Canolfannau clyd Cymru'n parhau ar agor yn yr haf
- Cyhoeddwyd
Yng nghanol tywydd braf mae'n anodd meddwl am ganol gaeaf.
Ond mae ymchwil gan BBC Cymru wedi darganfod bod canolfannau clyd, oedd yn cynnig lle cynnes i bobl yn ystod y tywydd oer, wedi aros ar agor yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol Cymru.
Rhoddodd Llywodraeth Cymru arian i awdurdodau lleol i noddi canolfannau clyd, gydag adeiladau cymunedol a chapeli yn cynnig ystafell ac ambell baned o de i bwy bynnag oedd yn chwilio am loches.
Yn Abertawe mae'r nifer fwyaf o ganolfannau clyd sy'n pahau ar agor.
"I ni, roedd beth wnaethon ni bob amser yn digwydd oherwydd ein cymuned," meddai Angela Owen yn y caffi newydd ym Mharc Pont-lliw.
Gyda thîm o wirfoddolwyr mae wedi trawsnewid cornel dawel o Abertawe i fod yn lleoliad bywiog er mwyn cwrdd a chymdeithasu.
"Rydym i gyd yn falch iawn o berthyn i gymuned Pont-lliw. Felly rwy'n meddwl ei fod yn wasanaeth gwerth chweil, a bydd yn tyfu," meddai Ms Owen.
Ym mis Rhagfyr 2022, fe wnaeth Llywodraeth Cymru roi cyllid i awdurdodau lleol er mwyn agor canolfannau clyd, a gynlluniwyd i gynnig lle cynnes i bobl a allai fod yn cael trafferth gwresogi eu cartrefi.
Mae ymchwil gan BBC Cymru wedi canfod bod canolfannau clyd yn y mwyafrif o awdurdodau lleol wedi aros ar agor fel mannau cymunedol.
Gyda'i chyd-wirfoddolwyr yng Nghyfeillion Parc Pont-lliw mae Angela wedi treulio'r blynyddoedd diwethaf yn plannu a thacluso un ardal o'r parc.
Y llynedd fe benderfynon nhw ddatblygu adeilad cyfagos oedd yn cael ei ddefnyddio'n rhannol fel ystafell newid tîm pêl-droed.
Gwnaeth y grŵp gais am grantiau i ariannu'r gwaith adnewyddu, a derbynion arian i ddatblygu canolfan glyd ar y safle.
Ers agor, mae'r gwirfoddolwyr wedi croesawu pobl leol gyda phaned o de a phlatiau o fisgedi.
"Roedd creu canolbwynt cymunedol bob amser yn fwriad i ni," meddai Angela.
"Mae yna griw craidd o tua 20 i 25 o wirfoddolwyr sydd yn dod ar unrhyw un adeg. Maen nhw'n garddio, ac yna maen nhw'n gweithio yn y ganolfan."
Un o'r gwirfoddolwyr yw Lyn English, ac mae hi yn angerddol am gymuned Pont-lliw.
"Rwyf wrth fy modd â'r pentref," meddai. "Rwy'n angerddol am y pentref rwy'n byw ynddo. Fe ddes i 44 blynedd yn ôl o Swydd Efrog ac rydw i wrth fy modd."
Amcangyfrifodd Lyn ei bod yn gwneud 50 paned y dydd pan mae'r ganolfan ar agor i ymwelwyr. Mae hi'n twymo'r tost ac yn gweini cacennau a bisgedi.
Mae trigolion lleol yn cerdded i lawr i gael paned, tra bod tîm o yrwyr yn casglu pobl hŷn sy'n ei chael hi'n anodd gadael y tŷ fel arfer.
Cyn i Gyfeillion Parc Pont-lliw ddechrau gweithio, roedd yr ardal "mewn ffordd wael", meddai Lyn.
"Rydyn ni eisiau ei gweld yn ffynnu. Mae gennym ni bethau wedi'u trefnu ar gyfer yr henoed, mae gennym ni famau ifanc yn dod yma gyda phlant. Mae'n hyfryd iawn."
'Hybiau'n fannau cymunedol'
Roedd gan Abertawe 94 o ganolfannau clyd yn ystod y gaeaf, a dywedodd y cyngor fod 60 ohonyn nhw'n dal i fod ar agor.
Ymhlith yr awdurdodau lleol eraill, dywedodd Sir y Fflint fod 47 yn dal ar agor i'r gymuned, mae Caerffili yn dal i gynnig 35 o ganolfannau, ac mae 30 ym Mlaenau Gwent.
Roedd y niferoedd yn amrywio mewn cynghorau eraill, gyda rhai wedi troi eu canolfannau clyd i'w ffurf wreiddiol, megis llyfrgelloedd a hybiau cymunedol eraill.
Croesawodd arweinydd cyngor Abertawe, Rob Stewart, y broses o drosglwyddo canolfannau clyd i fod yn lleoliadau cymunedol.
"Roedd yn fenter newydd, nid oedd wedi digwydd o'r blaen, ac mae wedi bod yn wych," meddai.
"Gwelsom nid yn unig y bobl yn ymateb, ac yn llwyddo i gwrdd, a'r angen dybryd o gadw pobl yn gynnes yn ystod misoedd y gaeaf, ond nawr ein bod wedi cyrraedd heulwen hyfryd yr haf mae'r hybiau hynny wedi troi'n fannau cymunedol lle mae pobl yn cyfarfod yn rheolaidd.
"Maen nhw wir wedi cymryd bywyd eu hunain," meddai.
'Croeso cynnes bob amser'
Un arall o ganolfannau clyd Abertawe oedd Eglwys Gymunedol Bont Elim ym Mhontarddulais.
Er bod iddi naws grefyddol, dywedodd y gweinidog Jason Beynon fod caffi'r ganolfan yn cynnig lle diogel, a lle i bobl leol fynd iddo heb orfod bod yn Gristion.
"Pan nad oedd gwres bellach yn broblem, roedd y croeso cynnes yn parhau i fod yn angen hanfodol yn ein hardal," meddai Mr Beynon.
Mae'r eglwys yn cynnig te, coffi a chacen i bobl sy'n mynd heibio. Mae'n denu rhieni sy'n gollwng plant i'r ysgol gyfagos, yn ogystal â thrigolion oedrannus.
"Mae'n fodolaeth unig iawn i rywun sy'n byw ar eu pen eu hunain, ac felly'r gallu i ddod i mewn i groeso cynnes - dyna'r bwriad yma, dim ots faint o heulwen sydd gyda ni y tu allan," dywedodd Mr Beynon.
"Waeth beth rydych chi'n delio gyda fe, waeth pa mor brysur ydych chi'n meddwl ein bod ni, fe fyddwch chi bob amser yn cael eich caru yma, bydd croeso cynnes bob amser, a phaned a sgwrs."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd15 Mai 2023