Cyn-gadeirydd: ‘Rhaid i’r rhai euog adael Plaid Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Plaid Cymru logo

Mae cyn-gadeirydd Plaid Cymru yn dweud y dylai'r rhai sy'n euog o ymddygiad amhriodol adael y blaid.

Roedd Alun Ffred Jones yn siarad ar ôl i adroddiad hynod feirniadol ganfod enghreifftiau eang o fwlio, aflonyddu a misogynystiaeth o fewn Plaid Cymru.

Ymddiswyddodd arweinydd y blaid, Adam Price, ar ôl i'r adroddiad, "Prosiect Pawb", gael ei gyhoeddi gan ddweud nad oedd ganddo gefnogaeth unedig ei gydweithwyr bellach.

Bydd arweinydd newydd yn cael ei ddewis dros yr haf, ond mae'r arweinydd dros dro, Llyr Gruffydd wedi addo gweithredu.

Wrth siarad â rhaglen Politics Wales y BBC, dywedodd Alun Ffred Jones, sy'n gyn-aelod cynulliad a fu'n weinidog yn Llywodraeth Cymru hefyd, y dylai unrhyw un sy'n gyfrifol adael y blaid.

"Os ydych chi'n gyfrifol am ymddygiad amhriodol difrifol, beth bynnag fo hynny, a does gen i ddim syniad beth allai hwnnw fod, yna mae'n rhaid i chi ystyried ymddiswyddo," dywedodd

Aeth ymlaen i wneud sylwadau ar awgrymiadau nad yw Plaid Cymru yn unedig, gyda'r cyngor yma i'w aelodau: "Mae'n rhaid i chi gofio beth yw prif bwrpas y blaid, a pheidio ag ymladd ymysg eich gilydd dros bethau a all fod yn faterion ymylol."

'Heriau sylweddol'

Mae cyngor cenedlaethol y blaid bellach wedi cadarnhau penodiad Llyr Gruffydd fel arweinydd dros dro, ac yn dweud bod gan y rhai sydd â diddordeb mewn sefyll am y swydd hyd at Fehefin 16eg i gyflwyno enwebiadau.

Wrth wneud sylw ar yr adroddiad, dywedodd Llyr Gruffydd "Rydym wedi bod yn myfyrio, rydym yn diwygio, a byddwn yn adfywio ein hamcanion yn sgil casgliadau Prosiect Pawb."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Llyr Gruffydd wedi'i benodi fel arweinydd dros dro y blaid

Ond dywedodd Dr Elin Royles o Brifysgol Aberystwyth fod yna heriau sylweddol yn wynebu'r arweinyddiaeth.

Dywedodd: "Rwy'n meddwl bod rhai o'r pethau ry'n ni wedi'u clywed ers cyhoeddi'r adroddiad yn awgrymu nad yw rhai pobl ar lawr gwlad o fewn y blaid wedi gwerthfawrogi pa mor sylfaenol yw rhai o'r herion, ac mae angen newid diwylliant yn llwyr o fewn y blaid i fynd i'r afael â rhai o'r materion hynny."

Mwy am y stori hon ar Politics Wales, ar BBC One Wales am 10:00yb ar 14 Mai.

Pynciau cysylltiedig