Gwrthdrawiad Llwynhelyg: Cynnal angladd merch fach

  • Cyhoeddwyd
Angladd

Mae angladd merch fach wyth mis oed a fu farw ar ôl gwrthdrawiad gyda char y tu allan i Ysbyty Llwynhelyg yn Sir Benfro wedi'i chynnal ym mhentref Tonna ger Castell-nedd.

Yn ystod y gwasanaeth yng nghapel Noddfa, cyn yr amlosgiad ym Margam, bu aelodau o'i theulu yn cofio am Mabli Cariad Hall.

Mewn teyrnged ar ran y plant eraill dywedodd Cadi, Efa a Sofia ei bod yn fabi arbennig ac y byddant yn ei cholli'n fawr.

"Diolch Duw am y babi amazing yma. Roedd hi mor werthfawr gyda'i gwallt brown - roeddet ti'n rhy werthfawr i'r byd hwn," meddai'r deyrnged.

"Dylse hi ddim wedi marw yn wyth mis oed," meddai ei chwaer Efa.

"Rwyt ti yn fabi mor ddewr… Caru ti i'r lleuad a nôl."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y teulu y byddan nhw "o hyd yn cofio gwên fach bert Mabli"

Cafodd Mabli ei chludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Athrofaol Caerdydd wedi'r gwrthdrawiad ar 21 Mehefin.

Fe chafodd ei symud i Ysbyty Plant Bryste yn ddiweddarach, ond bu farw bedwar diwrnod wedi'r gwrthdrawiad.

'Profedigaeth mor chwerw'

Mewn datganiad, dywedodd ei rhieni, Rob a Gwen eu bod nhw a'i brodyr a chwiorydd "yn ei charu hi'n fawr iawn" a'i bod hi wedi dod a chymaint o lawenydd i'r teulu yn ystod ei bywyd byr.

Ychwanegodd y teulu: "Diolch i bawb sydd yma gyda ni heddiw a phawb sydd wedi anfon negeseuon o gydymdeimlad a chefnogaeth.

"Mae eich geiriau a'ch gweddïau yn golygu sut gymaint ar adeg o brofedigaeth mor chwerw."

Cafodd teulu a ffrindiau eu hannog i wisgo dilledyn porffor i'r gwasanaeth er cof amdani.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd galarwyr y tu allan i'r eglwys yn gwrando ar y gwasanaeth

Cafodd y gân You are my Sunshine ei chanu wrth gario arch Mabli i mewn i'r eglwys, ac roedd galarwyr yn gwrando y tu allan wrth i Gôr Meibion Tonna ganu Calon Lân yn ystod y gwasanaeth.

Diolchodd y Parchedig Tomos Roberts Young am yr "anrheg gwerthfawr" a oedd Mabli.

Hi oedd "yr heulwen a roddodd Duw i'r teulu", meddai.

Ar ddiwedd y gwasanaeth fe wnaeth Côr Meibion Tonna ganu yr emyn olaf sef Abide with Me a chafodd arch Mabli ei chludo allan o'r capel i gyfeiliant y gân You'll Never Walk Alone.

Pynciau cysylltiedig