Sala: Caerdydd i geisio hawlio dros £100m gan Nantes

  • Cyhoeddwyd
Emiliano SalaFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Caerdydd arwyddo Emiliano Sala am £15m yn Ionawr 2019

Mae Cadeirydd Caerdydd Mehmet Dalman wedi cadarnhau fod y clwb pêl-droed yn dod ag achos cyfreithiol i geisio hawlio dros £100m gan FC Nantes yn sgil marwolaeth Emiliano Sala.

Bu farw'r pêl-droediwr ar ôl i'r awyren oedd yn ei gludo i Gaerdydd o Ffrainc blymio i'r môr yn Ionawr 2019.

Roedd yn teithio i'r brifddinas ar ôl i'r clwb ei arwyddo o Nantes am £15m.

Dywed Dalman fod y gwaith papur ar gyfer achos sifil wedi ei gwblhau.

"Fe wnaethom brynu dyn ifanc oedd ar binacl ei yrfa a hynny mewn ewyllys da," meddai Dalman wrth orsaf radio Talksport.

"Fe wnaeth rhywun, heb fod yn wybod i ni, ei roi ar awyren anaddas a'i hedfan ar amser peryglus o'r dydd, neu'r nos yn yr achos hwn. Yn anffodus bu farw dau berson o ganlyniad i hyn.

"Pam felly mai Caerdydd sy'n gorfod talu'r siec? Dyw Caerdydd ddim yn glwb cyfoethog, nid yw'n gallu fforddio hyn," meddai.

"Felly 'dw i ddim yn deall pam fod pobl yn dweud ein bod ond ar ôl arian. Rydym ni am weld ein bod yn cael ychydig o gyfiawnder."

Dywed Dalman mai cyfreithwyr Clwb Dinas Caerdydd oedd yn gyfrifol am benderfynu faint o arian maen nhw'n ceisio ei hawlio.

"Rwy'n credu fod hynny'n gwestiwn cyfreithiol, a 'dw i ddim eisiau ateb y cwestiwn yna," meddai pan ofynnwyd iddo sut iddynt benderfynu ar y ffigwr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Caerdydd yn ceisio hawlio iawndal o dros £100m oddi wrth Nantes, cyn glwb Emiliano Sala.

Fe wnaeth awyren Sala blymio i'r môr ar 21 Ionawr 2019, gan ladd y pêl-droediwr a'r peilot David Ibbotson.

Eisoes roedd Caerdydd wedi mynnu y bydden nhw'n mynd i gyfraith yn erbyn Nantes ar ôl i Dribiwnlys yn y Swistir benderfynu nad oedd gan CAS (Court of Arbitration for Sport) hawl i ystyried cais Caerdydd am iawndal.

Embargo trosglwyddo

Penderfynodd CAS hefyd fod yn rhaid i Gaerdydd dalu rhan gyntaf y ffi trosglwyddo i Nantes, gan osod embargo ar y clwb rhag prynu unrhyw chwaraewyr eraill tan fod hynny'n digwydd.

Fe wnaeth Caerdydd dalu'r swm hwnnw - y gred yw tua £7m - yn Ionawr 2023.

Er i FIFA ddod a'r embargo ar brynu chwaerwyr i ben ar ôl hynny, mae embargo trosglwyddo sydd wedi ei osod gan yr EFL - Cynghrair Pêl-droed Lloegr yn parhau mewn grym.