Cadarnhau Rhun ap Iorwerth yn arweinydd newydd Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rhun ap Iorwerth yn gyd-ddirprwy arweinydd y blaid cyn cael ei wneud yn arweinydd

Mae aelod o'r Senedd Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth wedi cael ei gadarnhau'n arweinydd newydd Plaid Cymru.

Roedd enwebiadau ar gyfer y swydd yn cau ddydd Gwener, ac nid oedd unrhyw aelod arall o grŵp Senedd Cymru y blaid wedi sefyll yn y ras am yr arweinyddiaeth.

Roedd y blaid wedi bod yn chwilio am arweinydd newydd ers i Adam Price ildio'r awenau ym mis Mai.

Cafodd Rhun ap Iorwerth ei enwi'n arweinydd mewn cynhadledd newyddion amser cinio yng Nghaerdydd.

Ymddiswyddodd Mr Price yn dilyn adroddiadau bod diwylliant gwenwynig o aflonyddu, bwlio a chasineb at ferched wedi gwaethygu o dan ei arweiniad.

Disgrifiad,

Rhun ap Iorwerth: "Dwi'n hyderus y byddwn ni'n gallu dangos yn fuan iawn ein bod ni ar y trywydd iawn"

'Galluogi Cymru i wireddu ei llawn botensial'

Dywedodd Rhun ap Iorwerth: "Byddaf yn arwain gydag angerdd, byddaf yn arwain yn wylaidd, ond yn bwysicaf oll byddaf yn arwain plaid sy'n cynnig cartref i bawb sy'n uchelgeisiol dros greu cymdeithas decach, wyrddach a mwy llewyrchus - cartref i'r rhai sydd eisoes yn hyderus neu'n chwilfrydig am annibyniaeth, a sydd yn benderfynol o geisio tanio'r chwilfrydedd hwnnw mewn eraill.

"Yn dilyn cyfnod heriol i'r blaid, rwy'n benderfynol o ddysgu gwersi, gweithredu argymhellion Prosiect Pawb, a gosod seiliau newydd."

Gan ychwanegu mai ei weledigaeth oedd "economi gryfach a thecach sy'n gallu cefnogi gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy" a "galluogi Cymru i wireddu ei llawn botensial", dywedodd y byddai'n "brwydro dros gydraddoldeb" ac "ailddosbarthu cyfoeth a chyfle ar bob ffurf".

"Mae ar Gymru angen Plaid Cymru gref os ydym am adeiladu cenedl hyderus sy'n gweithio mewn partneriaeth gydag eraill ond gyda'i dyfodol yn gadarn yn ei dwylo ei hun," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhun ap Iorwerth wedi cynrychioli Ynys Môn ym Mae Caerdydd ers 2013

Yn siarad ar raglen Dros Ginio Radio Cymru aeth ymlaen i ddweud: "Mae manteision o gael gornest, sy'n rhoi cyfle i drafod syniadau ac yn y blaen, ond hefyd mae 'na werth go iawn o ddangos undod.

"Yr her i mi fydd ad-dalu'r ffydd sydd wedi'i roi ynddof i ac mae'r gwaith yn dechrau heddiw.

"Dylech chi ddim darllen gormod mewn i [ddiffyg ras]... mae 'na ddigon o bobl o fewn y grŵp yn y Senedd fyddai'n abl iawn i arwain y blaid.

"Mae pobl yn dod i wahanol benderfyniadau eu hunain, ond mi oedd yna'n sicr deimlad o'r gwerth o ddangos undod ar y pwynt yma mewn amser."

Cefnu ar San Steffan

Eisoes wedi ei ddewis fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer sedd Ynys Môn yn San Steffan, bydd rhaid i'r blaid yn lleol nawr ddewis ymgeisydd newydd.

Mynnodd Rhun ap Iorwerth nad oedd mynd i San Steffan wedi bod yn "uchelgais bersonol" iddo, ond ei fod wedi "ystyried sut orau i ddefnyddio fy nylanwad i ddyrchafu buddiannau Ynys Môn, Cymru a'r Blaid".

"Roeddwn yn hollol grediniol mai'r peth iawn i'w wneud oedd cynnig fy hun i sefyll yn San Steffan," meddai.

"Ond mae wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth ac mae amgylchiadau yn newid," ychwanegodd, gan ddweud ei fod wedi dod i'r penderfyniad yn dilyn "ystyried a thrafod dwys".

Wedi ei holi am pam nad oedd wedi sylweddoli ar broblemau'r blaid yn gynt tra'n ddirprwy arweinydd, dywedodd: "'Da ni ar drobwynt lle 'da ni gyd yn gorfod gofyn i'n hunain 'beth oedden ni yn methu ei weld?' 'Beth wnes i ddweud a ddim dweud, beth wnes i wneud a ddim ei wneud?'

"'Da ni gyd â gwaith rŵan o ofyn y cwestiynau yna i'n hunain, ond dwi'n hyderus yn symud ymlaen a byddaf yn ddigyfaddawd yn gweithredu argymhellion yr adroddiad yma.

"Dwi isio gwneud Plaid Cymru yn rhywle lle mae pobl yn teimlo'n ddiogel ac yn eiddgar i wthio eu hunain i wneud popeth y gallan o fewn y blaid."

Disgrifiad o’r llun,

Daw Rhun ap Iorwerth yn arweinydd Plaid Cymru ddegawd ar ôl newid o newyddiaduraeth i wleidyddiaeth

Yn ymateb i benodiad Rhun ap Iorwerth fe ddywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford ei fod yn "croesawu'r cyhoeddiad".

"Edrychaf ymlaen at berthynas waith adeiladol i barhau i gyflawni'r rhaglen uchelgeisiol a nodir yn y Cytundeb Cydweithredu tair blynedd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru."

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd, Andrew RT Davies: "Hoffwn longyfarch Rhun ar ei benodiad yn arweinydd y drydedd blaid fwyaf yng Nghymru.

"Er mai'r rheswm am y newid arweinyddiaeth oedd oherwydd anallu arweinydd blaenorol y blaid i fynd i'r afael â materion oddi fewn eu plaid.

"Gan mai Rhun oedd y dirprwy arweinydd yn y tîm hwnnw, beth sydd wedi newid?!"

'Menyw fyddai wedi bod y dewis gorau'

Cadarnhaodd Sian Gwenllian a Sioned Williams na fyddan nhw'n cymryd rhan yn yr ornest wythnos yn ôl.

Ond mewn datganiad, dywedodd y ddwy eu bod yn cytuno gyda sylwadau'r cyn-arweinydd Leanne Wood mai "menyw fyddai wedi bod y dewis gorau i arwain Plaid Cymru ar yr adeg yma".

Er hynny, roedd y ddwy wedi penderfynu peidio sefyll yn erbyn Mr ap Iorwerth.

Dywedodd Ms Gwenllian ei bod "eisiau canolbwyntio ar gyflawni polisïau blaengar, radical a phwysig y Cytundeb Cydweithio" tra bod Ms Williams wedi dweud ei bod yn "teimlo nad oes gen i'r profiad i gynnig fy enw fel ymgeisydd".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sioned Williams a Sian Gwenllian mai "menyw fyddai wedi bod y dewis gorau i arwain Plaid Cymru ar yr adeg yma"

"Nid ydym yn cynnig ein henwau fel ymgeiswyr ar gyfer Arweinyddiaeth Plaid Cymru, er ein bod yn cytuno gyda sylwadau a wnaed gan y cyn-arweinydd Leanne Wood mewn cyfweliad yr wythnos hon mai menyw fyddai wedi bod y dewis gorau i arwain Plaid Cymru ar yr adeg yma," meddai'r datganiad.

"Byddwn yn ymgyrchu i gyflwyno model newydd o gyd-arweinyddiaeth i'r dyfodol a fyddai yn fwy cynhwysol ac yn sicrhau cydraddoldeb."

Ychwanegodd y datganiad y byddan nhw'n "parchu'n llwyr canlyniad y broses bresennol ac yn cefnogi arweinydd newydd y blaid pan fydd yn cael ei gadarnhau".

Disgrifiad o’r llun,

Fe fyddai cystadleuaeth am yr arweinyddiaeth wedi bod yn gyfle i wyntyllu a thrafod syniadau, medd cyn-AS Plaid Cymru Bethan Sayed

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd y cyn-AS Plaid Cymru, Bethan Sayed bod hi "wastad yn siom i beidio gweld bod 'na ryw fath o gystadleuaeth oherwydd dyna sut 'dan ni'n ymarfer syniade, a 'dan ni'n ennyn pobl i bleidleisio droston ni am reswm".

Gan nad yw'n ymddangos y bydd yna ymgeisydd arall, mae'n dweud bod angen i'r blaid "ddod o gwmpas arweinydd newydd ac edrych i'r dyfodol".

Ond mae hi'n gobeithio y bydd modd i'r blaid greu rhyw fath o system i feithrin darpar arweinwyr benywaidd a "hwyluso" problemau o fewn yr arweinyddiaeth.

Dywedodd fod Rhun ap Iorwerth yn "eitha' cynhwysol fel person" ac yn "wastad yn barod i wrando ar farn rhywun, hyd yn oed os nad ydy e'n cytuno gyda chi".

Bydd angen rhinweddau o'r fath, meddai, wrth sefydlu "tîm cryf o'i gwmpas" sy'n adlewyrchu safbwyntiau amrywiol plaid "ymbarél" fel Plaid Cymru.

Disgrifiad,

Dywedodd y cyn-AS Elfyn Llwyd mai'r dasg i Blaid Cymru ydy "newid ei diwylliant a'r ffyrdd maen nhw'n gweithredu"

Cyhoeddodd Rhun ap Iorwerth y byddai'n sefyll mewn fideo a gafodd ei gyhoeddi ar Twitter bythefnos yn ôl, gan ddweud ei fod yn edrych ymlaen at chwarae ei ran yn uno'r blaid.

Dywedodd yn flaenorol fod yn rhaid iddi gynnig gweledigaeth o Gymru fel un "hyderus, teg, gwyrdd, llewyrchus", ac ar "daith i annibyniaeth".

Rhun ap Iorwerth oedd cyd-ddirprwy arweinydd Plaid Cymru, gyda Sian Gwenllian, cyn cael ei wneud yn arweinydd, ac ef hefyd oedd y llefarydd ar iechyd.

Llyr Gruffydd, Aelod o'r Senedd dros ogledd Cymru, fu'n arweinydd dros dro y blaid am y pum wythnos ddiwethaf.