'Dylai prifysgol fod wedi rhannu gofidion fy mab'

  • Cyhoeddwyd
Emma Laney
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emma Laney yn dadlau ei bod yn bosib y byddai pethau wedi bod yn wahanol petai hi wedi cael gwybod am drafferthion ei mab

Mae mam myfyriwr Prifysgol Aberystwyth a laddodd ei hun ddyddiau ar ôl rhannu gyda'r brifysgol ei fod yn ystyried hunanladdiad, yn dweud y gallai pethau wedi bod yn wahanol pe bai ei deulu wedi cael gwybod ei fod yn dioddef.

Bu farw Charlie McLeod, oedd yn hanu o Winchester, ym Mhrifysgol Aberystwyth fis Chwefror eleni yn 25 oed.

Nawr mae ei fam, Emma Laney, yn amau os oedd digon wedi cael ei wneud ar gyfer ei mab wrth siarad â'r gwasanaeth llesiant.

Dywedodd Prifysgol Aberystwyth eu bod "yn cynnig gwasanaethau lles helaeth sy'n cynnwys cynnig cymorth a chefnogaeth i'r rhai mewn angen, a hwyluso mynediad at wasanaethau statudol arbenigol lle bo'n briodol".

Ychwanegwyd fod y brifysgol wedi bod mewn cysylltiad â Charlie "trwy gydol" y flwyddyn.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Charlie (chwith) gyda'i frawd, Max a'i chwaer, Angel

Dywedodd Emma: "Pe byddan nhw wedi cysylltu â'i deulu adre', mae'n bosib y byddai pethau wedi bod yn wahanol. Dy'n ni byth yn mynd i wybod, yn anffodus."

Yn sgil marwolaeth Charlie, mae grŵp o fyfyrwyr yn y brifysgol wedi sefydlu ymgyrch 'Charlie Asked for Help', gan alw ar y brifysgol i ailystyried sut mae myfyrwyr yn cael eu trin wrth brofi argyfwng iechyd meddwl.

Bydd Emma yn cofio ei mab fel "dyn hynod alluog" oedd yn "frawd mawr arbennig" i Max ac Angel.

Yn ei 20iau cynnar, symudodd Charlie i China, gan weithio fel athro Saesneg i blant ifanc - cyfnod yr oedd yn falch iawn ohono.

Popeth 'i weld yn bositif'

Wedi ei gyfnod yno, fe ddechreuodd ar gwrs cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

"Roedd ei farciau yn dda. Roedd e wastad yn dweud bod e'n gwneud yn dda ar y cwrs a bod ganddo ddiddordeb enfawr ynddo," meddai ei fam.

"Roedd e wedi gwneud ffrindiau newydd. Roedd yr holl gyfnod i weld yn bositif iddo."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe dreuliodd Charlie McLeod gyfnod yn China fel athro Saesneg cyn astudio yn Aberystwyth

Ond yn ystod yr haf y llynedd, roedd Emma a'r teulu wedi sylweddoli newid mawr yn Charlie.

"Fe aeth e 'nôl ar ôl yr haf a dyna pryd roedd y cyfathrebu wedi dechrau dirywio. Roedd hi'n anodd cael e i ffonio ond roedd e'n dweud yn aml fod e'n brysur.

"Adeg Nadolig roedd ysbryd Charlie i weld yn isel. Doedd e ddim eisiau bod yn rhan o unrhyw beth. Roedd popeth i weld yn ymdrech. Doedd e jyst ddim fel ei hunan."

'Teimlad aruthrol bod rhywbeth o'i le'

Cafodd Emma wybod fod Charlie wedi mynd i adran frys ysbyty ar 25 Ionawr eleni yn sgil ei iechyd meddwl.

Y diwrnod canlynol roedd wedi mynychu sesiwn cwnsela gyda gwasanaeth llesiant y brifysgol, lle ddywedodd ei fod yn meddwl am hunanladdiad.

Dywed Emma ei fod wedi cael "teimlad aruthrol fod rhywbeth o'i le", felly fe benderfynodd i gael tad Charlie i ffonio'r brifysgol.

Oriau'n ddiweddarach daeth y teulu i wybod bod Charlie wedi lladd ei hun.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Emma Laney yn cwestiynu a gafodd ei mab ddigon o gefnogaeth

"Dwi'n teimlo dylai lot mwy fod wedi cael ei wneud - mwy o gyfathrebu, mwy o rannu gwybodaeth," meddai Emma.

"Pe byddan nhw wedi cysylltu ag adre' neu hyd yn oed arbenigwr, mae'n bosib y byddai pethau wedi bod yn wahanol.

'Mewn cysylltiad drwy gydol y flwyddyn'

Dywedodd Prifysgol Aberystwyth: "Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad dwysaf gyda ffrindiau a theulu Charlie ar adeg mor eithriadol o anodd.

"Er na allwn drafod amgylchiadau unigol, fe fuodd ein tîm Lles Myfyrwyr mewn cysylltiad â Charlie drwy gydol y flwyddyn academaidd 22/23, gyda'r nod o ddarparu cymorth uniongyrchol ynghyd â bod yn ddolen gyswllt i wasanaethau iechyd ac iechyd meddwl statudol y GIG lle bo'n briodol.

"Fel prifysgol rydym yn cynnig gwasanaethau lles helaeth sy'n cynnwys cynnig cymorth a chefnogaeth i'r rhai mewn angen, a hwyluso mynediad at wasanaethau statudol arbenigol lle bo'n briodol.

"Mae gwrando a gweithredu ar adborth gan ein myfyrwyr yn bwysig iawn i ni.

"Rydym yn adolygu ein prosesau'n barhaus ac yn diweddaru ein harferion, gan gynnwys galw ar gyngor allanol ac arfer gorau sy'n datblygu'n barhaus, i sicrhau ein bod yn rhoi'r cymorth gorau posibl i'n myfyrwyr."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Charlie gyda'i fam Emma

Romana Nemcová, 22, oedd cariad Charlie yn y brifysgol. Mae hi nawr yn galw am newid fel rhan o ymgyrch Charlie Asked For Help.

"Mae'n holl bwysig oherwydd roedd Charlie yn berson anhygoel," dywedodd.

"Dwi eisiau creu newid i fyfyrwyr y dyfodol fel bo' nhw ddim yn dioddef fel wnaeth Charlie ddioddef.

"Mae'n bosib y byddai Charlie dal yma pe bai wedi cael help, a dyna sy'n anodd i fi."

Mae ymgyrchwyr Charlie Asked For Help yn dweud bod angen gwell cyfathrebu rhwng y gwasanaeth llesiant a myfyrwyr, yn ogystal â sicrhau bod 'na gymorth ar gael i fyfyrwyr sydd eisiau cofrestru gyda meddyg teulu wrth symud i'r brifysgol.

Mae'r awgrymiadau yma'n cael eu cefnogi gan elusen iechyd meddwl Area 43 yng Ngheredigion.

'Dim digon o arian' ar gyfer gwasanaethau

Becca Head ydy cydlynydd partneriaeth Dyfodol Ni, sy'n gweithio gydag Area 43 a sefydliadau eraill i sefydlu cynllun ar gyfer gofal iechyd meddwl yn y dyfodol.

Fel rhan o'i gwaith mae Becca yn siarad â channoedd o bobl ifanc i ddeall beth maen nhw eisiau gweld yn digwydd.

"Does dim digon o arian ar gael i'r gwasanaethau," meddai.

"Mae pawb eisiau gwneud yn well. Heblaw bod 'na funding yn ei le, 'dyn ni byth yn mynd i gyrraedd 'na. S'dim digon o arian yn y sector i wneud e ond mae'r demand 'na.

"Mae eisiau mwy o lefydd anffurfiol i bobl ifanc. Dyw cwnsela neu gyngor ffurfiol ddim wastad yn gweithio."

Mae Undeb Myfyrwyr Cymru hefyd yn dweud bod angen strategaeth genedlaethol i brifysgolion er mwyn sicrhau fod myfyrwyr yn cael y cymorth sydd ei angen.

Mewn ymateb fe ddywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi "sefydlu grŵp arbenigol i roi cyngor ar sut i wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl a sicrhau bod prifysgolion ledled Cymru yn cael cymorth cyson a hygyrch i fyfyrwyr".

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.