Meddygon Cymru mewn 'anghydfod ffurfiol' dros dâl

  • Cyhoeddwyd
MeddygFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r corff sy'n cynrychioli meddygon yng Nghymru wedi datgan bwriad i gynnal pleidlais ymhlith rhai o'i aelodau ar weithredu diwydiannol yn sgil anghydfod dros eu cyflogau.

Daeth trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru i ben ddechrau'r mis wedi i BMA Cymru wrthod cynnig o 5% yn nhâl rhai meddygon.

Dywedodd yr undeb bryd hynny mai dyma'r cynnig "gwaethaf" yn y DU, a'i fod yn doriad mewn gwirionedd gan fod chwyddiant yn uwch.

Daeth y penderfyniad i fynd i anghydfod ffurfiol wrth i feddygon iau yn rr Alban bleidleisio i dderbyn y cynnig uchaf erioed gan lywodraeth Holyrood i godi eu cyflogau - 12.4% yn 2023/24, ar ben cynnydd o 4.5% yn 2022/23.

Dywed Llywodraeth Cymru bod penderfyniad y BMA yn "siomedig" ond bod dim arian pellach ar gael i wneud cynnig uwch fel y mae pethau'n sefyll.

Mae Llywodraeth y DU yn mynnu bod Cymru wedi derbyn ei "setliad ariannol mwyaf yn hanes datganoli".

Mae'r anghydfod yn ymwneud â'r telerau yn achos meddygon sy'n arbenigo mewn maes penodol - ac maen nhw'n cynnwys meddygon ymgynghorol, meddygon iau a meddygon SAS, dolen allanol, sy'n dymuno mwy o hyblygrwydd yn eu gyrfa.

Er mai 5% oedd y codiad cyflog a gafodd ei gynnig i rai ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24, dywed y BMA bod y cynnig i rai o'r meddygon SAS mor isel â 1.5%.

Mae'r cynnig, medd yr undeb, yn llai na'r hyn a wnaeth corff adolygu tâl ei argymell eleni ar gyfer meddygon a deintyddion.

Mae'r BMA wedi anelu at adfer lefel cyflogau o fewn y maes, gan ddweud bod meddygon wedi gweld toriad mewn gwirionedd o ryw 29% yn eu tâl ers 2009.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Iona Collins yn dweud bod mwy o feddygon yn debygol o adael Cymru petai'r BMA yn derbyn cynnig isel

"Er gwaethaf sawl ymgais i rybuddio Llywodraeth Cymru ynghylch effaith ddinistriol toriadau cyflog cyson yng nghyd-destun rhai o'r amodau gwaith gwaethaf yn y DU, y gorau y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig yw llai o dâl," dywedodd cadeirydd BMA Cymru, Dr Iona Collins.

Dywedodd bod pwyllgorau sy'n cynrychioli meddygon ymgynghorol, iau a SAS wedi "cefnogi 100%" i symud ymlaen gyda phleidlais ar weithredu diwydiannol, a bod hynny'n "adlewyrchu cryfder y teimlad o fewn y proffesiwn".

Ychwanegodd: "Os rydym yn derbyn cynnig o 5%, rydym yn derbyn y bydd mwy o feddygon nag erioed yn gadael GIG Cymru oherwydd tâl anghystadleuol.

"Rydym nawr yn ymgynghori ag aelodau ynghylch ein camau nesaf sy'n cynnwys pleidlais ar weithredu diwydiannol gan yr holl feddygon gofal eilaidd. Rydym eisoes yn gwybod o arolwg diweddar bod 89% o feddygon iau wedi dweud y bydden nhw'n fodlon gweithredu'n ddiwydiannol i gael cytundeb tecach."

Mae pwyllgorau'r BMA yng Nghymru wedi rhybuddio bod rhai aelodau, yn enwedig meddygon iau, yn ennill cyflog sylfaenol cyn lleied â £13 yr awr, a bod rhai'n cael trafferth talu am eu rhent, gwres a bwyd ac i ad-dalu dyledion prifysgol.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nos Fercher: "Mae'n siomedig bod meddygon wedi penderfynu cynnal pleidlais ar weithredu diwydiannol.

"Rydym yn deall cryfder teimladau ymhlith meddygon ynghylch y cynnig tâl o 5% a'r pwysau ar holl weithwyr y sector cyhoeddus oherwydd yr argyfwng costau byw."

Dywedodd y byddai'r llywodraeth yn awyddus i adfer lefelau tâl "ein staff meddygol hanfodol, mae ein cynnig ar derfynau'r cyllid sydd ar gael i ni ac yn adlewyrchu lle gwnaethom ei gyrraedd gyda'r undebau iechyd eraill ar gyfer eleni.  

 "Heb ragor o arian gan Lywodraeth y DU, nid ydym mewn sefyllfa ar hyn o bryd i gynnig mwy.

"Byddwn ni'n parhau i bwyso arnyn nhw i basio'r arian angenrheidiol ar gyfer codiadau cyflog llawn a theg i weithwyr sector cyhoeddus."

Ychwanegodd eu bod "ar gael ar gyfer rhagor o drafodaethau unrhyw adeg" gyda'r BMA.

Mae Llywodraeth y DU yn mynnu bod y weinyddiaeth ym Mae Caerdydd wedi derbyn "y setliad ariannol mwyaf yn hanes datganoli", sef "£18 biliwn y flwyddyn, sy'n dal yn cynyddu mewn termau real dros gyfnod Adolygiad Gwariant 2021".

Ychwanegodd llefarydd: "Y ffordd orau y gallwn ni helpu teuluoedd a chefnogi twf ar draws Cymru yw cael chwyddiant isel a dyna pam rydym yn glynu i ein cynllun i'w haneru eleni - rhywbeth y mae Banc Lloegr wedi darogan yn ddiweddar yr ydym ar y trywydd cywir i'w gyflawni."