monarch', James II

Ar ôl teyrnasiad anffodus James II, roedd y llwon a dyngwyd gan ei olynwyr, William III a Mary II, yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gadw at 'the statutes in parliament agreed on' a chynnal 'the Protestant reformed religion established by law.'

'12,500 o ddiemwntau'

Mynnodd George II y byddai'i seremoni goroni ar 11 Hydref 1727 yn ddigwyddiad mawreddog. Cafodd llwyfan uchel ei godi rhwng Neuadd Westminster ac Abaty Westminster, er mwyn i'r torfeydd gael gwell golwg ar yr orymdaith, a gwerthodd Abaty Westminster docynnau i'r ardal rhwng y drws gorllewinol a'r côr.

Cyfansoddwyd cerddoriaeth y seremoni gan Handel, gan gynnwys Zadok the Priest, sy'n cael ei ganu ymhob seremoni goroni ers hynny.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Disgrifiad o’r llun,

Darlun 'Procession of kings and queens with over 150 robed figures' o bamffled wybodaeth am seremoni George II

Roedd George IV, a gafodd ei goroni ar 19 Gorffennaf 1821, yn ymwybodol iawn o botensial y seremoni i sbarduno teyrngarwch a chyffro, ac roedd hefyd yn benderfynol y byddai'i seremoni urddo'n well na seremoni ymerawdwr diorseddog Ffrainc, Napoleon Bonaparte.

Er bod hwn yn gyfnod o dlodi eang, rhoddodd y Senedd £243,000 i dalu'r costau. Cafodd coron newydd ei gwneud yn arbennig i George, a oedd yn cynnwys mwy na 12,500 o ddiemwntau.

Ar gyfer yr orymdaith i'r abaty, cerddodd o flaen canopi o frethyn aur. Ar ei wisg roedd cynffon o felfed ruddgoch a oedd mor hir, roedd angen naw gwas bach i'w gario.

Parhaodd y gwasanaeth ei hun am bron i bum awr, ac wedyn roedd gwledd i dri chant o westeion yn Neuadd Westminster.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Disgrifiad o’r llun,

Disgrifiad o'r panorama yn Leicester Square o'r orymdaith goroni, a baentwyd yn 1822 gan Henry Aston Barker - roedd y panorama mor llwyddiannus, cafodd Barker ymddeol yn gynnar, yn 48 oed

Roedd George wedi llwyddo i droi'r seremoni goroni'n atyniad i dwristiaid. Cyn hir, roedd modd i wylwyr weld panorama 360° o'r seremoni goroni yn Leicester Square. Byddai cwsmeriaid yn talu tri swllt i weld paentiad ar arwyneb silindrog; gallai gwylwyr droi i unrhyw gyfeiriad a gweld golygfa barhaus, lydan.

Mewn gwrthgyferbyniad llwyr i seremoni goroni George, gorchmynnodd ei olynwr, William IV, 'no ceremonies are to be celebrated at the Coronation, except the sacred rites attending the administration of the royal oath in Westminster abbey.' Y tro hwn, cost y seremoni goroni ar 8 Medi 1831 oedd £37,000 yn unig.

Troeon trwstan a phrotestiadau

Roedd seremoni goroni Victoria ar 28 Mehefin 1838 hefyd yn gymharol syml, gan gostio £70,000, yn hytrach na'r £200,000 a gyfrannwyd gan y Senedd. Cafodd y rhan fwyaf o'r arian ei wario ar orymdaith seremonïol er budd y cyhoedd cyffredinol.

Diolch i'r rheilffyrdd, heidiodd tua 400,000 o ymwelwyr i Lundain ar gyfer y seremoni, gyda miloedd yn cymeradwyo ar hyd taith y frenhines ifanc. Dechreuodd y diwrnod gyda thanio'r cyfarchiad brenhinol yn St James Park, cynhaliwyd ffair yn Hyde Park ac arddangosiad o dân gwyllt yn Green Park gyda'r nos.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Disgrifiad o’r llun,

Paentiad o seremoni coroni Victoria o'r llyfr Anecdotes, 'personal traits, and characteristic sketches of Victoria the First'

Fodd bynnag, ni chafodd rihyrsal o'r seremoni ei chynnal, a bu sawl camgymeriad i amharu ar y diwrnod. Roedd allor yng nghapel St Edward wedi'i llwytho â brechdanau a photeli o win. Gorfododd Archesgob Caergaint y fodrwy ruddem ar bedwerydd bys Victoria, heb sylweddoli ei bod wedi'i gwneud i ffitio'r pumed. Daliodd yr Arglwydd Rolles, 82 oed, ei droed yn ei wisg a chwympo ar y grisiau i'r orsedd.

Cafwyd dathliadau mewn mannau eraill ar draws Prydain hefyd, gyda 15,000 o bobl wedi ymgasglu yng Nghaergrawnt am wledd.

Fodd bynnag, yn ardaloedd diwydiannol gogledd Lloegr, nid oedd 'gwyliau cenedlaethol' seremoni'r coroni yn cael ei ystyried yn achlysur ar gyfer dathlu. Yn wir, roedd protestiadau ar draws y gogledd, gydag Oldham yn cynnal ei wyliau ei hun gyda'i arwyddeiriau ei hun.

Roedd Victoria yn credu y byddai hi'n 'remember this day as the proudest of my life.'

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig