CPD Caerdydd yn talu gweddill ffi drosglwyddo Sala

  • Cyhoeddwyd
Emiliano SalaFfynhonnell y llun, CPD Dinas Caerdydd

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi talu gweddill y ffi drosglwyddo i glwb Nantes am Emiliano Sala, a fu farw mewn damwain awyren cyn iddo wneud ymddangosiad i'r tîm o Gymru.

Mewn datganiad dywedodd yr Adar Gleision eu bod wedi talu dwy ran olaf y ffi - oddeutu £12m.

Ond mae'r clwb hefyd wedi pwysleisio y byddan nhw'n bwrw 'mlaen gyda chamau cyfreithiol yn erbyn clwb Nantes trwy lysoedd Ffrainc.

Fe dalodd Caerdydd rhan gyntaf y ffi yn Ionawr eleni wedi iddyn nhw gael gorchymyn gan FIFA i wneud hynny.

Yn y datganiad dywedodd y clwb: "Mae Caerdydd heddiw wedi talu ail a thrydedd rhan y ffi drosglwyddo am Emiliano Sala yn unol gyda gorchymyn FIFA.

"Mae hyn er nad oes penderfyniad gan y llysoedd am gyfrifoldeb FC Nantes am y ddamwain [awyren].

"Rydym yn dal i weithio tuag at ddal y rhai oedd yn gyfrifol i gyfrif. Rydym yn edrych ymlaen at achos gerbron y llys yn Ffrainc y flwyddyn nesaf."

Ffynhonnell y llun, Soccrates Images

Bu anghydfod rhwng y ddau glwb ers i'r ymosodwr o Ariannin farw ar y ffordd i Gymru yn Ionawr 2019.

Cafodd Caerdydd eu hatal rhag prynu chwaraewyr am gyfnod o dair ffenest drosglwyddo gan FIFA am wrthod talu rhan gyntaf y ffi oedd wedi'i gytuno gyda Nantes.

Roedd Caerdydd yn hawlio nad oedden nhw'n gyfrifol am y ffi gan nad oedd Sala yn chwarae iddyn nhw'n swyddogol pan fu farw yn 28 oed.

Ofer fu apêl Caerdydd i'r CAS (Court of Arbitration for Sport) yn Lausanne yn 2022.

Parhau i fynnu £100m o iawndal

Yn Ionawr eleni fe dalwyd rhan gyntaf y ffi ac fe godwyd y gwaharddiad gan FIFA, ond mae gwaharddiad arall gan Gynghrair Bêl-droed Lloegr yn golygu nad ydyn nhw'n medru talu am chwaraewyr newydd.

Ond fe fydd camau cyfreithiol Caerdydd yn llysoedd Ffrainc yn parhau wedi i dribiwnlys ffederal yn y Swistir farnu nad oedd gan CAS y grym i ddelio gyda hawliau'r clwb am iawndal.

Ym mis Mai, dechreuodd clwb Caerdydd gamau i hawlio bron £100m gan FC Nantes yn ymwneud â marwolaeth Sala.