Trelái: Arestio 12 arall wedi taith goffa i ddau fachgen
- Cyhoeddwyd
Mae 12 o bobl wedi'u harestio ar amheuaeth o yrru'n beryglus, yn dilyn taith goffa i nodi marwolaeth dau fachgen yn Nhrelái.
Yn cynnwys nifer fawr o feiciau a cherbydau eraill, roedd y daith wedi ei threfnu rhwng Y Barri a Chaerdydd ar 10 Mehefin.
Cafodd ei gynnal yn sgil marwolaethau Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, a gafodd eu lladd mewn gwrthdrawiad ar 22 Mai.
Dywedodd yr heddlu fod rhai o'r bobl o dan sylw wedi rhoi defnyddwyr ffyrdd a cherddwyr mewn perygl.
Yn ôl Heddlu De Cymru cafodd 23 o gerbydau, gan gynnwys 11 beic cwad a dau gerbyd pob tir, eu hatafaelu o uned ar Stryd Wilson, Trelái, Caerdydd ar 16 Mehefin.
Roedd dau ddyn, 28 a 41 oed, eisoes wedi eu harestio ar amheuaeth o drin nwyddau wedi'u dwyn a throseddau eraill, ac fe gawson nhw eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Ychwanegodd Heddlu De Cymru y bydd 11 o bobl yn derbyn hysbysiadau o fwriad i erlyn (NIP) am droseddau moduro honedig.
Mae hysbysiadau tebyg hefyd wedi eu hanfon at dri arall, i gadarnhau pwy oedd yn defnyddio eu cerbyd ar adeg y troseddau honedig.
Bu farw Kyrees Sullivan a Harvey Evans pan fu'r e-feic yr oeddent yn teithio arni mewn gwrthdrawiad, yn fuan ar ôl i swyddogion Heddlu De Cymru eu dilyn.
Arweiniodd hynny at derfysgoedd yn Nhrelái, a welodd 15 o swyddogion yn cael eu hanafu a 27 o bobl yn cael eu harestio.
Mae dau blismon yn destun ymchwiliad am eu hymddygiad cyn marwolaeth y bechgyn.
Dywedodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu fod rhybuddion camymddwyn difrifol wedi'u cyflwyno i'r gyrrwr a'r teithiwr a welwyd yn fan yr heddlu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd25 Mai 2023
- Cyhoeddwyd27 Mai 2023