Bachgen yn pledio'n euog yn achos graffiti hiliol Port Talbot

  • Cyhoeddwyd
graffiti
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bachgen wedi cyfaddef paentio graffiti hiliol ar y murlun ym Mhort Talbot y llynedd

Mae bachgen 17 oed o dde Cymru a baentiodd symbolau Natsïaidd ar furlun i ddathlu cymuned Garibïaidd Port Talbot yn wynebu cyfnod posib o garchar.

Clywodd yr achos yn erbyn y llanc, na ellir ei enwi oherwydd ei oedran, ei fod wedi cael ei radicaleiddio ar-lein.

Fe blediodd yn euog i wyth o gyhuddiadau mewn gwrandawiad ym mis Mehefin, gan gynnwys pump yn ymwneud â therfysgaeth.

Fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys yr Old Bailey yn Llundain ar 4 Medi.

Clywodd Llys Ieuenctid Caerdydd ei fod yn meddu ar gyhoeddiad ag ideolegau yn hybu trais a chasineb at Iddewon, menywod a phobl hoyw, a'i fod wedi rhannu deunydd gyda pherson arall yn ei arddegau.

Roedd y llawlyfr yn disgrifio creu bomiau, bwrw trenau oddi ar gledrau, ymosod ar linellau trydan a herwgipio heddweision, ac yn clodfori llofruddion lluosog drwg-enwog.

Roedd y llanc hefyd wedi rhannu cyhoeddiad arall oedd yn disgrifio'n fanwl sut i greu dryll.

Fe blediodd yn euog i ddau gyhuddiad o achosi difrod troseddol gyda chymhelliad hiliol mewn cysylltiad â'r graffiti ar furlun, sy'n rhan o Lwybr Celf Stryd Port Talbot, ar 27 Hydref a 5 Tachwedd y llynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Y murlun, sydd hefyd yn cyfuno draig goch Cymru a baner Jamaica, wedi'i adfer

Aeth gwirfoddolwyr lleol ati i adfer y ddelwedd o'r nyrs leol Donna Campbell, a fu farw yn ystod y pandemig, a'i mam Lydia, a ddaeth i'r DU fel rhan o'r genhedlaeth Windrush.

Cafodd sawl swastica a sloganau goruchafiaeth pobl gwyn eu paentio oriau wedi i'r murlun gael ei gwblhau.

Cafodd y llanc hefyd ei gyhuddo o achosi difrod troseddol i lawr yng nghanolfan The Queer Emporium, yng Nghaerdydd, ar 31 Hydref y llynedd.

Troseddu 'difrifol eithriadol'

Cafodd y diffynnydd ei ddisgrifio yn y llys fel bachgen "deallus" oedd â'i fryd ar fynd i'r brifysgol.

Gofynnodd ei fargyfreithiwr, David Elias KC, am orchymyn atgyfeirio ieuenctid, a fyddai'n ei orfodi i gael cymorth i fynd i'r afael â'i ymddygiad.

Dywedodd bod ei gleient "bregus" yn awtistig ac ag anhwylder personoliaeth, a'i fod wedi treulio oriau hir ar-lein yn ystod y pandemig.

Ychwanegodd: "Yn aml mae'n teimlo nad yw'n perthyn i grŵp ei gyfoedion, sy'n effeithio'n fawr ar ei hunan-werth, ac mae'r daer eisiau ffrindiau a dyheadau positif ar gyfer y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y bachgen yn cael ei ddedfrydu yn Llys yr Old Bailey

Pan ofynnodd y Prif Ynad, Paul Goldspring wrth y bachgen am yr hyn roedd wedi ei wylio ar-lein, fe atebodd bod y cynnwys yn "anniddorol iawn" a "heb fawr o ddyfnder".

Ychwanegodd: "Nid dyna rydw i wir yn ei gredu. Nid dyna rwy'n ei gredu nawr."

Ond fe rybuddiodd y barnwr wrtho yn ddiweddarach: "Ar unrhyw olwg o ddifrifoldeb y troseddu, mae'r trothwy ar gyfer carchariad wedi ei groesi.

"Mae cwmpas a graddfa'r troseddu, gan gynnwys y rheiny all ymddangos yn gymharol fach o'i gymharu - y difrod troseddol i furluniau - nid yn unig yn ffiaidd ond yn ddifrifol eithriadol.

"Pe bydden chi mewn llys oedolion fe fydden ni'n sôn am flynyddoedd, nid misoedd, dan glo."

Fe benderfynodd yn erbyn rhoi gorchymyn atgyfeirio ieuenctid, gan drosglwyddo'r achos i Lys y Goron, ble mae gan farnwr hawl i roi dedfryd llymach.