Gwasanaeth Iechyd 75: Sut mae paratoi arweinwyr y dyfodol?
- Cyhoeddwyd
Fe allai Gwasanaeth Iechyd am ddim i bawb oroesi - ond mae'n rhaid wynebu sawl her fawr, yn ôl gweithwyr iechyd.
Mae buddsoddi mewn arweinwyr cryf at y dyfodol yn hanfodol os yw'r gwasanaeth am adfer ei hun wedi effeithiau Covid, medden nhw.
Mae BBC Cymru wedi cael mynediad unigryw at raglen arbennig sydd wedi'i chynllunio i herio doctoriaid, nyrsys a rheolwyr.
Cafodd y cynllun, dan arweinyddiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ei ysbrydoli gan ymateb staff i argyfwng y pandemig.
"Mae'r heriau sy'n ein hwynebu yn fwy cymhleth ac mae angen gwahanol mathau o arweinyddiaeth," meddai Dr Jonathon Gray, Cyfarwyddwr Gwelliant ac Arloesedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac arweinydd cynllun 'Climb'.
"Does dim amser gwell na 75ed blwyddyn y Gwasanaeth Iechyd i fod yn buddsoddi a thyfu'r arweinwyr ifanc a fydd yn cynllunio Gwasanaeth Iechyd y dyfodol."
Cyfres o weithdai yw prif sylfaen y cwrs 10 mis, ac mae'n cynnwys digwyddiad tri niwrnod gyda thasgau megis cydlynu'r ymateb i argyfwng, achub pobl o adeiladau wedi dymchwel, a delio gyda materion brys ac amgylcheddau peryglus.
Pan gychwynnodd cyfnod clo cyntaf y genedl yn 2020, roedd Nikki Sommers ar fin dechrau swydd newydd fel ymgynghorydd adran frys yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Er gwaethaf profiad digynsail y pandemig, dywedodd Dr Sommers fod adrannau brys yn wynebu heriau gwaeth erbyn hyn.
"Mae'n anodd iawn. Mae'r Gwasanaeth Iechyd o dan straen anferthol," meddai.
"Mae disgwyliadau ac anghenion pobl wedi cynyddu ac mae ganddon ni boblogaeth hŷn a system sydd methu ymdopi.
"Rydyn ni'n cadw ambiwlansys yn aros tu fas yr ysbyty yn fwy nag erioed. Rydyn ni'n trin cleifion yn y coridor a mae hwnna'n peri gofid i'r cleifion ac i staff.
"Mae'r anaf moesol y mae cydweithwyr yn ei wynebu bob dydd, wrth wneud ein gorau glas a dal i fethu darparu y gofal gorau posib fel yr hoffem wneud, yn wirioneddol heriol, a dydw i ddim yn siŵr sut mae hynny am newid yn y dyfodol."
Mae bod yn rhan o raglen 'Climb' wedi helpu i Dr Sommers i wir ystyried ei blaenoriaethau a'i hegwyddorion trwy rannu profiadau gyda chydweithwyr ar draws y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, meddai.
Ychwanegodd ei bod hi eisiau gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd o achos pwysigrwydd darparu gofal iechyd am ddim yn y mannau sydd ei angen fwyaf.
Arweinwyr wedi 'rhedeg at y tân'
Deilliodd y rhaglen 'Climb' o'r sylweddoliad fod nifer o bobl o fewn y system iechyd a gofal heb yr holl adnoddau a sgiliau i ddelio â her o faint y pandemig.
Cafodd 19 o ysbytai maes eu hadeiladu ar draws Cymru. Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd oedd y mwyaf.
"Yn ystod y pandemig fe wynebon ni i gyd her fawr, fel mae pawb yn gwybod," meddai Dr Gray.
"Fe gawson ni ein hysbrydoli gan ein harweinwyr ifanc a redodd tuag at y tân.
"Ond wrth i ni wylio'r ymateb, fe sylweddolon ni hefyd nad oedd wir gan y bobl ifanc yma yr hyfforddiant i ddelio â maint y math yma o sialens, a doedden ni ddim wedi rhoi iddyn nhw yr holl sgiliau yr oedd eu hangen arnyn nhw."
Dywedodd Sara Edwards, Rheolwr Gwasanaethau Endoscopi Bwrdd Iechyd Hywel Dda, bod y Gwasanaeth Iechyd wedi wynebu heriau cyn Covid, ond eu bod wedi "gwaethygu i ryw raddau" wedyn.
"Does byth ddigon o arian a rydyn ni'n wynebu sefyllfa lle does yna ddim digon o aelodau staff sydd â'r hyfforddiant cywir i ofalu am gleifion," meddai.
"Fel person ifanc yn y mudiad anferthol hwn, mae'n anodd weithiau i feddwl: 'Reit, beth yw fy rôl i a beth gallai wneud i helpu?'
"Mae'n rhaid i ni gyd ddechrau meddwl ynglŷn â sut gallen ni wneud pethau'n wahanol ac i wneud pethau'n well."
Er yn ifanc, mae Rhoswen McKnight, sy'n hyfforddi i fod yn nyrs arbenigol yn Ysbyty Felindre ger Caerdydd, eisiau bod yn arweinydd o fewn y Gwasanaeth Iechyd rhyw ddydd er mwyn gwella darpariaeth gofal yng Nghymru.
"Rwy'n credu fy mod i'n berson mwy gwydn erbyn hyn," meddai.
"Yn amlwg trwy weithio fel nyrs mae rhaid i chi flaenoriaethu cleifion a cadw eich emosiwn ar wahân pan mae pethau trasig a thrist yn digwydd.
"Rwy'n rhagweld dyfodol positif iawn i'r Gwasanaeth Iechyd. Rwy'n falch iawn i ddweud fy mod i'n gweithio i'r Gwasanaeth Iechyd a dyma lle rwy'n gweld fy ngyrfa yn datblygu."
Ychwanegodd Dr Sherard Lemaitre, meddyg teulu, ei fod yn credu bod yna ddyfodol i'r Gwasanaeth Iechyd, a bod angen i ni ystyried "pa mor ffodus ydyn ni i gael un".
"Ond mae angen i ni ystyried y dyfodol a beth sydd o'n blaenau. Rydyn ni angen ystyried sut gallen ni fanteisio ar y chwyldro digidol tra'n sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2023