Gwrthdrawiad Ysbyty Llwynhelyg: Merch fach wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Mabli Cariad HallFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mabli Cariad Hall ei chludo i Gaerdydd ac yna i Fryste, lle bu farw o'i hanafiadau ddydd Sul

Mae merch fach wyth mis oed wedi marw ychydig ddyddiau ar ôl i gar daro pobl ger ysbyty yn Sir Benfro.

Cafodd Mabli Cariad Hall ei hedfan o Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd i Gaerdydd ar ôl iddi hi a cherddwr arall gael eu taro gan gar ddydd Mercher.

Fe gafodd ei chludo i Ysbyty Plant Bryste, lle bu farw o'i hanafiadau yn oriau mân y bore ddydd Sul.

Mewn teyrnged dywedodd ffrind i'r teulu fod Mabli yn blentyn "pert, hapus, fyddai o hyd yn gwenu".

Mae gyrrwr y car - BMW gwyn - yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol, ond sydd ddim yn peryglu bywyd.

Mae teithiwr o'r BMW a'r cerddwr arall a gafodd ei daro eisoes wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty.

Disgrifiad o’r llun,

Mae teyrngedau wedi'u gadael i Mabli ger safle'r gwrthdrawiad y tu allan i Ysbyty Llwynhelyg

Mewn datganiad ar gyfryngau cymdeithasol dywedodd ffrind i'r teulu, Sinéad Morris, mai gyda "chalon drom" y bu'n rhaid cyhoeddi fod Mabli wedi dioddef "anafiadau a oedd yn rhy ddifrifol i'w gwrthdroi".

"Er diwrnodau o gryfder aruthrol gan Mabli, croesodd yn heddychlon dros y bont enfys ym mreichiau cariadus Gwen a Rob yn oriau mân ddydd Sul," meddai.

Ychwanegodd Ms Morris fod y teulu am "fynegi eu diolch mwyaf i'r gweithwyr iechyd ymroddedig a fu'n rhan o ofal Mabli."

Mae ymgyrch codi arian eisoes wedi casglu dros £20,000 i'r teulu.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd BMW gwyn yn rhan o'r gwrthdrawiad

Dywedodd dirprwy brif weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda, yr Athro Phil Kloer fod y bwrdd wedi eu "tristau'n ofnadwy" gan farwolaeth Mabli, a'u bod yn cydymdeimlo â'r teulu.

"Mae effaith y gwrthdrawiad wedi'i deimlo ar draws ein teulu yn Hywel Dda ac mae'r bwrdd iechyd yn gweithio i gefnogi cleifion, ymwelwyr a staff oedd yn bresennol ar y pryd," meddai.

"Diolch i'n staff a sefydliadau eraill fu'n helpu gyda chymaint o dosturi, ymroddiad ac arbenigedd, ac i'n cymuned am y gefnogaeth."

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y crwner wedi cael gwybod am y farwolaeth, a bod y teulu yn derbyn cefnogaeth swyddogion arbenigol.

Pynciau cysylltiedig