'Diffyg cyfleoedd i bobl Trelái' wedi arwain at anhrefn
- Cyhoeddwyd
Mae 'na bryder ymhlith rhai aelodau o'r gymuned yn Nhrelái fod diffyg cyfleoedd i bobl ifanc yr ardal wedi arwain at yr anhrefn yno nos Lun.
Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, mewn gwrthdrawiad gan sbarduno golygfeydd treisgar yn yr ardal.
Cafodd ceir eu rhoi ar dân a gwrthrychau eu taflu at blismyn, gan arwain at nifer o bobl yn cael eu harestio, gyda phump o bobl yn cael eu cludo i'r ysbyty.
Ers hynny, mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi cadarnhau y byddan nhw'n cynnal ymchwiliad annibynnol i amgylchiadau'r gwrthdrawiad.
Daeth lluniau camerâu cylch cyfyng (CCTV) i'r amlwg sy'n dangos fan heddlu yn dilyn dau berson ifanc oedd ar foped neu feic trydan ar stryd arall funudau cyn y gwrthdrawiad angheuol.
Mae Comisiynydd Heddlu De Cymru yn mynnu nad oedd Kyrees Sullivan a Harvey Evans yn cael eu herlid gan y llu ar y pryd.
'Does gennym ni ddim byd yma'
Bu Darren Sullivan yn hyfforddwr yng Nghlwb Bocsio Amatur Highfields yn Nhrelái am 10 mlynedd, cyn iddo gau ym mis Hydref y llynedd.
Dywedodd fod cau'r clwb bocsio wedi cael effaith enfawr ar y gymuned.
"Mae'n rhwystredig iawn. Dyw hi ddim yn deg ar y plant," meddai'r hyfforddwr 37 oed.
"Dwi'n cael rhieni'n ffonio yn gofyn a oes unrhyw ddiweddariad? Ydw i'n gwybod os ydyn ni hyd yn oed yn mynd i agor eto?"
Dywedodd fod rhieni "eisiau eu plant oddi ar y strydoedd", ond mae colli'r gampfa focsio wedi bod yn "enfawr".
"Roedden nhw wrth eu bodd yno, mae'n rhoi ffocws iddyn nhw, mae'n rhoi breuddwyd iddyn nhw."
Wrth ymateb i'r golygfeydd o derfysg, dywedodd Darren nad oedden nhw'n sioc enfawr.
"Dydw i ddim wedi synnu. Mae pobl wedi cythruddo, mae pobl yn rhwystredig," meddai.
"Does gennym ni ddim byd yma, does ganddyn nhw ddim byd ar ôl i'w wneud, maen nhw wedi'u gadael i redeg o gwmpas y strydoedd."
Mae llawer o deimladau Darren yn cael eu hadleisio gan ei fam, Lynda Sullivan, cadeirydd elusen leol, Ely Garden Villagers.
Chafodd hi mo'i synnu gan olygfeydd nos Lun chwaith.
"Dwi'n meddwl fod pobl yn disgwyl i rywbeth tebyg ddigwydd," meddai'r fam 57 oed.
Mae hi'n credu bod y "diffyg cefnogaeth" a'r "cyfleoedd cyfyngedig" wedi cael effaith fawr ar bobl ifanc lleol.
"Doedd dim angen beth ddigwyddodd o gwbl. Mae gan lawer o bobl yma lawer o barch at yr heddlu," meddai.
"Ond mae angen i blant gael rhywbeth i edrych ymlaen ato, maen nhw'n dod adre o'r ysgol nawr ac yn gofyn 'ble allen ni fynd?'
"Mae angen mwy o bethau positif o fewn ein cymuned."
'Nid tlodi sy'n sbarduno trais'
Mae'r Cynghorydd Russell Goodway yn un o dri chynghorydd dros ward Trelái, a bu'n arweinydd Cyngor De Morgannwg a Chaerdydd rhwng 1993 a 2004.
Er gwaethaf y buddsoddiad a'r gefnogaeth a roddwyd i Drelái yn dilyn terfysg 1991, nid oedd wedi trawsnewid pobl o ran cyfoeth unigol, meddai.
"Nid tlodi sy'n sbarduno trais", dywedodd a chondemniodd ymddygiad y rheiny fu'n gyfrifol gan ddweud eu bod yn "ddifeddwl".
Ychwanegodd fod y rhan fwyaf o bobl yr ardal "wedi dychryn yn llwyr", gan fod "ymdeimlad gwych o gymuned" yn Nhrelái fel arfer, a'i fod yn credu nad oedd llawer o'r rheiny oedd yn rhan o'r terfysg yn dod o'r ardal leol.
"Dylai pobl fod wedi meddwl am deuluoedd y bechgyn ifanc, a'r boen a'r drasiedi mae'n rhaid eu bod nhw'n ei deimlo," ychwanegodd.
Yn ôl y cymdeithasegydd, Dr Simon Williams, mae seicoleg a chymdeithaseg yn dangos y gallai tlodi, "drwgdybiaeth" a "dadrithiad" yn yr ardal fod wedi cyfrannu at y terfysg.
"Mae'n bwysig peidio ag esgusodi a chyfiawnhau trais," meddai'r darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe.
"Ond rwy'n meddwl yr hyn y gallwn ei wneud yw edrych ar rai o'r amodau i'n helpu i egluro pam y gallai hyn fod wedi digwydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai 2023
- Cyhoeddwyd23 Mai 2023
- Cyhoeddwyd2 Medi 2021