Alis Huws: Telynores frenhinol yn 'rhan o hanes'

  • Cyhoeddwyd
Alis HuwsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Alis ei gwersi cyntaf gan y telynor enwog Ieuan Jones

Dechreuodd Alis Huws ganu'r delyn pan roedd hi'n 10 oed drwy gael gwersi ger ei chartref yn Nyffryn Banw, Powys.

Ond ddydd Sadwrn, bydd Alis yn canu'r delyn yn Abaty Westminster ar ddiwrnod coroni Charles III.

Dywedodd Alis ei bod hi'n "fraint bod yn rhan fach o hanes" ac y bydd yn "ddiwrnod cofiadwy iawn".

Cafodd Alis ei phenodi yn delynores frenhinol yn 2019 a bydd chwarae yng ngherddorfa'r coroni yn uchafbwynt ei phedair blynedd yn y rôl.

Telyn yn y tŷ

Cafodd Alis ei dysgu gyntaf gan y telynor o fri rhyngwladol Ieuan Jones, athro'r delyn yn y Coleg Cerdd Brenhinol, yn ei gartref ym mhentref Meifod ym Mhowys.

Dywedodd Alis: "Yn yr ardal lle wnes i dyfu i fyny, doedd hi ddim yn rhy anarferol cael telyn yn y tŷ neu yn y teulu.

"Roedd gennym ni delyn mam yn y tŷ a gan fy mod i'n un o bedwar o blant roedd rhaid i un ohonom ni gael gwersi.

"Felly es i at Ieuan am wersi tan i fi droi'n 18 oed ac yna mynd i ffwrdd i'r coleg lle wnes i astudio gyda Caryl Thomas, a threuliais ychydig o amser yn Amsterdam hefyd fel rhan o fy nghwrs 'Masters' gydag Erika Wardenburg."

Ffynhonnell y llun, Alis Huws

Nawr, ddeunaw mlynedd ar ôl dechrau chwarae'r offeryn am y tro cyntaf ym Maldwyn wledig, bydd Alis yn canu'r delyn frenhinol yn Abaty Westminster ar ddiwrnod coroni Charles III ar 6 Mai.

Dywedodd Alis - sydd bellach yn 28 oed ac yn byw yn Llundain - fod ei thaith o gyffwrdd â'r delyn am y tro cyntaf i chwarae i bwysigion mewn palasau wedi bod yn amrywiol.

"Dwi dal i chwerthin fy mod yn delynores oherwydd i lot o bobl sy'n gerddorion proffesiynol, yn 15 oed baswn i byth wedi meddwl y baswn i'n delynores broffesiynol."

O'r fferm i'r palas

Cafodd Alis ei magu ar fferm ac mae'n hoffi mynd adref pan mae'n gallu rhwng ymrwymiadau gwaith yn Llundain.

Mae galwadau gwaith weithiau yn gallu golygu symud o gorlan defaid i balas mewn ychydig o oriau.

"Does gen i ddim diwrnod arferol yn fy ngwaith. Er enghraifft, dw i wedi bod adre ar y fferm yn y canolbarth yn helpu yn y bore, ac wedyn neidio ar y trên a mynd i St James' Palace ar gyfer digwyddiad yn y nos.

"Mi wnes i gael cawod yn y canol, do'n i ddim yn drewi o'r defaid pan gyrhaeddais i Lundain!"

Disgrifiad o’r llun,

Alis gyda disgyblion Ysgol Cedewain, Y Drenewydd - lle mae'n cyflwyno'r delyn i gynulleidfaoedd na fyddent efallai'n ei chlywed yn fyw fel arall

Dim ond un rhan o fywyd Alis yw ei rôl fel y delynores frenhinol.

Mae hi wedi chwarae mewn cartrefi gofal, ac yn ddiweddar fe gwblhaodd hi brosiect mewn ysgolion ym Mhowys gafodd ei drefnu gan Live Music Now - elusen sy'n mynd â cherddorion proffesiynol at bobl sy'n profi eithrio cymdeithasol neu anfantais.

Eglurodd Alis, ei fod yn offeryn mawr a dros 6 troedfedd o uchder yn ei chloriau.

"Pan dwi'n dod mewn i'r ystafell yn aml iawn 'da chi'n clywed y plant yn mynd 'Beth yw'r faneg fawr yma sy'n dod i mewn?'

"Mae'n gwneud argraff weledol ar y plant hyd yn oed cyn i fi ddechrau ei chwarae hi a dwi'n teimlo efo plant sydd ddim yn siarad o gwbl, maen nhw'n dal i ymateb yn dda i'r delyn!"

'Edrych ymlaen'

Cafodd Alis ei phenodi yn delynores frenhinol gan y Tywysog Charles, fel yr oedd e ar y pryd, yn 2019.

"Mae'n fraint i mi gael bod yn rhan fach o'r hyn sy'n mynd i fod yn ddiwrnod cofiadwy iawn i'r wlad gyfan, a rhan fach o hanes.

"Mi fydda i'n chwarae fel rhan o'r gerddorfa yn yr Abaty a dwi'n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o'r diwrnod," meddai.

"Pan dwi ar ddyletswydd i'r teulu brenhinol dwi'n canu telyn aur arbennig iawn. Cafodd ei rhoi i Dywysog Cymru, fel oedd e ar y pryd, yn 2005. Mae'n offeryn arbennig, hardd iawn a dyna'r delyn y bydda i'n chwarae yn y coroni."

Disgrifiad o’r llun,

Telyn aur fydd Alis yn ei chanu yn y coroni

Yn Abaty Westminster, bydd Alis yn ymuno â Cherddorfa'r Coroni i chwarae un o weithiau y cyfansoddwr o Gymru, Karl Jenkins.

Dywed Alis ei bod yn hapus i fod yn rhan o'r elfennau Cymreig yn y coroni.

"Mae'n rôl i yn y digwyddiad yn adlewyrchu perthynas y Brenin efo Cymru a bydda i'n chwarae trefniant Karl Jenkins o 'Tros y Garreg', a bydd alaw werin yn cael ei chanu hefyd."

Ychwanegodd Alis: "Dwi'n lodes o Sir Drefaldwyn, ac mae'n neis cael y linc yna. 

"Mae'n gymaint o fraint i gael fy ngofyn i chwarae. Mae 'na lwyth o gerddoriaeth newydd wedi cael ei chomisiynu gan ddeuddeg o gyfansoddwyr, felly dwi'n edrych ymlaen at gael rhannu'r gerddoriaeth newydd yma gyda'r byd."