Plaid Cymru yn cadarnhau Llyr Gruffydd fel arweinydd dros dro
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru wedi cadarnhau mae Llyr Gruffydd yw arweinydd dros dro y blaid ddydd Sadwrn, yn dilyn ymddiswyddiad Adam Price.
Fe wnaeth cyngor cenedlaethol y blaid gwrdd er mwyn cadarnhau enwebiad Mr Gruffydd, wedi iddo gael cefnogaeth grŵp y blaid yn y Senedd.
Mewn datganiad dywedodd Mr Gruffydd ei fod yn addo "myfyrio, diwygio, ac adfywio" gan amlinellu ei weledigaeth am ddyfodol y blaid.
Bydd yn arweinydd dros dro nes i un parhaol gael ei gadarnhau.
Dywedodd Plaid Cymru y bydd enwebiadau ar gyfer yr arweinyddiaeth barhaol yn cau ar 16 Mehefin 2023, gydag arweinydd newydd yn ei le erbyn yr haf.
Daeth ymddiswyddiad Mr Price yn dilyn adolygiad damniol a ddaeth i'r casgliad bod diwylliant o "aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth" o fewn y blaid.
Wrth gyhoeddi ei fwriad i ymddiswyddo, dywedodd ei fod wedi bod eisiau ymddiswyddo ynghynt, ond ei fod wedi cael ei berswadio i aros er mwyn gweithio i drwsio'r problemau.
Mae disgwyl i Mr Gruffydd gymryd yr awenau'n ffurfiol ar 17 Mai.
Mewn datganiad dywedodd: "Mae'n fraint enfawr cael y cyfrifoldeb o arwain Plaid Cymru," a hynny mewn "amser tyngedfennol" i'r blaid.
Ychwanegodd fod darganfyddiadau'r adolygiad yn groes i werthoedd y blaid a bod gan Blaid Cymru uchelgais "i fod yn blaid gynhwysol, yn blaid sy'n gwerthfawrogi ei staff."
"Bydd cyflymu'r broses o ddiwygio yn flaenoriaeth i adain wirfoddol, wleidyddol a phroffesiynol y Blaid."
Beth yw'r cyngor cenedlaethol?
Mae cyngor cenedlaethol yn cynrychioli aelodaeth plaid yn ehangach, ac mae'r math o sefydliad dy'ch chi ond yn clywed amdano pan fo plaid yn chwilio am arweinydd newydd.
Mae cannoedd o bobl o fewn y blaid yn gymwys i fynychu, ond mae BBC Cymru ar ddeall mai tua 100 sy'n gwneud hynny fel arfer.
Roedd cynrychiolaeth yno o lywodraeth leol, aelodau etholedig o'r Senedd a San Steffan, pwyllgor gwaith y blaid, a grwpiau o fewn y blaid, fel adain Menywod Plaid Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2023
- Cyhoeddwyd11 Mai 2023
- Cyhoeddwyd10 Mai 2023