'Sioc y pandemig wedi torri'r Gwasanaeth Iechyd'
- Cyhoeddwyd
Mae "sioc y pandemig" i raddau "wedi torri'r gwasanaeth iechyd " - dyna rybudd un meddyg blaenllaw ar achlysur nodi 75 mlynedd ers sefydlu'r GIG.
Yn ôl Dr Dai Samuel, sy'n feddyg ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, mae'r gwasanaeth yn wynebu mwy o heriau ar hyn o bryd nag erioed.
Mae hynny, meddai, am fod rhestrau aros wedi tyfu'n aruthrol ac mae galw ychwanegol wedi ymddangos gan gleifion sy'n salach na'r disgwyl oherwydd eu bod wedi cadw draw yn ystod Covid.
Mae aelodau staff eraill yn yr un ysbyty wedi dweud wrth Cymru Fyw eu bod wedi gweithio shifftiau "arbennig o anodd" yn ddiweddar, gyda nyrs o'r uned frys, Georgia Hart, yn dweud ei bod yn poeni'n aml nad yw cleifion yn cael y "gofal maen nhw'n ei haeddu".
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2023
Tra'n cydnabod fod y gwasanaeth dan straen mae Fiona Jones, nyrs â 33 o flynyddoedd o brofiad yn y gwasanaeth, yn dweud y gallai'r cyhoedd wneud mwy i helpu'r gwasanaeth drwy gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu hiechyd eu hunain drwy ymarfer corff a byw yn iachach.
Mae hyn yn adlewyrchu sylwadau diweddar y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, sydd hefyd yn cydnabod fod yna benderfyniadau anodd o'i blaen o ran sut i flaenoriaethu adnoddau prin yn y dyfodol.
Ond mae Dr Owain Williams, meddyg iau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ers cwta 10 mis, yn ffyddiog, er gwaetha'r straen di-ben-draw, y bydd y gwasanaeth yn dal i fodoli er mwyn dathlu sawl pen-blwydd pellach.
Mae hynny gan fod cymaint yn "fodlon ymladd" am ei ddyfodol, meddai.
Wrth i'r GIG ddathlu 75 mlynedd ers ei sefydlu mae amryw o sefydliadau'n galw am gynyddu'r buddsoddiad ynddo.
Mae bron i 30 o golegau brenhinol a chyrff proffesiynol sy'n cynrychioli degau o filoedd o nyrsys, meddygon, therapyddion, gweithwyr cymdeithasol, fferyllwyr a pharafeddygon, wedi dod at ei gilydd i alw am warchod cleifion drwy gynyddu niferoedd staff a gwella lles y gweithlu.
Yn benodol maen nhw'n galw am:
Roi blaenoriaeth i recriwtio a chadw staff;
Neilltuo amser i staff ar gyfer addysg, ymchwil, addysgu a gwella ansawdd;
Buddsoddi yn y gweithlu cymunedol a modelau gofal newydd.
Dywedodd Dr Olwen Williams OBE, sy’n camu i lawr fel is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru yr wythnos hon:
"Mae angen i ni wneud popeth y gallwn i wneud GIG Cymru’n lle hyblyg, pleserus ac arloesol i weithio, lle y cefnogir y staff i wneud eu gwaith yn dda a lle y medrant ffynnu, dysgu a gwybod bod pobl yn eu gwerthfawrogi a lle y mae pobl eisiau dod i weithio.
"Mae angen ein help ar gannoedd o filoedd o gleifion ar hyn o bryd, ac nid oes digon ohonom ni i fynd o gwmpas.
"Mae taer angen mwy o staff arnom ni – bydd gweithlu mwy’n golygu mwy o amser i ofalu am gleifion a rhestri aros llai."
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2023
Mae Conffederasiwn GIG Cymru - y grŵp sy'n cynrychioli byrddau iechyd - wedi galw ar lywodraethau Cymru a'r DU i gynnal sgwrs genedlaethol ar sut y gall y system iechyd a gofal arloesi a thrawsnewid i ateb anghenion cenedlaethau'r dyfodol.
Mae'r conffederasiwn o'r farn, er fod gan y cyhoedd ffydd yn y GIG a'i egwyddorion sylfaenol o ddarparu gofal i bawb am ddim pan fo angen, nad yw gwasanaethau iechyd a gofal yn gynaliadwy yn eu ffurfiau presennol - yn enwedig o ystyried anghenion poblogaeth sy'n byw llawer yn hirach na 75 mlynedd yn ôl ond sydd ag anghenion iechyd amrywiol a hirdymor.
'Mae angen sgwrs genedlaethol'
Dywedodd Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, Darren Hughes: "Mae gan y GIG hanes o addasu'n barhaus i ymateb i gyfleoedd a heriau.
"Heddiw, mae'r GIG yn parhau i ysgogi datblygiadau arloesol ym maes gofal cleifion, ac ni fyddai'r un ohonynt yn bosibl heb ymroddiad a thrugaredd staff, yn ogystal â'r nifer o staff gofal cymdeithasol, gwirfoddolwyr, y trydydd sector, gofalwyr di-dâl a chymunedau sy'n cefnogi iechyd a lles y genedl.
"Ond nid yw hyn ar ei ben ei hun yn ddigon i sicrhau cynaliadwyedd ein gwasanaethau iechyd a gofal ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, sy'n golygu nad yw'r angen am sgwrs genedlaethol erioed wedi bod yn fwy o bwys."
Mae Prif Weithredwr GIG Cymru, Judith Paget, wedi cydnabod bod angen "cynnydd cyflym yn nifer y staff" sy'n gweithio i'r gwasanaeth iechyd.
Dywedodd fod yna gynllun i gynyddu'r niferoedd "dros amser" a bod streiciau diweddar yn amlygu'r angen i ofalu am staff presennol.
Ategodd na fyddai chwaith yn diystyru gohirio cynnig gofal nes bod cleifion yn gwneud newidiadau i'w ffordd o fyw er mwyn gwella eu hiechyd.
"Yr hyn yr ydym am ei wneud yw cefnogi pobl i golli pwysau cyn iddynt gael eu llawdriniaeth lawfeddygol."
Ond roedd hi'n glir y byddai'n "cael trafferth dygymod a'r syniad o wrthod triniaeth i bobl ar sail rhai eu dewisiadau am eu ffordd o fyw".
Y GIG yn 75 - beth yw barn staff am ei ddyfodol?
Fe gafodd Cymru Fyw gyfle arbennig i dreulio diwrnod yng nghwmni nifer o staff Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant - rhai ar ddechrau eu gyrfaoedd fel nyrsys a meddygon ac eraill â blynyddoedd o brofiad.
Mae Georgia Hart wedi gweithio fel nyrs yn uned frys yr ysbyty ers dwy flynedd.
Mae rhai o'i shifftiau diweddar wedi bod gyda'r anoddaf ers iddi ddechrau yno.
“O'dd e’n really anodd, o’n ni’n short-staffed i ddechrau," dywedodd.
"O’n ni fel chwe nyrs lawr dwi’n credu, dim NA’s [cymorthyddion nyrsio] felly dim help i ni fel nyrsys hefyd.
"O'dd rhai doctors yn short. O'dd rhywbeth fel 70 o gleifion yn yr ardal. O'dd e mor anodd.
"I fod yn onest, mae e’n anodd fel nyrs, achos weithiau nad yw’r cleifion yn cael yr help maen nhw angen weithie."
Er bod “pobl yn meddwl bod hyn dim ond yn digwydd drwy’r gaeaf" mae'r broblem yn parhau weddill y flwyddyn hefyd, meddai.
"O'dd e’n ddiwrnod neis ddoe, a dal o'dd ‘na 78 o gleifion yn y waiting area pan o’n i’n gadael shifft fi am 19:30 neithiwr.”
A hithau'n nyrs ers 33 o flyneddoedd, mae Fiona Jones wedi treulio hanner ei hoes gyda'r gwasanaeth iechyd.
“Fi’n credu bod ma' pobl lot fwy sâl ambyti’r lle, pobl ddim yn edrych ar ôl eu hunain, cadw’n heini a byta’n dda a pethe," meddai.
"Ma' hwnna yn rhoi effaith ar y pobl sy’n dod mewn.
"Pobl yn smygu, cyffurie, llawer o bethe fel ‘ny lan yn yr ardal ma' hefyd… Pobl yn mynd yn henach, lot o bethe’n bod, ag yn yr ardal hyn achwyn y chest achos gweithio yn y mines a pethe fel’ny."
“Ni yn muddlo drwyddo, ond ma’r elastic yn snapo ambell waith … Ma fe’n drist iawn i weld, achos ma' pobl yn syffro, ma' nhw’n gorfod aros mor hir i weld y meddyg, neu mor hir i weld y nyrs. Ody, mae e’n eitha gwael dwi’n meddwl.
"Mae'r staff yn ceisio ymateb i'r heriau drwy gynnig triniaeth ar yr un diwrnod i gleifion lle mae hynny'n addas er mwyn osgoi eu hanfon nhw i'r wardie...
"I gleifion sydd angen treulio cyfnod mewn gwely, ma' ymdrech hefyd cefnogi nhw i fynd adre cyn gynted â bod hynny'n ddiogel. Eto ma' prinder gofal a gofalwyr yn y gymuned yn cyfyngu ar y gallu i wneud hynny
"Felly yn aml mae wardie'r ysbyty hwn, fel sawl un arall, dan ei sang."
'Degawd, falle, neu mwy i ddod nôl i’r arfer'
Mae'r meddyg ymgynghorol Dr Dai Samuel yn arbenigo ar ofal yr afu.
“Mae e’n gymysgedd o’r bobl fydden i’n gweld fel arfer, ond hefyd y bobl falle sy’ di aros gartref drwy gydol y pandemig sy' nawr yn dod 'mlaen 'da cyflyrau newydd a falle cymhlethion o achos ‘ny," dywedodd.
"Pobl efo cancr sy' 'di mynd i organau eraill achos ‘dyn nhw ddim 'di cael y prawf.
"A 'den ni yn gweld, yn enwedig yn fy job dydd, hepatoleg, 'den ni’n gweld llawer o bobl gyda problem alcohol a 'da sirosis, a falle marw y tro cynta' iddyn nhw ddod mewn a dy’n ni ddim wedi gweld ‘ny yn y gorffennol.
“Falle ma' rhai yn dweud ni’n mynd i dod nôl i normal o fewn blwyddyn a byddwn ni’n gweld pob claf. 'Den ni ddim yn mynd i neud ‘ny.
"Ma' fe falle’n mynd i gymeryd degawd neu mwy i ddod nôl i’r arfer."
Pwy, felly, fydde'n ystyried dechrau gyrfa yn y gwasanaeth mewn cyfnod mor heriol?
Fe raddiodd Dr Owain Williams haf diwethaf ac mae'n gweithio fel meddyg iau ers 10 mis.
“Dwi’n meddwl bod 'na rhyw elfen yng nghefn y meddwl bod petha’n mynd i newid, a dwi’n meddwl newch chi ffeindio hynna ymysg cynifer ohonan ni, rhyw grediniaeth, rhyw ddiwrnod..." meddai.
"Ond i fod yn hollol realistig, dwi’n meddwl, 'dan ni gyd wrth ein boddau yn gwneud be 'dan ni’n neud.
"Dwi wrth fy modd efo’n swydd. Mae’n swydd wych. Ma' be 'dan ni’n cael neud i gleifion, mae’n arbennig, y newid da chi’n ei weld...
"Dwi’n hollol ddiolchgar o’r swydd, ond dydy hynna ddim yn adlewyrchu pa mor anodd mae’r swydd hefyd yn gallu bod.
"A dwi’n meddwl dyna ‘di’r broblem efo burnout. Mae’n mynd i ddod i bwynt, er bo chi’n mwynhau’r swydd, a chynnwys y swydd, a be da chi’n neud i bobl.
"Weithia' ma’r pwysa’ a pa mor anodd ydy be 'dach chi’n weld bob dydd, a ‘dan ni mor fyr [o staff] drwy’r amser, yn ormod felly, a dyna 'dan ni’n gweld mwy a mwy.”
Beth felly yw barn y pedwar am ddyfodol y GIG ar achlysur y 75 mlwyddiant?
A ydyn nhw'n credu y bydd dal yma i ddathlu'r garreg filltir sylweddol nesaf?
“Dwi’n ffyddiog," medd Dr Owain Williams. "Yn amlwg ma' 'na gymaint o ansicrwydd ond dwi yn ffyddiog.
"Dwi’n meddwl mae’r gwasanaeth mor bwysig i bobl ledled y Deyrnas Unedig, a Chymru’n enwedig...
"Dwi wir yn gobeithio y gwnawn ni gyd ymladd am ei dyfodol hi fel system, gan bod hi yn parhau, er y straen, yn parhau i wneud gwaith hollol wych a hollol arbennig, a hebddi dwi’n meddwl fasen ni gyd mewn twll mawr.
"Fi’n credu bydd yr NHS ‘ma" medd Dr Dai Samuel, "ond sut bydd yr NHS yn edrych?
"Fi’n credu bydd e’n edrych yn gyfan gwbl wahanol i unrhyw pum mlynedd, degawd ni di gweld o’r blaen.”
Ydy'r nyrs Fiona Jones yn credu all y gwasanaeth oroesi mwy o aeafau fel y rhai diweddar?
“Bydd rhaid i ni," yw ei hateb. "Ni yma i edrych ar ôl y cleifion a’r staff, so byddwn ni ‘ma.”
Ond heb newidiadau mawr, dyw Georgia Hart ddim mor hyderus.
"I fod yn onest, dwi ddim yn credu bydd yna NHS yma am 75 mlynedd arall," meddai.
"Ni methu â cario mlaen y ffordd mae pethau nawr. Dwi ond ‘di bod 'na am ddwy flynedd, a dwi’n gallu gweld hwnna yn syth o graddio.
"Dau mlynedd mewn a mae’n rhywbeth fi a fy nheulu’n teimlo’n gryf amdano really , achos os mae e mewn y ffordd mae e yn nawr, sut 'den ni’n gallu cadw fe mlaen am 75 mlynedd?
"Mae’r NHS yn arbennig... ond y ffordd mae yn nawr, mae rhywbeth angen newid, yn sicr.”
Fel ymgynghorydd yn uned gofal dwys yr ysbyty mae Dr Bethan Gibson wedi arfer â'r her o orfod ceisio rhyddhau cleifion i wardiau eraill neu i'r gymuned, a chreu lle ar gyfer mwy o gleifion mewn angen.
"Mae wastad gwely rywle," meddai ar raglen Dros Frecwast. "Ni'n trio'n gorau a ni wastad yn ffeindio gwely, ond [rhaid] meddwl am yr holl waith sy'n mynd i mewn i drio ffeindio gwely yn lle gwneud y swydd o edrych ar ôl y claf.
"Rhaid i ni symud i ffwrdd o just siarad am y gwelyau - staff i edrych ar ôl y cleifion 'di'r rhan bwysicaf."
Mae'n bedair blynedd ers i Cari Evans gymhwyso fel nyrs a dechrau gweithio yn ward y plant.
"Mae fel gwobr i mi i'w gweld nhw'n gwella," meddai.
Ond roedd y pandemig yn her iddi am fod angen iddi droi'n annisgwyl at drin oedolion mewn wardiau eraill.
"Oedd Covid ddim yn effeithio ar blant, oedd yn wych... i fi sy'n newydd a ddim yn gw'bod sut i 'neud dim [ar ward anghyfarwydd], oedd e'n alien i fi."