Joshua Roberts: Cannoedd yn cofio dyn 'annwyl a charedig'
- Cyhoeddwyd
Mae mam dyn ifanc o Wynedd a fu farw wedi gwrthdrawiad nos Wener wedi'i ddisgrifio fel "person annwyl a charedig".
Fe gafodd Joshua Lloyd Roberts, 19, o Gaernarfon ei ganfod yn dilyn y gwrthdrawiad ar Ffordd Waunfawr ger Caeathro.
Mae dyn 19 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus ac osgoi stopio ar ôl gwrthdrawiad.
Nos Iau roedd dros 600 o bobl yn bresennol mewn gêm bêl-droed er cof am Josh yn Y Bontnewydd.
Mae ei fam, Melanie Tookey, wedi diolch i'r gymuned am eu cefnogaeth tra hefyd yn galw am newidiadau i ffordd yr A4085.
"Mae 'di bod yn anodd meddwl da' ni byth yn mynd i'w weld o eto," meddai Ms Tookey.
"Ond dan ni di cael gymaint o negeseuon a tributes a donations, ac mae hynny just wedi dod a ni drwy'r cyfnod hyll ac anodd 'ma."
"Heb y petha' ar social media mi fysa fo wedi bod lot mwy anodd," meddai.
Yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, roedd Josh Lloyd Roberts hefyd yn bêl-droediwr dawnus.
Mae tudalen casglu arian gafodd ei sefydlu ddydd Mawrth eisoes wedi casglu dros £12,000 mewn ychydig dros ddiwrnod.
"Ma' 'di bod yn tonic a fedrai'm coelio faint ma'r gymuned 'di dod at ei gilydd, ma'n amazing."
'Sefyllfa erchyll'
I ychwanegu at yr ymdrechion i hel arian, cynhaliwyd gêm rhwng dau o'i gyn-glybiau nos Iau.
Gyda CPD Tref Caernarfon wedi teithio i CPD Bontnewydd, roedd casgliadau'n cael eu cynnal ar y noson.
Roedd munud o dawelwch cyn y gêm hefyd.
Ychwanegodd ei fam bod yr ymateb wedi bod yn anhygoel.
"I ni fel teulu, mae o mor overwhelming" meddai.
"Dwi mor prowd i gael mab fatha Josh, dwi mor hapus gweld fod pobl yn meddwl pethau fel 'na amdano fo, ma' hynna'n cadw fi i fynd."
"Dwi di darllen pob gair ma pobl 'di gyrru a dwi mor touched, mae'n lovely."
Adnewyddu apêl
Cafodd y cwest i'w farwolaeth ei ohirio wrth i ymchwiliad Heddlu'r Gogledd barhau.
Mae dyn 19 lleol oed bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.
Adnewyddodd yr heddlu eu hapêl am dystion a gwybodaeth, yn dilyn y gwrthdrawiad.
Maen nhw'n annog unrhyw un a deithiodd ar Ffordd Waunfawr rhwng 22:30 a 23:30 nos Wener, 2 Mehefin i gysylltu gyda nhw.
Maen nhw hefyd yn awyddus i siarad ag unrhyw un sydd â chamera cerbyd.
Gêm bêl-droed
Ar gyfer y gêm nos Iau roedd ffrindiau, cyn-chwaraewyr ac enwau adnabyddus fel Yws Gwynedd a Nathan Craig yn cymryd rhan.
"Mi fysa Josh wrth ei fod yn cael bod yn centre of attention a dan ni gyd yn edrych ymlaen yn cael dathlu bywyd Josh yn lle ypsetio, dyna 'sa Josh yn licio."
"Oedd o'n hogyn fysa'n gneud y gora' o'r sefyllfa a trio rhoid rwbath yn ôl."
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd Elis Ynys Thomas, cyd-ddisgybl Josh yn yr ysgol oedd hefyd yn chwarae ag o yn nhîm Bontnewydd:
"Mae'r sefyllfa i gyd wedi bod yn un erchyll," meddai, gan ychwanegu, "i'r gymuned, ffrindiau ac enwedig i'r teulu".
"Simon Jones, manager Bontnewydd gafodd y syniad a ma' 'di dechrau tudalen sydd wedi codi dros £10,000 i deulu Josh a swn i'n licio cymryd y cyfle i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu a dwi'n siŵr 'sa Josh yn overwhelmed.
"Fe fydd yn gyfle heno i'r gymuned ddod at ein gilydd, dedicatio'r gêm a'r diwrnod yma i Josh.
"Fe fydd yn gyfle i siarad a chofio Josh a gobeithio codi arian a chael hwyl achos 'na be 'sa Josh isio.
"Fe fydd y teulu yna a ma' nhw 'di gofyn am funud o dawelwch."
Gwella diogelwch
Mae Ms Tookey wedi bod i weld safle'r gwrthdrawiad ar ffordd yr A4085 rhwng Stad Ddiwydiannol Peblig a Chaeathro.
Mae hi'n galw am newidiadau er mwyn gwella diogelwch: "Mae isho trio sortio rwbath allan am y lon beryg 'na.
"Pan o'n i yna y bora ar ôl, pan oedd pobl 'di bod yna 'efo blodau a sgarffia, oedd pobl dal yn speedio heibio, er eu bod nhw'n gweld teulu yno mewn tristwch a dal ddim 'efo digon o barch.
"Mae angen palmant, a speedbumps a goleuadau i nadu hyn ddigwydd eto de, achos ma lot o bobl yn neud y walk yna," meddai.
"Dwi'n annog pobl, y gymaint sydd wedi sgwennu negeseuon am Josh, i fynd ar ôl yr achos yna 'de a chwffio am lon gwell."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Rydym yn cydymdeimlo'n fawr gyda theulu a ffrindiau Josh Roberts ar yr amser trist ac anodd yma.
"Fel yn achos pob damwain angheuol, byddwn yn cydweithio'n agos gyda'r heddlu ac yn ystyried os oes unrhyw gamau y dylid eu cymryd yn seiliedig ar gasgliadau'r ymchwiliad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2023