Dod i 'nabod Fflyn Edwards, actor ifanc The Crown
- Cyhoeddwyd
Er ddim ond yn 14 oed, mae gan yr actor, Fflyn Edwards, sawl rhan fawr i'w enw.
Ers ei swydd gyntaf fel y brif ran yng nghyfres CBBC The Snow Spider yn 2020, mae wedi portreadu y Wynne Evans ifanc yn y ffilm Save the Cinema, a'r cymeriad rhyfedd 'The Boy' yn y gyfres ffug-wyddonol 1899, ymhlith eraill.
Ac mae'r llanc ysgol o Cross Hands yn ddiweddar wedi gorffen ffilmio ei gymeriad mwyaf hyd yn hyn, sef y Tywysog Harry yn chweched cyfres y sioe Netflix boblogaidd, The Crown.
Cafodd sgwrs gyda Cymru Fyw am ei yrfa, ei uchafbwyntiau hyd yma, a pham ei fod wedi treulio haf 2022 yn ceisio osgoi cael lliw haul…
O lle ddaeth dy diddordeb mewn actio?
Mae Mam yn cofio pan o'n i tua tair neu bedair, fi'n pwyntio at y teledu a dweud 'allen i 'neud hwnna!'. Pan o'n i gyda'n chwaer, oedden ni wastad yn gwisgo lan ac actio cymeriadau o'r teledu, fel Kung Foo Panda a Postman Pat!
Ers o'n i'n bedair, dwi wedi bod yn mynd at stage coach yng Nghaerfyrddin. Fi'n rili joio fe. A mae e'n gwd sbi i allu 'neud e gyda pobl arall hefyd.
Rwyt ti wedi ffilmio llawer o gyfresi a ffilmiau yn ddiweddar. Sut beth yw hi i ffilmio ar set?
Fi'n cofio'r dydd cynta' ar The Snow Spider, ddim yn siŵr pam fod shwt gymaint o bobl, achos pob cornel ti'n troi o'dd rhyw bump o bobl, ac o'dd shwt gymaint o gorneli!
O'dd 1899 yn sbri i'w wneud ac yn cŵl i ffilmio fe ar y volume 'na. LED stage o'dd e, ac o'dd e'n rotatio hefyd. O'dd y cameras wedi lincio i'r LED stage, felly pan oedd y cameras yn symud, o'dd y cefndir yn gallu symud hefyd. O'dd hwnna'n brofiad rili cŵl.
Roeddet ti'n ffilmio 1899 yn ystod cyfnod COVID - sut oedd y profiad yna?
O'dd e tua saith mis, ond nôl a 'mlaen. Felly'n mynd i'r Almaen, o'dd angen cael pythefnos yn quarantine, a wedyn dod nôl gytre, o'dd pythefnos o quarantine eto.
O'dd gen i ddau ofalwr neis dros ben, o'dd wedi safio fi gyda sbri yn yr amser hynny ac hefyd wedi helpu fi i ddal lan gyda gwaith ysgol! O'n i'n lwcus iawn achos doedd gen i ddim lot o leins, so dim ond y gwaith ysgol o'n i'n ffocysu arno fe!
Mi wnes di orfod bod yn wlyb am gyfnodau hir yn ystod ffilmio 1899; oedd hwnna'n anodd?
Dwi'n cofio darllen y sgript, ond fethais i'r bit lle o'dd e'n dweud bod glaw. Felly dwi'n cofio troi lan un bore, a phan aethon ni mewn i ffilmio daeth y glaw mawr i lawr, a ges i sioc enfawr achos o'n i ddim yn gwybod ei fod e'n dod!
Dros sbel, oedd e yn mynd tymed bach yn anghyfforddus, ac o'n i'n mynd bach yn oer, ond yn lwcus, o'dd ganddyn nhw ddigon o towels!
Rwyt ti'n ddiweddar wedi gorffen cyfnod yn ffilmio cyfres The Crown, lle rwyt ti'n portreadu'r Tywysog Harry pan mae'n 13 oed. Sut beth oedd actio mewn sioe mor enfawr?
O'dd e'n brofiad rili cŵl i gael gweithio gyda shwt gymaint o bobl dalentog, yn actio ac yn gweithio tu ôl y camera. Dysgais i lawer gan bawb.
Pan ges i'r alwad i 'neud yr audition, ddywedes i wrth Mam 'sdim gobaith i fi gael y rôl'. Gawson ni alwad yn gofyn i ni fynd lan i Lundain, ac o'dd hwnna'n sioc achos o'dd gymaint o blant eraill yn mynd lan am y rôl. Ac yn sioc enfawr pan ddywedon nhw mod i wedi ei gael e.
Dywedon nhw, yr unig beth yw, so ti'n gallu cael rhagor o tan. Ac yn yr haf oedd e, ac o'n i lawr yn Nhyddewi ar y traeth!
Pan o'n i'n ffilmio yn Mallorca o'dd eli haul i gyd drosto fi, a ges i rhyw fath onesie, o'dd yn dechrau wrth traed fi ac yn mynd lan, a helmed hefyd, i stopio fi rhag cael tan!
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Wyt i'n hoffi gwylio dy hun yn actio? A fyddi di'n gwylio The Crown pan mae'n cael ei ddarlledu'n hwyrach eleni?
Dwi'n joio gweld pobl eraill dwi'n 'nabod, ond 'sai'n hoffi gweld fy hunan o gwbl!
Fi 'di gwylio pum munud cynta'r bennod gynta' o The Crown, a dyna ni. Ond falle ddechreuwn ni cyn iddo fe ddod mas!
Gyda pha actor enwog wnes di fwynhau cydweithio fwyaf?
Mae hwnna'n hawdd iawn - Dominic West. Achos mae e'n ddyn doniol, mae e'n gwybod tamed bach o bopeth, ac mae e tamed bach yn ddrwg... Ond unwaith mae'r cameras yn troi, mae e'n gallu newid y ffordd mae e'n actio; o'dd e'n troi mewn i Prince Charles, ac o'dd e'n brofiad anhygoel ei weld e'n gwneud 'na.
Beth hoffet ti ei wneud yn y dyfodol?
Yn bendant, hoffwn i wneud rhywbeth i wneud gyda ffilmio - tu ôl y camera neu o flaen y camera, os fydda i'n lwcus.
Ar set, chi'n gweld shwt gymaint o bobl yn 'neud gwahanol bethau; mae ganddyn nhw departments gwahanol, ac mae cannoedd o bobl ym mhob un. Ffefryn fi ydi'r directors, achos maen nhw'n plano popeth a maen nhw fel artistiaid, ac maen nhw'n creu golygfa pan maen nhw'n ffilmio. Hoffen i wneud hwnna.
Beth wyt ti'n ei wneud ar hyn o bryd?
Ar y funud, dwi'n cymryd dipyn bach o amser bant i ffocysu ar waith ysgol a jest i fynd ar feics gyda ffrindiau fi.
'Nath rhywun o'r Crown ofyn hwnna i mi yn ddiweddar, a 'nes i ddweud mod i'n gweithio ar 'maths test' ac o'dd e'n meddwl mai rhyw fath o feature film oedd e!
Hefyd o ddiddordeb: