Cynllun newydd i fynd i'r afael â TB yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
gwartheg

Ar ddiwrnod agoriadol Sioe Sir Benfro mae prosiect TB buchol newydd yn dechrau yn swyddogol yn y sir.

Y bwriad yw ceisio mynd i'r afael â'r clefyd drwy hwyluso cydweithio rhwng ffermwyr a milfeddygon lleol.

Ar ôl proses dendro mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod wedi rhoi cytundeb i gyflawni'r cynllun i grŵp milfeddygol "iechyd da".

Mae Prosiect Sir Benfro, fel mae'n cael ei nabod, yn rhan o'r Cynllun Cyflawni Rhaglen Dileu TB Cymru - cynllun pum mlynedd a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mawrth.

Y nod, yn ôl y llywodraeth, yw ceisio mynd i'r afael â lefelau dwfn yr haint mewn rhannau o Sir Benfro, lle mae nifer yr achosion o TB wedi gwaethygu o'i gymharu â'r sefyllfa ar hyd a lled Cymru, sy'n gwella'n gyffredinol.

Mae teulu Katie Davies yn berchen ar fferm gnydau yn Aber Bach, ar gyrion Hwlffordd.

"Er nad yw y diciâu yn effeithio ein fferm ni, mae yn effeithio arno ni fel cymuned," meddai.

"Rwy'n nabod llawer o ffrindie sy' yn cael eu heffeithio gan TB ac mae e wir mor siomedig a chaled i weld be' sy' yn digwydd.

"I lawer o bobl mae hyn jyst yn dorcalonnus. Mae yn ddrwg i weld cymaint o bobl yn gorfod delio â hyn bob dydd a phob blwyddyn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa bresennol yn "dorcalonnus" i'r rhai sy'n cael eu heffeithio, medd Katie Davies

Cyn Sioe Sir Benfro yr wythnos hon dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Rydym yn ymwybodol iawn o her TB mewn gwartheg, a'r gofid y mae'n ei achosi i ffermwyr.

"Dyna pam rydym yn benderfynol o ddileu TB buchol yng Nghymru fel y nodir yn ein Cynllun Cyflawni, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni."

Nod o gael Cymru 'heb TB'

Yn ôl y Llywodraeth mae cynnydd cyson wedi bod ers 2009, gyda llai o fuchesi wedi'u heffeithio a llai o achosion newydd. Yn Sir Benfro, serch hynny, mae'r sefyllfa'n dal yn heriol.

Y gobaith yw y bydd cynllun, sy'n annog cydweithio rhwng ffermwyr a milfeddygon, yn helpu i gyrraedd nod o Gymru heb TB.

Dywedodd y Prif Swyddog Milfeddygol, Dr Richard Irvine: "Bydd y prosiect yn gweithio gyda sampl fechan o ffermydd yn Sir Benfro, gyda'r diben o rymuso milfeddygon a ffermwyr i wneud penderfyniadau gwybodus a dangos arweiniad wrth reoli clefydau.

"Bydd yn datblygu ac yn gweithredu dulliau ychwanegol o reoli TB buchol, yn ychwanegol i'r mesurau statudol a ddefnyddir yn yr ardal ar hyn o bryd.

"Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar nodi risg clefydau gweddilliol wrth brofi gwartheg i fod yn glir a datblygu llwybr i leihau trosglwyddiad yr haint o wartheg i wartheg.

"Bydd hyn yn cynnwys adnabod a rheoli anifeiliaid risg uchel a goruchwylio arferion bioddiogelwch wrth ladd a milfeddygon."

Pynciau cysylltiedig