Rhybudd Tata fod dyfodol ansicr i'w busnes dur yn y DU
- Cyhoeddwyd
Mae Tata Steel wedi rhybuddio bod eu busnesau yn y DU yn wynebu "ansicrwydd materol", oherwydd amgylchiadau'r farchnad a lefel cefnogaeth Llywodraeth y DU.
Yn ôl Tata mae asesiadau o allu eu busnes Ewropeaidd i wrthsefyll dirywiad economaidd wedi codi pryderon ar eu hochr Brydeinig.
Ond fe wnaeth y cwmni ddweud eu bod nhw'n disgwyl i amodau masnachu wella yn nes ymlaen eleni.
Mae Adran Fusnes Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod nhw'n darparu cefnogaeth i warchod y diwydiant dur rhag "costau masnachu ac ynni annheg".
Aros am gymorth llywodraeth
Mae'r cwmni o India yn cyflogi tua 8,000 o bobl yn y DU, gyda tua hanner y swyddi hynny yng ngwaith dur Port Talbot.
Mewn adroddiad blynyddol yr wythnos diwethaf, dywedodd Tata bod enillion Tata Steel Europe - sy'n cynnwys yr ochr Brydeinig - i lawr o dros 60% yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth.
Fe wnaeth y cwmni hefyd sôn eu bod nhw wedi cynnal profion i asesu effeithiau posib dirywiad economaidd yn Ewrop, gan gynnwys ffactorau fel chwyddiant a chyfraddau llog uwch.
Yn ôl y profion byddai rhagolygon eu busnesau ym Mhrydain yn cael eu heffeithio'n negyddol, ond yn ôl y cwmni, maen nhw'n parhau i weithredu ar nifer o fesurau i geisio gwella perfformiad y busnes a rhyddhau mwy o arian parod.
Ym mis Gorffennaf y llynedd fe ddywedodd Tata Steel y byddai'n rhaid gwneud penderfyniad dros dyfodol y busnes o fewn y 12 mis nesaf.
Un ansicrwydd sydd ganddyn nhw yw lefel y gefnogaeth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU.
Mae'r cwmni yn parhau i fod mewn trafodaethau gyda'r llywodraeth ynglŷn â grantiau er mwyn eu helpu nhw i symud i ffwrdd o ddefnyddio glo.
Mae adroddiadau wedi awgrymu y bydd y cwmni'n cael £300m, ond mae amcangyfrifon y gallai cost datgarboneiddio'r ffatri ym Mhort Talbot gostio hyd at £3bn.
Mae angen penderfyniad ar y gefnogaeth cyn hir gan fod bywyd y ffwrnesi chwyth ar y safle yn dod i ben, a byddai ffwrnesi trydan yn cymryd tua pedair i bum mlynedd i'w hadeiladu.
'Amodau heriol'
Fis diwethaf fe ddywedodd Tata Steel UK wrth y Senedd eu bod nhw eisiau "chwarae teg" gyda'u cystadleuwyr yn Ewrop er mwyn symud oddi wrth ddefnyddio glo.
Yn ôl cyfarwyddwr datgarboneiddio'r cwmni, Huw Morgan, mae'r cwmni Almaenig Salzgitter wedi cael €1bn er mwyn datgarboneithio - "hanner" beth mae'n credu maen nhw ei angen i wneud y newid.
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Fusnes Llywodraeth y DU: "Rydyn ni'n ystyried llwyddiant y sector dur yn flaenoriaeth, a byddwn ni'n parhau i weithio'n galed dros y diwydiant i'w helpu i sicrhau dyfodol heb garbon, sy'n gynaliadwy a chystadleuol."
Mewn datganiad, dywedodd Tata Steel UK eu bod wedi wynebu "amodau heriol yn y farchnad" ar ddechrau'r flwyddyn, ond bod pethau wedi gwella ers hynny.
"Rydyn ni'n disgwyl y bydd hyn - a chamau rydyn ni'n eu cymryd i wella perfformiad y busnes - yn sicrhau ein bod ni'n dod drwy'r cyfnod hwn," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2023