Harbwr Pwllheli... neu ddolffin?

  • Cyhoeddwyd
Y trwyn wrth Harbwr Pwllheli yn edrych fel pen dolffin o'r awyrFfynhonnell y llun, Pwllheli Drone Photos

Mae'n edrych fel darn o gelf naturiol mae artist wedi ei greu ar lan y môr efo gwymon a cherrig, ond ffotograff o harbwr Pwllheli wedi ei dynnu o'r awyr ydi hwn.

Wedi ei dynnu gan Rhys Jones a'i bostio ar ei dudalen Facebook, Pwllheli Drone Photos, mae siâp y traeth a'r amddiffynfeydd cerrig bob ochr i aber yr afon Erch yn edrych fel dolffin neu lamhidydd (porpoise) neu hyd yn oed aderyn yn ceisio hedfan o'r tir.

"Dwi wedi bod i fyny sawl gwaith uwch ben y marina ond newydd sylwi ar hyn. Roedd yn ddarganfyddiad anhygoel," meddai Rhys a dynnodd y llun ddechrau mis Mai ar lanw uchel.

"Unwaith ydach chi'n wedi ei weld o, fedrwch chi ddim ei ddad-weld!"

Ffynhonnell y llun, Pwllheli Drone Photos

Mae dolffiniaid yn cael eu gweld o gwmpas arfordir Cymru yn weddol gyson ac mae yna ysgol o tua 300 o ddolffiniaid trwyn potel yn byw ym Mae Ceredigion.

Ydi'r harbwr ym Mhwllheli yn trio ymuno efo nhw?!

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig