Tri yn dal yn yr ysbyty wedi i gar daro maes gwersylla
- Cyhoeddwyd
Damwain Niwgwl: Ymateb y gwasanaethau brys ar gamera
Mae tri pherson yn dal yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ar ôl i gar wyro i faes gwersylla yn Sir Benfro a tharo pabell ble roedd yna fabi yn cysgu.
Fe gafodd naw o bobl eu hanafu pan adawodd Ford Fiesta yr A487 yn Niwgwl nos Sadwrn.
Yn ôl perchennog safle Newgale Campsite, sy'n agos iawn at y ffordd, roedd y babi mewn cot ar y pryd, gan ddisgrifio'r ffaith na chafodd niwed difrifol yn "wyrth".
Dywedodd y gwasanaethau brys bod y car wedi taro'r maes pebyll ychydig wedi 22:30 BST, a bod teithwyr yn y car ymhlith y bobl a gafodd eu hanafu.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Dyfed-Powys nad oes "unrhyw un wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ar hyn o bryd".
"Mae'r tîm ymchwilio yn dal i siarad gyda llygad-dystion i geisio canfod yn union holl amgylchiadau'r hyn ddigwyddodd," medd yr heddlu.

Mae'r marciau lle daeth y cerbyd oddi ar yr A487 ac i'r maes pebyll bellach i'w gweld yn glir

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Penfro: "Rydym wedi cael sioc o glywed am y digwyddiad yma ac mae ein meddyliau gyda'r rhai a gafodd eu hanafu.
"Mae'r Cyngor wedi darparu cymorth o ran y digwyddiad yn nhermau cau ffyrdd.
"Byddwn ni'n gweithio nawr gyda'r gwasanaethau brys i ddeall ffactorau achosiant y digwyddiad yma a, pan fydd darlun mwy clir o ran beth aeth o'i le, ystyried pa gamau pellach allwn ni eu cymryd."
'Hawdd colli rheolaeth'
Yn ôl y Parchedig William Owens, sy'n byw yn lleol, mae'r ffordd sy'n mynd heibio'r gwersyll yn "gymharol ddiogel" ac "anaml iawn y mae rhywun yn clywed am ddamweiniau i lawr fan'na".
"Ond o edrych ar y lluniau o'r ddamwain," fe ychwanegodd, "fyddwn i'n dweud bod dau beth yn dod i'r meddwl.

"Mae 'na riw serth yn dod i lawr o gyfeiriad Hwlffordd i Niwgwl ac mae 'na dro o ryw 120 o radde tua'r dde, ac y'ch chi ar y darn gwastad 'wrth ochr y cerrig mân y môr ar yr ochr chwith.
"Ac wedyn mae 'na balmant cul, wedwn i, a ffos fer... os yw'r car yn colli rheolaeth mae'n hawdd i gar fynd dros y cwbl i mewn i'r maes pebyll."
Ychwanegodd bod "unrhyw achos lle mae 'na bobl wedi cael niwed yn destun pryder", gan gydymdeimlo â phawb sy'n cael ei effeithio gan yr hyn ddigwyddodd nos Sadwrn.
'Pawb mewn sioc'
Wrth ymateb i'r achos ar raglen Radio Wales Breakfast, dywedodd y cynghorydd lleol Peter Morgan bod "pawb mewn sioc" a "methu credu bod rhywbeth fel hyn wedi digwydd".
Mae yna "ryddhad bod neb wedi cael ei lladd", meddai, a mawr ddiolch bod meddygon yn digwydd bod yn aros yn y gwersyll ar y pryd ac mewn sefyllfa i roi cymorth.
Dywedodd bod Niwgwl yn ardal dawel a diogel "ond ni allwch warantu am gerbyd yn goryrru yn honedig ac yn rowlio drosodd i faes gwersylla".

Mae eiddo perchnogion dau o'r pebyll gafodd eu dinistrio wedi cael ei roi i'r naill ochr
Cyfeiriodd hefyd bod yna drafod ers dros 10 mlynedd dros ariannu codi ffordd newydd yn Niwgwl gan fod lefel y môr yn codi a stormydd yn erydu'r clawdd cerrig sydd wedi amddiffyn y pentref.
Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein meddyliau gyda phawb sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad yma.
"Ni allwn wneud sylw tra bod ymchwiliad yr heddlu'n parhau."

O'r lleoliad gan ohebydd BBC Cymru, Aled Scourfield
Mae teuluoedd ifanc a syrffwyr wedi deffro ar fore llwyd, glawog ar safle Newgale Campsite wrth i'r ymchwiliad barhau i achos damwain nos Sadwrn.
Fe ddangosodd y perchennog, Mike Harris, luniau CCTV i mi o'r digwyddiad.
Mae'n dangos lluniau, o bellter, o gar sy'n ymddangos yn teithio ar gyflymer sylweddol cyn croesi'r ffordd, troi drosodd uwchben ffos a glanio ar babell.

Mae yna wersyll yn Niwgwl ers 1935 a does dim cof o ddigwyddiad tebyg i un nos Sadwrn yn y pentref
Dywedodd Mr Harris wrtha'i ei fod yn teimlo rhyddhad bod dau lawfeddyg ac ymladdwr tân ar y safle ar y pryd i ddelio gyda'r rhai a anafwyd, ac roedd am eu diolch am eu gwaith nos Sadwrn.
Mewn ymateb i bryderon ynghylch diogelwch y ffordd, dywed Mr Harris y byddai'n croesawu mesurau arafu traffig cyn i gerbydau gyrraedd y parth 30 mya gyferbyn â'r gwersyll.
Dylid ystyried pob opsiwn i wneud y ffordd yn fwy diogel, medd y cynghorydd lleol, Peter Morgan. Dywed Mike Harris, sy'n berchen ar y gwersyll ers 2018, nad oes cof am unrhyw ddigwyddiadau tebyg mewn pentref ble bu maes gwersylla ers 1935.
Mae'r A487 yn debygol o gael ei symud yn bellach i'r cwm o'r môr oherwydd newid hinsawdd. Byddai'n rhaid i ffordd osgoi newydd gael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst 2023