Amseriad gwaith atal llifogydd yn pryderu masnachwyr

  • Cyhoeddwyd
Y gwaith i'r ardal o'r awyr

Mae'r gwaith wedi cychwyn ar gynllun atal llifogydd i amddiffyn rhan adnabyddus o arfordir Cymru.

I alluogi'r gwaith yn Y Mwmbwls, Abertawe, mae stondin bwyd môr poblogaidd ymhlith y rhai sy'n gorfod symud.

Gyda disgwyl i'r gwaith gymryd 18 mis i'w gwblhau, bydd hefyd yn golygu newidiadau i'r promenâd hanesyddol.

Yn ôl perchennog The Gower Seafood Hut, Chris Price, mae amseriad y gwaith yn "bryder" wrth i'r prisiau godi i bawb.

Mae'r cynllun 1.3 cilomedr yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, sydd eleni yn gwario'r swm uchaf erioed ar eu rhaglen lliniaru llifogydd.

Mae arogl cocos wedi'u ffrio yn yr awyr yn gwyro tuag at giw o bobl wrth i Chris Price reoli'r gril y tu mewn i'r bocs ceffyl glas a gwyn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris Price, a'i bartner Sarah, yn rhedeg The Gower Seafood Hut sydd ar agor rhwng Mawrth a Medi

Gyda'i bartner, Sarah, mae'n rhedeg stondin bwyd môr tymhorol rhwng misoedd Mawrth a Medi, ond mae'n dweud fod gwerthiant ar i lawr i'w gymharu â blynyddoedd a fu.

"Gyda'r trên bach a'r rhesel beiciau hefyd yn cael eu symud, mae'n achosi pryder," meddai.

"Mae busnesau'r Mwmbwls mor ddibynnol ar yr haf, dyw dechrau ar y gwaith ar ddechrau'r tymor ddim yn ddelfrydol."

'Hyder, er y tarfu'

Mae'n farn a rennir gan rai pobl lleol sy'n teimlo bod y gwaith yn mynd ymhell y tu hwnt i'r cynllun gwreiddiol i ddiogelu tua 120 o gartrefi.

Ychwanegodd Chris: "Rwy'n gobeithio bod y cynlluniau'n adlewyrchu treftadaeth a hanes Y Mwmbwls a bod yna rywfaint o gydnabyddiaeth o hynny yn y cynlluniau, a'i fod ddim jest yn edrych yn fodern a allai fod yn unrhyw le."

Mae busnes arall, Bibby's Beans, hefyd wedi'u symud.

"Mae wedi tarfu ychydig," medd y perchennog Marc Bibby, ond mae'n "dal yn eithaf hyderus am yr haf".

Disgrifiad o’r llun,

Am y tro dyw Marc Bibby ddim yn bwriadu symud eto

Gyda disgwyl i'r gwaith gymryd 18 mis, mae Marc yn amau y bydd yn aros lle mae ar hyn o bryd am y rhan fwyaf o'r cyfnod hwnnw.

"Mae 'na lot o waith yn digwydd ac rydyn ni'n gwerthfawrogi hynny. Y peth ydy os nad ydyn nhw'n ei wneud mae'r Mwmbwls yn mynd i ddiflannu o'r hyn rydyn ni'n ei ddeall."

Amddiffyn tai a busnesau

Bydd y gwaith ar Y Mwmbwls yn ymestyn 1.3km ar hyd yr arfordir, gan warchod cartrefi ac eiddo yn yr ardal ond gan hefyd newid y promenâd hanesyddol.

Bydd morglawdd newydd yn cael ei adeiladu ac ail wal derfyn, gan wthio'n ôl a lledu'r promenâd presennol.

Mae'n cael ei rannu'n ddarnau 100m gyda rhannau'n cael eu ffensio wrth i'r gwaith fynd rhagddo.

Bydd y cwrtiau tennis yn cael eu defnyddio fel ardal storio, gyda lle ar gyfer peiriannau sy'n golygu bydd yna lai o lefydd parcio dros dro.

Mae'n rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i amddiffyn cartrefi a busnesau rhag tywydd mwy eithafol.

Mae tua chwarter miliwn o gartrefi mewn perygl ar draws Cymru ar hyn o bryd, sef un o bob wyth.

Mae'n broblem ddrud i'w thaclo i lywodraeth Cymru gan fod y £71 miliwn a'i wariwyd y llynedd wedi cynyddu i £75 miliwn eleni.

Bydd rhaglen Llywodraeth Cymru yn gweld cyfanswm o £215 miliwn yn cael ei wario ar reoli perygl llifogydd dros dair blynedd, gan ganolbwyntio ar brosiectau sy'n amddiffyn cymunedau.

Dywed Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru, Ioan Williams, fod y buddsoddiad yn gam i'r cyfeiriad cywir i ddiogelu cartrefi, datblygiadau masnachol a seilwaith ffyrdd mawr.

"Mae yna sgwrs y mae angen i ni ei chael yma gyda llywodraethau, awdurdodau lleol a chymunedau ynghylch polisi cynllunio.

"Lle rydym yn adeiladu eiddo, lle rydym yn adeiladu ysgolion, ysbytai a seilwaith arall i wneud yn siŵr eu bod yn wydn ar gyfer y dyfodol".

Pynciau cysylltiedig