Cynllun ceiswyr lloches: Y frwydr 'yn bell o fod ar ben'

  • Cyhoeddwyd
Gwesty Parc y Strade
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu gweld yn atal un fynedfa ddydd Llun

Mae protestwyr yn bwriadu aros yn "barhaol" y tu allan i westy yn Llanelli, yn ôl y pwyllgor sy'n arwain yr ymdrech i atal cynlluniau i gartrefu ceiswyr lloches ar y safle.

Er gwaethaf gwrthwynebiad lleol, roedd disgwyl y byddai'r cyntaf o tua 250 o geiswyr lloches yn cyrraedd Gwesty Parc y Strade yr wythnos hon.

Nos Fercher roedd ymgyrchwyr i'w weld yn dathlu ar ôl i swyddogion diogelwch gael eu gweld yn gadael y gwesty, wedi i Gyngor Sir Caerfyrddin atal y perchnogion rhag defnyddio mynedfa answyddogol i'r safle.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref yn galw am "oedi ac adolygu" y cynlluniau.

Beth yw'r diweddaraf?

Deallir bod nifer o lwyni wedi cael eu torri dros y penwythnos ar y ffin rhwng gwesty Parc y Strade a ffordd gerllaw, oherwydd bod yna broblemau wrth ddefnyddio'r brif fynedfa.

Mae'r cyngor wedi dweud wrth berchnogion y gwesty ac unrhyw aelod o'r cyhoedd i beidio defnyddio'r fynedfa honno am ei fod yn "andwyol i ddiogelwch cerddwyr a phriffyrdd" am ei fod yn "arwain yn uniongyrchol i ffordd... mewn man lle nad oes cyfleusterau i gerddwyr".

Ond yn ôl Robert Lloyd, llefarydd ar ran Pwyllgor Gweithredu Ffwrnes, mae'r frwydr yn bell o fod ar ben.

"Ry'n ni wedi llwyddo i atal un lori oedd yn cario gwelyau rhag cyrraedd y safle, tra bod tair lori arall hefyd wedi cael eu troi i ffwrdd ychydig filltiroedd o fan hyn," meddai.

"Ry'n ni hefyd yn gwybod bod angen dod a microdonnau i'r gwesty... ac os nad yw'r holl offer yma'n cyrraedd, ni fydd modd symud y ceiswyr lloches i mewn."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr yn honni nad ydi'r gwesty yn berchen ar ddarn o dir ar y safle

Ychwanegodd Mr Lloyd nad yw'n credu mai perchnogion y gwesty sy'n berchen ar ddarn o dir rhwng y maes parcio a'r brif fynedfa.

"Mae'n ddarn sylweddol o dir, a 'da ni'n ymwybodol mai nid y gwesty sydd berchen e... ni mewn sefyllfa anodd nawr, yn aros i weld beth fydd Clear Springs a'r Swyddfa Gartref yn ei wneud nesaf.

"Ond mae ein hangerdd a pharodrwydd i brotestio yn cryfhau bob dydd, a dydyn ni ddim yn bwriadu ildio."

Dyw hi ddim yn glir am ba hyd fydd y gorchymyn atal y mynediad answyddogol mewn lle, ac a fydd perchnogion y gwesty yn ei herio yn gyfreithiol.

'Nid yw hyn yn gynaliadwy'

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, ddydd Iau wedi ysgrifennu llythyr at yr Ysgrifennydd Cartref Suella Braveman, yn galw am "oedi ac adolygu" y cynlluniau.

"Mae angen dybryd i'r Swyddfa Gartref oedi ac adolygu'r broses o wasgaru ceiswyr lloches i Westy Parc y Strade, Llanelli, er mwyn lleddfu'r pwysau ar wasanaethau lleol ac i fynd i'r afael â'r tensiynau difrifol a chynyddol posibl," meddai.

"Rwyf hefyd wedi cael gwybod bod camau cyfreithiol a 'gwaharddeb' wedi'u cyflwyno mewn perthynas â mynedfa anghyfreithiol honedig, sydd wedi'i chreu ar ochr tir y gwesty.

"Mae anghydweld amlwg a chwestiynau dros hawl cyfreithiol contractwyr preifat a gyflogir gan y Swyddfa Gartref i gael mynediad i'r safle; mae hyn wedi cynyddu tensiynau cymunedol ac wedi arwain at bresenoldeb sylweddol iawn gan yr heddlu yn y lleoliad.

"Bu'n ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys dynnu ar adnoddau o bob rhan o ardal yr Heddlu i reoli'r sefyllfa hynod anodd hon.

"Nid yw hyn yn gynaliadwy, ac maent yn asesu galluoedd staffio a lles swyddogion yn barhaus, a fydd yn debygol o arwain at dynnu swyddogion o'r lleoliad yn fuan."

Mae'r Swyddfa Gartref a Clear Springs wedi gwrthod sawl cais am sylw yn ymwneud â'r sefyllfa yng Ngwesty Parc y Strade.

Gan fynnu nad oedden nhw am wneud sylw ar achosion unigol, dywedodd y Swyddfa Gartref eu bod "yn ymroddi i wneud pob ymdrech i leihau'r defnydd o westai a'r baich ar y trethdalwr".

Pynciau cysylltiedig