Eisteddfod: 'Cyfnod anodd wedi negeseuon annheg'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Betsan Moses
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Betsan Moses bod y cyfnod diweddar wedi bod yn anodd i rai o staff yr Eisteddfod

Mae'r cyfnod diweddar wedi bod yn "gyfnod anodd" iawn i'r Eisteddfod Genedlaethol, medd y prif weithredwr Betsan Moses, wrth i "bobl fod yn haerllug ac yn bersonol iawn".

Dywed ei bod hi ac Ashok Ahir, cadeirydd Bwrdd Rheoli'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cael "negeseuon personol, annheg ac amhriodol" a bod yna reidrwydd i fod "yn barchus i'n gilydd".

"Dwi wedi dweud wrth staff, camwch yn ôl... mae'n rhaid i ni ddiogelu ein hartistiaid ni, bod yn glir o ran y croeso i'r 'Steddfod ond hefyd bod yn driw i'n rheol iaith ni," meddai mewn cyfweliad ar raglen Bore Sul, Radio Cymru.

Daw ei sylwadau wedi i Sage Todz ddweud na fydd yn perfformio yn y Brifwyl eleni gan fod penaethiaid wedi dweud wrtho bod gormod o Saesneg yn ei ganeuon.

Mae'r mater wedi cael cryn sylw ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda rhai'n mynegi siom ac eraill yn cefnogi rheol yr Eisteddfod, sy'n nodi bod yn rhaid i artistiaid berfformio yn y Gymraeg.

Ddechrau'r wythnos fe ddywedodd dwy gantores, Izzy Morgana Rabey ac Eadyth Crawford, na fyddan nhw'n perfformio yn gig y pafiliwn yr Eisteddfod eleni heblaw bod y polisi iaith ar gyfer "artistiaid sydd wedi'u gwahodd" yn newid.

'Doedd yna erioed waharddiad'

Wrth ymateb i gwestiwn am alwad y Gweinidog Economi Vaughan Gething i ailystyried y rheol iaith ac y byddai cynnwys artist fel Sage Todz yn yr Eisteddfod yn dod â'r Gymraeg i gynulleidfa ehangach, dywed Ms Moses ei fod "yn ymateb i rywbeth oedd yn dweud bod yna waharddiad... a do'dd yna erioed waharddiad a dwi'n mynd i ddweud mai cyfrifoldeb newyddiadurwyr yw gwirio eu geiriad".

Gan gyfeirio at y BBC a Nation.Cymru dywedodd Ms Moses: "'Wy'n teimlo, ar adegau, bod newyddiadura wedi troi'n clickbait a bo' ni wedi colli golwg o'r gwir gan nad yw e'n gwerthu cystal, ac felly mae'r gair gwahardd yn swnio'n well na 'mae 'na drafodaeth neu benderfyniad na fydd yn cymryd rhan'."

Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sage Todz - neu Toda Ogunbanwo, i roi ei enw iawn - yn artist dril amlwg yn y sin gerddoriaeth Gymraeg

Dywed Ms Moses bod rhai o'r negeseuon personol y mae hi wedi'u derbyn "yn cynnwys honiadau cwbl ddi-sail".

"Mae angen sicrhau bod y dystiolaeth yno cyn bod y stori'n cychwyn... mae'n mynd a mynd a mynd wedyn fel y sgwrs am wahardd artist.

"Doedd hynna ddim yn wir, ond mi roddwyd y pennawd yna a beth ddigwyddodd wedyn yw bod y naill ochr yn ymosod ar ei gilydd.

"Dwi'n gweld weithiau ar y cyfryngau cymdeithasol bod pobl yn teimlo 'alla i drin rhywun mewn unrhyw fodd' heb sylweddoli mai unigolion yw'r rhain," ychwanegodd gan ddweud bod lle i rannu barn ond bod angen dangos parch wrth wneud hynny.

Doedd Nation.Cymru na'r BBC ddim am wneud sylw ar y mater.

Parchu'r rheol iaith

O ran y rheol iaith dywedodd "ei bod yn swnio fel rhywbeth negyddol ond mae'n wythnos mewn blwyddyn lle mae rhywun yn gallu clywed y Gymraeg".

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

"Rhaid parchu rheol iaith yr Eisteddfod," medd y prif weithredwr Betsan Moses

"Ni wedi cael e-bost hyfryd gan ddysgwyr yn dweud bod 'y rheol yn bwysig i ni - mae'n golygu ein bod ni yn gallu ymdrochi yn yr iaith a gweld lle y'n ni ar y siwrne'.

"Rhaid parchu pawb... penderfyniad artistiaid, ond mae'n rhaid i ni hefyd barchu'r rheol ac mae'r 'Steddfod ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg a rhoi cyfle i bobl gael eu trochi yn y Gymraeg.

"Mae'n bwysig cael Maes B drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n unigryw i ni... mae cyfle 'na i weld iaith, afiaith iaith. [Mae'r 'Steddfod] yn ŵyl Gymraeg."

Wrth gael ei holi am yr ymgynghoriad a'r penderfyniad cychwynnol am y corau dywed Betsan Moses bod yn rhaid parchu canlyniad yr ymgynghoriad a bod pawb wedi cael cyfle i gyfrannu.

"Mi fyddai'n wych petai ni'n gallu rhoi llwyfan i bawb - ond fe fyddai hynny'n golygu y byddai rhaid i ni gael mis o 'Steddfod," meddai.

"Ar hyn o bryd mae'r datrysiad un tro ar gyfer pawb torfol - ry'n ni'n mynd i adolygu ond ni'n mynd i orfod bod yn driw i'r hyn ddigwyddodd gyda'r ymgynghoriad."

Cadarnhaodd y bydd y pwyllgorau canolog yn edrych eto ar y mater ac y bydd canllawiau clir erbyn diwedd y flwyddyn.

Dywedodd hefyd bod yr Eisteddfod, fel "pob gŵyl arall allan yna yn wynebu heriau na welwyd eu bath o'r blaen" a bod yna sgyrsiau wedi bod, yn sgil pryderon, a yw wyth diwrnod yn rhy hir.

Cydweithio gyda pobl leol

Wrth gael ei holi am sylwadau personol Myrddin ap Dafydd am ddiffyg trafodaeth rhwng y swyddfa ganolog a phobl yr ardal dywedodd Ms Moses bod sylwadau o'r fath "yn amharchus i'r bobl leol sy'n gweithio mor galed".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Myrddin ap Dafydd ei fod yn teimlo, yn y blynyddoedd diwethaf, fod yr elfen o berchnogi'r ŵyl yn lleol yn cael "ei thanseilio"

"Ni'n cydweithio a dyna sy'n wych hefyd o ran y rhaglenni yw bod y lleol a'r cenedlaethol yn cael eu dathlu law yn llaw," meddai.

"O ran y 'Steddfod fel endid ma'n rhaid wrth lywodraethiant. Ro'dd 'na rhywun yn dweud wrtha i y byddai'n dda petai'r lleol yn cael penderfynu popeth... [sut mae] gwario £6.7m ond gelen ni ddim arian cyhoeddus heb bod gynnon ni weithdrefnau, ein bwrdd... a'n bod ni'n gallu gwirio fel mae pob dimau yn cael ei wario... ac mae 'na lais lleol ar ein bwrdd ni.

"Mae'r cadeiryddion lleol yn rhan o'r trafodaethau hynny.

"Mae'n rhaid wrth lywodraethiant clir, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o arian cyhoeddus neu arian lle mae pobl wedi talu i fynd mewn drwy'r gât."

'Drych o Gymru yw'r 'Steddfod'

"Drych o Gymru yw'r 'Steddfod," meddai wrth gael ei holi a oes yna ymgais i wneud y 'Steddfod yn fwy o ŵyl.

"Dwi'n ochneidio bob tro fi'n clywed y gair 'Gŵyl' - fel 'sen i wedi rhegi.

"Ar ddiwedd y dydd mae'r Steddfod yn 'steddfod o fewn 'steddfod ac yn ŵyl o fewn gŵyl a dyna sy'n wych amdani.

"Mae 'na rywbeth i bawb - ma' gynnon ni'r cystadlu. Mae cystadlu yn ganolog i'r 'Steddfod ond hefyd ma' gynnon ni'r Babell Lên, Llwyfan y Maes a digwyddiadau eraill sy'n meddiannu'r maes.

"Mae angen y cyfan i ddweud mai dyma'r Gymru gyfoes."

Mae'r cyfweliad i'w glywed yn llawn ar raglen Bore Sul Radio Cymru ac yna ar BBC Sounds.

Pynciau cysylltiedig