'Angen ymestyn safonau'r Gymraeg i gwmnïau dŵr' medd gweinidog
- Cyhoeddwyd
Mae angen i gwmnïau dŵr ddod o dan reoliadau safonau'r Gymraeg, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu.
Mae Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy yn cydnabod manteision o gydymffurfio â'r safonau arfaethedig, ond hefyd yn nodi y byddai costau ychwanegol sylweddol.
Mae Gweinidog y Gymraeg Jeremy Miles yn bwrw ymlaen gyda chyflwyno rheoliadau safonau'r Gymraeg er bod ei ragflaenydd Eluned Morgan wedi oedi gwneud hynny yn 2018 am fod "y broses o wneud a gosod y safonau yn llafurus, costus a chymhleth".
Bwriad y safonau yw:
cynyddu defnydd pobl o wasanaethau Cymraeg;
gwella'r gwasanaethau Cymraeg y gall siaradwyr Cymraeg eu disgwyl gan gyrff;
ei gwneud yn glir i gyrff yr hyn y mae angen iddynt ei wneud o ran y Gymraeg.
'Sawl man gwan'
Ond dywedodd Cymdeithas yr Iaith bod "sawl man gwan" yn y rheoliadau newydd.
Meddai Sian Howys ar ran y gymdeithas: "Fydd dim rhaid i gynnwys fel clipiau sain a fideo a dogfennau ar y wefan fod yn Gymraeg er enghraifft, felly gallai'r wefan Gymraeg fod yn llai cynhwysfawr na'r wefan Saesneg - gan drin y Gymraeg yn llai ffafriol.
"Ac er bod ap a chyfleusterau sgwrsio yn cael eu cynnwys mewn rheoliadau am y tro cyntaf, mae eithriadau tebyg arnyn nhw fydd yn golygu gwasanaeth llai cynhwysfawr yn Gymraeg."
Ychwanegodd Sian Howys bod "dim rheswm i beidio gosod disgwyliadau uwch ar gwmnïau dŵr".
"Maen nhw'n parhau i wneud elw sylweddol ac mae gan y llywodraeth darged o filiwn o siaradwyr erbyn 2050 felly dylai osod disgwyliadau uwch wrth osod rheoliadau o'r math yma."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y "cynhaliwyd ymgynghoriad llawn ac mae'r safonau yn adlewyrchu'r adborth o'r ymgynghoriad yna".
'Tro cyntaf'
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y Gymraeg, Heledd Fychan AS: "Mae gosod rheoliadau iaith ar gyfer y diwydiant dŵr gerbron y Senedd, diolch i Blaid Cymru, yn gam arwyddocaol arall yn y gwaith o weithredu Mesur y Gymraeg 2011 yn llawn.
"Er mai adnodd cyhoeddus yw dŵr, mae'r maes wedi'i breifateiddio gan y Torïaid. Ond os bydd Senedd Cymru yn cymeradwyo'r safonau yma ym mis Medi, hwn fydd y tro cyntaf i ni osod dyletswyddau iaith statudol ar y sector 'breifat' - gan gryfhau gallu pobl Cymru i ddefnyddio'r Gymraeg gyda hyder a sicrwydd y gyfraith tu ôl iddyn nhw.
"Mae'n gam cyntaf at gymryd rheolaeth yn ôl ar y gwasanaethau sylfaenol rydym i gyd yn dibynnu arnyn nhw ac at sicrhau bod pobl Cymru yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn ddiethriad fel mater o ddisgwyliad ym mhob agwedd ar eu bywydau."
Cyflwynwyd safonau'r Gymraeg fel rhan o Fesur y Gymraeg 2011 oedd yn un o elfennau cytundeb "Llywodraeth Cymru'n Un" rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru.
'Gosod esiampl'
Mae Dŵr Cymru yn dweud eu bod yn cydnabod "pwysigrwydd gosod esiampl o ran defnyddio'r Gymraeg, fel un o gyflogwyr mwyaf Cymru ac un o gwmnïau angori Llywodraeth Cymru", a bod eu "hymrwymiad i'r Gymraeg yn chwarae rhan sylweddol wrth ennill ymddiriedaeth cwsmeriaid".
Dywed y byddai'r safonau yn "adlewyrchu'r pwysigrwydd y mae'r cwmni yn ei roi ar sicrhau bod cwsmeriaid yn gallu cysylltu â'r cwmni yn eu dewis iaith".
Mae Dŵr Cymru yn nodi costau staff o £350,000 y flwyddyn i gyflawni eu cynllun iaith presennol.
Mae'r rhan fwyaf o'r gwariant hwnnw ar staff sy'n gallu darparu gwasanaethau i'r cyhoedd yn Gymraeg (e.e., ateb galwadau ffôn, ymateb i ymholiadau cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg), ond mae'r aelodau staff hynny hefyd yn gallu darparu'r un gwasanaethau i'r cyhoedd yn Saesneg.
O ganlyniad i'r rheoliadau newydd, mae'n rhagweld y gallai eu costau staff gynyddu £50,000 y flwyddyn i oddeutu £400,000, oherwydd y "posibilrwydd o orfod recriwtio rhai staff ychwanegol sy'n siarad Cymraeg ar gyfer rhai gweithgareddau ymgysylltu".
Mae Hafren Dyfrdwy yn "cydnabod, fel cyflogwr allweddol yn y canolbarth, a chan mai dim ond yng Nghymru y mae'r cwmni yn gweithredu, fod y Gymraeg yn bwysig i'w cydweithwyr a'u cwsmeriaid".
15 yn unig
Ar hyn o bryd dim ond 15 o gwsmeriaid sydd wedi cofrestru fel siaradwyr Cymraeg ar gofnodion Hafren Dyfrdwy.
Fodd bynnag, o roi safonau'r Gymraeg ar waith, maent yn disgwyl i nifer y cwsmeriaid sy'n nodi'r Gymraeg fel eu dewis iaith dyfu.
Dywedodd Hafren Dyfrdwy mai cost gweithredu'r cynllun iaith presennol yw tua £120,000 y flwyddyn.
Mae'n amcangyfrif y byddai cydymffurfio â safonau newydd yn arwain at gostau ychwanegol o ran systemau o tua £50,000 (cost bontio), a chostau staffio ychwanegol o tua £100,000 y flwyddyn.
Dywedodd James Jesic, rheolwr gyfarwyddwr Hafren Dyfrdwy eu bod yn "llwyr gefnogi egni ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru dros iaith Gymraeg ffyniannus".
Nododd Llywodraeth Cymru bod dau gwmni dŵr arall hefyd yn darparu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth i'r cyhoedd yng Nghymru, sef Gwasanaethau Dŵr Icosa sy'n cyflenwi dŵr i oddeutu 400 o gartrefi yn y gogledd-ddwyrain, a Leep Utilities sy'n cyflenwi dŵr i nifer fach o gartrefi mewn ardal benodol yn Llanharan, Rhondda Cynon Taf.
"Nid oes gan y cwmnïau hyn gynllun iaith ac nid oes ganddynt systemau ar hyn o bryd i gynnig gwasanaethau Cymraeg," meddai Llywodraeth Cymru.
Mae gan Lywodraeth Cymru bryderon am gywirdeb a defnyddioldeb y data ariannol.
Meddai'r llywodraeth, "er bod Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy wedi ceisio asesu goblygiadau ariannol cydymffurfio â'r safonau, mae'r ansicrwydd ynghylch pa safonau y bydd gofyn i bob busnes gydymffurfio yn golygu bod gennym bryderon ynghylch yr wybodaeth a ddarparwyd ac a yw'n sail ar gyfer llunio Asesiadau Effaith Rheoleiddiol cadarn a chywir."
Dywedodd bod pryderon tebyg ynghylch rheoliadau blaenorol yn ymwneud â safonau'r Gymraeg.
Ychwanegodd, "nid beirniadaeth ar ymdrechion cyrff i amcangyfrif costau yw hyn, na'u rhesymeg wrth wneud hynny, ond yn hytrach cydnabyddiaeth o'r anawsterau o ran amcangyfrif costau'n gywir o dan system lle na fyddant yn gwybod pa ddyletswyddau y disgwylir iddynt gydymffurfio â nhw, ac o dan ba amgylchiadau, hyd nes y cânt hysbysiad cydymffurfio gan Gomisiynydd y Gymraeg."
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd dadl ar y rheoliadau newydd, dolen allanol yn Senedd Cymru ar 19 Medi.
Os yw'r Senedd yn cymeradwyo'r rheoliadau, mater i Gomisiynydd y Gymraeg fydd dewis pa safonau i'w gosod ar gyrff drwy hysbysiad cydymffurfio gan fod y rheoliadau'n pennu'r ystod o safonau y gellir eu gosod ar gorff.
Wrth osod dyletswyddau ar gyrff o dan reoliadau safonau blaenorol, nid yw'r Comisiynydd wedi gosod pob un o safonau rheoliadau ar unrhyw gorff unigol.
Mae cyn-weinidog y Gymraeg, Alun Davies o'r farn bod Llywodraeth Cymru a rôl Comisiynydd y Gymraeg wedi gwastraffu gormod o amser, egni, ac adnoddau ar safonau iaith.
Ond mae'r Comisiynydd wedi cyhoeddi yn ddiweddar y bydd angen i gyrff rheoleiddio proffesiynau iechyd gydymffurfio â'r safonau erbyn diwedd y flwyddyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2018