Gorchymyn Caerdydd i dalu gweddill ffi trosglwyddo Sala
- Cyhoeddwyd
Mae CPD Dinas Caerdydd wedi cael gorchymyn i dalu'r hyn sy'n weddill o'r ffi trosglwyddo i Nantes am yr ymosodwr Emiliano Sala, a fu farw mewn damwain awyren cyn chwarae'r un gêm i'w clwb.
Mae'n debyg fod FIFA, corff llywodraethu pêl-droed y byd, wedi dweud wrth yr Adar Gleision i dalu ychydig dros 11m Ewro (tua £9.45m) sef dau ran olaf y 17m Ewro y cytunodd y ddau glwb arno.
Mae anghytundeb wedi bod rhwng Caerdydd ac FC Nantes dros y ffi ers marwolaeth yr Archentwr ym mis Ionawr 2019, gyda Chaerdydd yn dadlau nad oedd y trosglwyddiad wedi ei gwblhau adeg ei farwolaeth.
Ym mis Mai fe ddywedodd Caerdydd bod hi'n fwriad i barhau gyda chamau cyfreithiol yn erbyn Nantes trwy lysoedd Ffrainc wedi i Dribiwnlys yn y Swistir ddyfarnu nad oedd gan CAS (Court of Arbitration for Sport) hawl i ystyried cais Caerdydd am iawndal.
Ym mis Ionawr, fe dalodd Caerdydd rhan gyntaf y ffi trosglwyddo i Nantes, a gredir o fod yn oddeutu £7m, a fe gododd FIFA embargo ar y clwb rhag prynu unrhyw chwaraewyr eraill.
Ddydd Gwener, fe gyhoeddodd Caerdydd ddatganiad yn cadarnhau penderfyniad FIFA y dylid talu dau ran olaf y ffi drosglwyddo.
Ond mae'r clwb yn dadlau "y byddai wedi bod yn decach petai'r gofyn i dalu FC Nantes wedi cael ei ohirio nes diwedd ymholiadau heddlu yn Ffrainc ac achos y clwb yn erbyn FC Nantes yn y llysoedd Ffrengig".
Mewn datblygiad ar wahân, mae erlynwyr yn Ffrainc wedi cadarnhau bod nifer o swyddogion FC Nantes wedi cael eu harestio fel rhan o ymchwiliad i lanhau arian a thwyll treth.
Fe gychwynnodd Caerdydd achos ym mis Mai yn Ffrainc er mwyn hawlio tua 100m Ewro.
Dywedodd Llys Masnachol Nantes wythnos diwethaf y bydd yn cynnal gwrandawiad ar deilyngdod yr achos, mwyaf tebyg yn ystod ail chwarter 2024.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2023
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2023