Sadwrn y coroni: Beth sy'n digwydd heddiw?
- Cyhoeddwyd
Bydd hi'n benwythnos hanesyddol yn Llundain wrth i'r Brenin Charles III a'i wraig Camilla gael eu coroni'n swyddogol yn Abaty Westminster.
Mae disgwyl i'r gwasanaeth ddechrau am 11:00, gan blethu hanes, traddodiad a cherddoriaeth.
Mae'r canwr Bryn Terfel yn canu yn y Gymraeg a'r delynores o Bowys, Alis Huws, yn rhan o berfformiad o gyfansoddiad gan Karl Jenkins o Abertawe.
"Mae'n rôl i yn y digwyddiad yn adlewyrchu perthynas y Brenin efo Cymru a bydda i'n chwarae trefniant Karl Jenkins o 'Tros y Garreg', a bydd alaw werin yn cael ei chanu hefyd," meddai Alis Huws.
Mae'r orymdaith swyddogol yn cychwyn am 10:20 gyda'r Brenin a'i wraig yn teithio ar hyd rhai o strydoedd enwocaf Llundain, heibio miloedd o bobl, tuag at leoliad y seremoni.
Wedyn, wedi iddo gymryd llw, fe fydd Brenin Charles III yn gwisgo coron St Edward.
Bydd clychau'r abaty yn canu am ddau funud, yn ogystal â thrwmpedau, a bydd cyfarchion gwn yn cael eu tanio ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys yng Nghaerdydd.
Wedi i'r seremoni grefyddol ddod i ben, fe fydd yna ail orymdaith drwy'r ddinas, yn gwau ei ffordd yn ôl tuag at Balas Buckingham.
Fe fydd bron i 4,000 o aelodau lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn cymryd rhan. Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi disgrifio'r digwyddiad fel yr ymgyrch seremonïol filwrol fwyaf o'i fath ers cenhedlaeth.
Ceffyl o Gymru'n rhan o'r cyfan
Fe fydd ceffyl a fagwyd yng nghysgod Foel Cwm Cerwyn yn arwain yr orymdaith.
Mae Ed - neu Uwch-gapten Apollo i ddefnyddio ei enw newydd - yn geffyl drwm gyda'r Cafalri Brenhinol. Cafodd ei ddewis i fod yn rhan o orymdaith angladdol y Frenhines nôl ym mis Medi, ac fe fydd nawr yn arwain gorymdaith o geffylau'r Cafalri Brenhinol.
Fe yw'r ail geffyl o dri i gael eu gwerthu gan fferm Ceffylau Gwedd Dyfed yn Eglwyswrw i'r Cafalri Brenhinol. Mae'n dilyn ôl traed Celt, a gafodd ei ddewis fel ceffyl drwm yn 2008.
Mae Huw Murphy, sy'n rhedeg y ffarm gyda'i deulu, wedi bod yn Llundain yn gwylio paratoadau Apollo ar gyfer y diwrnod mawr, gan ddisgrifio'r profiad fel "braint fawr".
"Dyma'r Coroni cyntaf mewn 70 mlynedd ac i feddwl bod ceffyl gwedd o orllewin Cymru yn rhan o'r seremoni... mae'n rhywbeth i ni'n cymryd balchder mawr ynddo," meddai.
"Fe fydd ar flaen y prosesiwn - y ddau geffyl drwm yn cerdded o flaen band y Cafalri Brenhinol.
"Mae'r paratoadau wedi bod yn mynd 'mlaen ers wythnosau."
'Dim cyfiawnhad dros y gwariant'
Gwern Gwynfil yw prif weithredwr y mudiad YesCymru, sy'n ymgyrchu dros sicrhau annibyniaeth i Gymru.
"Dy'n ni ddim yn mynd i feirniadu'r Teulu Brenhinol, does dim diddordeb 'da ni yn hynny," meddai.
"Mae'r sefydliad yn edrych i ddefnyddio'r coroni fel modd o uno'r Deyrnas Unedig.
"Mae mwy a mwy o bobl yn meddwl a sylweddoli falle nad oes 'na unrhyw gyfiawnhad am hawlfraint drwy enedigaeth ac am awdurdod drwy enedigaeth."
Mae Mr Gwynfil yn cwestiynu'r ddadl fod y Teulu Brenhinol yn rhoi hwb ariannol i'r wlad.
"Allai ddim gweld unrhyw gyfiawnhad am wario chwarter biliwn ar seremoni diwrnod," meddai.
"Ry'n ni'n aml yn clywed y stori 'ma bod nhw'n ychwanegu at dwristiaeth. Wel, ma' mwy o dwristiaid yn mynd i Versailles yn Ffrainc o lawer. Fi ddim yn credu bod hynna'n dal dŵr."
Roedd yna ddathliad cynnar yn nhref Treffynnon, Sir Y Fflint ddydd Gwener ar ddechrau penwythnos y coroni, gan gynnwys gorymdaith, te parti i breswylwyr cartrefi gofal, ffair, marchnad a pherfformiad gan blant cynradd lleol.
"Mae'r dref yn llenwi ac mae pobl wrth eu boddau yn dathlu," meddai crïwr y dref, Chris Baglin, sy'n disgrifio'i rôl fel un sy'n "rhan o'r pomp a'r rhwysg... a hanes gwledydd Prydain".
"Mae'n hwb i fusnesau lleol i gael pobl i ddod i'r dre' i wario a chefnogi'r farchnad a busnesau bach."
Ychwanegodd un o drigolion y dref, Roberta Owen: "Dwi rili yn dilyn y coroni - mi wna'i edrych arno ar y teledu - ond dwi rhwng dau feddwl drwy'r amser am y frenhiniaeth.
"Ella bod o ddim yn rhy berthnasol i anghenion Cymru ond mae Charles wedi bod yn ddyn da iawn ac wedi gweithio yn galed iawn dros bobl ifanc - a'r amgylchedd, sydd mor bwysig iddo.
"Mae hefyd yn dibynnu ar bersonoliaeth y brenin a'r frenhines. Pe bai Andrew yn frenin 'sa hi'n ddiwedd ar y frenhiniaeth.
"Ond dwi'n meddwl hyd yn oed os y bydd Cymru yn annibynnol rhyw ddiwrnod, a dwi'n gobeithio y bydd o, 'dan ni dal yn perthyn i Ynys Prydain ac fel symbol o gyfeillgarwch rhwng gwledydd Prydain mae cyfle i rywun sy'n dda fel Charles i fod yna."
Roedd y dathliad yn beth da i siopau'r dref, medd Ieuan ap Siôn, ac mae ganddo sawl peth da i'w ddweud am y Brenin Charles, ond does dim bwriad ganddo i wylio'r coroni.
"Mae o'n ddigwyddiad hanesyddol ond 'di o'm yn frenin i mi," dywedodd.
"O ran Carlo mae'n chap da dros ben ac yn 50 mlynedd o flaen yr oes yn sôn am y tywydd a newid hinsawdd. Roedd pobl yn neud sbort am ei ben o ar y pryd, ond fo oedd yn iawn yn y diwedd.
"Mae'n foi da a phob hwyl iddo fo - ond 'di o ddim yn frenin i mi a dwi'n siarad fel Cymro."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mai 2023
- Cyhoeddwyd4 Mai 2023
- Cyhoeddwyd3 Mai 2023
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2023