Protest cefnogwyr Bangor dros bryderon stadiwm

  • Cyhoeddwyd
Protest 1876
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 20 o gefnogwyr yn protestio ar Stryd Fawr Bangor brynhawn Sadwrn

Bu cefnogwyr Clwb Pêl-droed Bangor 1876 yn cynnal protest yn y ddinas brynhawn Sadwrn yn sgil ffrae ynglŷn â dyfodol stadiwm.

Wrth i'r clwb obeithio sicrhau dyrchafiad i gynghrair y Cymru North y tymor nesaf, y disgwyl oedd y byddent yn symud i brif stadiwm y ddinas yn Nantporth.

Ond bellach mae'r dyfodol yn ansicr.

Ers ei ffurfio yn 2019 mae'r clwb - sy'n cael ei redeg gan ei gefnogwyr - wedi bod yn defnyddio caeau Prifysgol Bangor yn Nhreborth.

Ond os gawn nhw ddyrchafiad dydy'r cyfleusterau yno ddim yn cwrdd â gofynion yr ail haen.

Mae Nantporth CIC, y cwmni sy'n rhedeg Stadiwm Nantporth, yn rhentu'r cyfleuster gan Gyngor Dinas Bangor.

Ond gyda'r cyngor yn bygwth mynd a nhw i gyfraith yn sgil dyledion o £63,000, mae prif noddwyr Bangor 1876 yn dweud y gallan nhw dynnu eu cefnogaeth yn ôl os bydd y clwb yn symud i Nantporth heb fod y sefyllfa wedi newid.

'Be sy'n ein herbyn ni ydi amser'

Hyd yn oed os daw dyrchafiad wedi'r gêm ail gyfle ym Mhrestatyn ddydd Sadwrn nesaf yn erbyn Cefn Albion, does ond ddeufis tan dechrau'r tymor newydd.

Oherwydd hynny mae'r amser i ganfod ateb yn prinhau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Bangor 1876 wedi chwarae ar gaeau Treborth ers 2019, gyda'r clwb wedi'i sefydlu gan gefnogwyr CPD Dinas Bangor oedd yn anfodlon a'r ffordd oedd eu cyn-glwb clwb yn cael ei redeg.

Mae'r clwb eisoes wedi datgan y gallan nhw orfod chwarae y tu allan i ddinas Bangor os nad yw'r anghydfod yn cael ei ddatrys.

Dywedodd Les Pegler, un o gefnogwyr Bangor 1876: "Da ni'n cerdded o waelod y dref i Ffordd Ffarrar [cyn stadiwm CPD Dinas Bangor] i dynnu sylw at y sefyllfa.

"Gobeithio fyddan ni'n gallu datrys be sy'n mynd ymlaen.

"Fysa cyrraedd yr ail haen yn goblyn o gamp... 'da ni'n cael rhyw 300 i'n gemau adref felly mae'r cefnogaeth yna.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedod Les Pegler mai pwrpas y brotest oedd tynnu sylw i'r sefyllfa

"Mae Treborth wedi bod yn grêt i ni ond sa ni'n methu chwarae yna season nesa'.

"Mae angen i'r CIC a'r Cyngor Dinas ddod i gytundeb.... yr unig beth sy'n ein herbyn ni ydi amser.

"Da ni'n hyderus neith ddigwydd mewn amser, ond mater o pa bryd?"

Ychwanegodd Huw Pritchard, un o drefnwyr y brotest: "Ar y funud fysa Bangor yn gorfod chwarae tu allan i'r ddinas, a dydi hynny ddim yn dda i'r gymuned na'r ieuenctid.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw Pritchard yn benderfynol y dylai'r clwb barhau i chwarae ym Mangor

"Da ni'n troi rho pressure ar y parties i gael y stadiwm yn ôl i bobl Bangor.

"Da ni ddim isho chwarae y tu allan i'r ddinas."

'Sefyllfa cymhleth'

Dywedodd Cadeirydd Bangor 1876, Glynne Roberts, fod cytundeb yn ei le i chwarae yn Nantporth ond fod "cymhlethdodau" wedi dod i'r amlwg.

Ychwanegodd nad oedd unrhyw drafodaethau eto dros chwarae mewn unrhyw faes cyfagos y tu allan i'r ddinas, ond byddai angen cychwyn sgyrsiau o'r fath os yn llwyddo i sicrhau dyrchafiad.

Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Bangor 1876 yn y pendraw yw symud i Nantporth

"Mae ein prif noddwr ni wedi nodi ei anfodlonrwydd ein bod ni'n mynd fewn hefo Nantporth CIC," meddai Mr Roberts.

"Gan eu bod nhw [Nantporth CIC] mewn dyled, fod o'n teimlo fod nhw'n ansefydlog ac ddim mewn sefyllfa i'n cynnal ni yn y tymor hir.

"Oherwydd hynny 'da ni mewn sefyllfa, oni bai fod y CIC yn gadael a'r cyngor dinas yn cymryd drosodd, fydd hi'n anodd iawn i ni gael dyrchafiad a chwarae oddi fewn y ddinas.

"Bwriad yr orymdaith ydi i'r cefnogwyr ddatgan eu cefnogaeth yn gyhoeddus i'r clwb ond hefyd i'r awdurdodau perthnasol i ddatrys hyn.

"Mae'r cefnogwyr yn cytuno gyda safbwynt ein prif noddwr, felly mae'r neges wedi ei anelu at y CIC yn gofyn iddyn nhw sefyll o'r neilltu fel fod y cyngor dinas yn gallu cymryd drosodd ac ein bod ni'n gallu chwarae yna.

"Yr unig ffordd i ni chwarae yno ydi fod rheolaeth y stadiwm yn newid drosodd."

Dydy Cyngor Dinas Bangor ddim am wneud sylw pellach ar hyn o bryd, ond dywedon nhw'n gynharach fod yr "anghydfod yn ymwneud â thorri telerau'r les yn barhaus" ac bod ganddyn nhw gyfrifoldeb i "weithredu er budd trethdalwyr Bangor".

Yn ôl cwmni Nantporth CIC, maen nhw mewn cysylltiad gyda Chyngor Dinas Bangor ac yn bwriadu cwrdd yn ystod yr wythnosau nesaf i drafod y sefyllfa.

Pynciau cysylltiedig