Bae Colwyn: Y Gymraeg a chwaraewyr lleol yn bwysig
- Cyhoeddwyd
Mae buddsoddi mewn chwaraewyr lleol a chreu defnydd gwell o'r iaith Gymraeg wedi dod law yn llaw â llwyddiant ar y cae i Glwb Pêl-droed Bae Colwyn.
Bedair blynedd ers dychwelyd i byramid Cymru o'r gêm yn Lloegr, mae'r clwb bellach wedi derbyn dyrchafiad i'r Cymru Premier.
Mae cyfres o newidiadau ar y gweill ar safle'r cae yn Hen Golwyn gan gynnwys codi eisteddle newydd fydd yn dal dros fil yn fwy o wylwyr - y gobaith yw y gallai'r cae wedyn gynnal gemau Ewropeaidd.
Gyda dros 700 o gefnogwyr yn dod i bob gêm gartref ar gyfartaledd, mae'r clwb yn dweud bod ymdrech ddiweddar i fuddsoddi mewn academi a chwaraewyr lleol a chreu defnydd gwell o'r iaith Gymraeg wedi gweddnewid delwedd y clwb.
Dros gyfnod o bron i 150 o flynyddoedd mae'r clwb wedi profi sawl llwyddiant a sawl her.
Mi oedd eu penderfyniad i ddychwelyd i byramid Cymru yn 2019, wedi blynyddoedd o chwarae yn Lloegr yn un dadleuol ac wedi hollti barn.
Fe wnaed hynny yn bennaf oherwydd pwysau ariannol, ond bedair blynedd yn ddiweddarach gyda dyrchafiad a rhediad cadarnhaol o ennill pob gêm oni bai am un y tymor diwethaf, mae un o gyfarwyddwyr y clwb yn dweud dyma oedd y penderfyniad cywir.
'Creu momentwm'
"Mae'n anhygoel a deud y gwir," meddai Dilwyn Roberts.
"Pan ddaethom ni nôl i'r system Gymraeg rai blynyddoedd yn ôl y nod oedd mynd i'r Uwch Gynghrair a gobeithio yn uwch eto ond i wneud o mewn amser mor fyr, mae'n anhygoel."
Yn ôl Mr Roberts mae niferoedd y cefnogwyr, sydd wedi treblu ers dychwelyd i byramid Cymru wedi creu momentwm.
"Mae canlyniadau ar y cae yn helpu ond dwi'n meddwl bod ni'n rhan o'r gymuned, 'dan ni fel un teulu a phawb yn teimlo eu bod nhw'n perthyn."
Yn weledol, mae gwaith hefyd wedi ei wneud o ran delwedd y clwb.
Ar gyfryngau cymdeithasol mae negeseuon yn ddwyieithog ac mae mwy o ymdrech i fuddsoddi mewn chwaraewyr lleol a'r academi - a hynny oll yn creu naws cymunedol a Chymreig, medd y clwb.
"Mae 'na ryw bump o'r hogia yn y tîm yn siarad Cymraeg ac maen nhw'n gwneud hynny efo'r cefnogwyr, mae'n braf i glywed ond ia, un clwb ydan ni.
"Da ni yn defnyddio mwy o Glwb Pêl-Droed Bae Colwyn yn lle Colwyn Bay FC."
I gefnogwyr triw a noddwyr y clwb mae'r dyrchafiad yn gam enfawr i'r cyfeiriad cywir.
"Mae'n anhygoel, fel un sy'n dŵad o Gaernarfon, dwi'n gwybod beth ydi cefnogaeth dda i glwb," meddai'r cefnogwr a'r noddwr Chris Hughes.
"Beth bynnag da ni'n neud, pryd bynnag 'da ni'n mynd i ffwrdd, mae'r gefnogaeth yn wych ac yn gefnogaeth heb ddim trwbl jest cefnogaeth bur," ychwanegodd.
Gydag un o glybiau mwyaf poblogaidd Cymru nôl felly yn y brif haen mae un sylwebydd blaenllaw yn dweud fod dylanwad Cymdeithas Bêl-Droed Cymru i weld yn lledaenu o ran statws a bri yr iaith.
"Dyma glod i CBD Cymru ar yr hyn maen nhw wedi ei wneud - yn sydyn mae'r Gymraeg yn ddeniadol ac yn berthnasol," meddai Nic Parry.
"Does dim amheuaeth fod Clwb Pêl-droed Bae Colwyn... wrth gwrs mi oedd nifer yn feirniadol bod nhw'n dod yn ôl ar ôl 'bradychu pêl droed Cymru' - yn anwesu y cyfle [i hybu'r Gymraeg] ac mae hynny wedi ymestyn i'w gwefannau.
"Unwaith eto i glwb mawr mae hynny yn esiampl i ambell glwb arall sydd, coeliwch chi fi, angen esiampl i'w ddilyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2019