Betsi Cadwaladr: Cyngor cyfreithiol cyn cyhoeddi adroddiad

  • Cyhoeddwyd
Betsi Cadwaladr - ysbytai

Mae'r bwrdd iechyd sy'n gyfrifol am wasanaethau'r GIG yn y gogledd yn cael cyngor cyfreithiol ar faint o'r adroddiad ariannol damniol y gellir ei gyhoeddi.

Mae fersiwn o'r adroddiad a ddangoswyd i BBC Cymru yn dangos bod swyddogion cyllid ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gwneud cofnodion anghywir bwriadol i'w cyfrifon eu hunain.

Dywedodd cadeirydd dros dro'r bwrdd iechyd nad yw'r bwrdd wedi cyhoeddi yr adroddiad hyd yma am nad ydyn nhw am feio pobl penodol.

Ychwanegodd Dyfed Edwards bod "proses yn ei lle i ddelio â materion penodol".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd EY yn honni bod eu gwaith wedi ei "rwystro" gan newid i ddogfen, a'r ffaith bod cofnod o gyfarfod wedi ei ddileu

Roedd adroddiad gan gwmni cyfrifwyr EY a ddangoswyd i BBC Cymru yn dangos fod y bwrdd wedi rhoi cyfrifon anghywir am filiynau o bunnoedd.

Roedd EY yn honni bod eu gwaith wedi ei "rwystro" gan newid i ddogfen, a'r ffaith bod cofnod o gyfarfod wedi ei ddileu.

Wrth siarad ar raglen BBC Politics Wales dywedodd Mr Edwards ei fod yn "adroddiad difrifol a oedd yn codi nifer o faterion o bwys".

"Mae'n rhaid i ni adlewyrchu'r cyfan, nid dim ond rhai manylion," ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen cyngor cyfreithiol ar faint o'r adroddiad ariannol damniol y gellir ei gyhoeddi. medd y cadeirydd newydd Dyfed Edwards

"Ac rwy'n credu mai un o'r cwestiynau y mae'n rhaid i ni oedi uwch ei ben yw, 'be arweiniodd at amgylchiadau lle roedd y bwrdd yn teimlo bod yn rhaid iddyn nhw gomisiynu rhywun y tu allan i'r sefydliad i edrych ar gyfrifon?

"Mae diwylliant yn gallu arwain at [bob math] o ymddygiad - felly beth oedd yr amodau yn y sefydliad ar y pryd a wnaeth achosi pobl i feddwl bod yn rhaid gwneud hyn?

"Hefyd, mae gweithrediadau o'r fath yn gwbl ddifrifol ac mae'n rhaid i bobl fod yn gyfrifol amdanyn nhw.

"Mae yna broses yn ei lle i hynny ddigwydd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am wasanaethau gofal i dros 700,000 o bobl

Wrth iddo gael ei holi pam nad oedd yr adroddiad yn gyhoeddus fe atebodd Mr Edwards gan ddweud: "Fel gydag unrhyw adroddiad tebyg, pan mae gennych adroddiad sy'n enwi pobl, yn gyfreithiol mae'n rhaid i chi sicrhau nad ydych yn beio pobl tra bod y broses yn digwydd."

Ychwanegodd bod y bwrdd yn "ceisio cael cyngor cyfreithiol er mwyn sicrhau be sy'n bosib ei ddatgelu a be na sy'n bosib wrth i'r broses fynd rhagddi."

Mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi dweud bod yr adroddiad "yn sobreiddio rhywun a bod yn rhaid gweithredu".

Dywedodd bod "unigolion allweddol sy'n cael eu henwi yn yr adroddiad wedi cael eu gwahardd.

"Wrth gwrs mae ganddyn nhw hawliau cyflogaeth cyfreithiol. Yr hyn sy'n bwysig i fi yw bod yn rhaid i ni ddilyn y broses gywir," ychwanegodd.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i'r honiadau sydd yn yr adroddiad.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Richard Micklewright fod "dim cyfathrebu wedi bod gan Eluned Morgan na'i swyddogion i ddangos eu bod yn anfodlon"

Yn y cyfamser mae Richard Micklewright, cyn-aelod annibynnol o fwrdd iechyd gogledd Cymru ac a gafodd ei orfodi i ymddiswyddo, wedi dweud bod ymddygiad y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan "gyfystyr â bwlio".

Mae'r 11 a oedd yn aelodau annibynnol o'r bwrdd wedi cwestiynu'r ffocws arnyn nhw wedi i adroddiad damniol ddweud bod y tîm gweithredol wedi camweithredu.

Mae'r tîm gweithredol yn gyfrifol am y gwasnaethau iechyd o ddydd i ddydd tra bod aelodau annibynnol o'r bwrdd yn craffu ar y penderfyniadau.

Mae'r tîm gweithredol yn parhau yn eu swyddi ac mae Mr Micklewright yn credu bod angen gwneud rhywbeth am y sawl sy'n rhan o'r tîm hwnnw.

Wrth gael ei holi a oedd e'n credu bod y bobl anghywir wedi cael eu diswyddo dywedodd Mr Edwards: "Alla' i ddim rhoi sylw ar yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol.

'Hanfodol'

"Alla' i ond ganolbwyntio ar yr hyn ry'n am ei gyflawni ar gyfer y dyfodol," meddai wrth siarad â Politics Wales.

"Ond yr hyn allai ddweud yw bod yn rhaid i ni adlewyrchu ar pam fod hynna wedi digwydd, pam bod pethau eraill wedi digwydd yn y bwrdd yn ystod y cyfnod yna.

"Rwy'n hyderus os wnawn ni greu yr amgylchaidau iawn byddwn ni'n gallu sicrhau llwyddiant gan gynnwys yr hyn rwy' i wedi'i amlinellu - mae gonestrwydd a bod yn dryloyw ac agored yn gwbl hanfodol i bob sefydliad," atebodd.