Ateb y Galw: Elin Tudur
- Cyhoeddwyd
Elin Tudur sy'n ateb ein cwestiynau yr wythnos hon, wedi iddi gael ei henwebu gan Wil Aaron yr wythnos ddiwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mynd i Uwch Mynydd, Aberdaron a Dad wedi dweud ein bod yn mynd i ben draw'r byd. Cofio'r ofn na fydde'n gallu stopio'r car ac y bydden ni'n mynd dros y dibyn.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Y Groeslon - fy mhentref genedigol, a chymaint o atgofion braf am fagwraeth hapus.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Partis Treddafydd ym Mangor - methu enwi un yn arbennig - ond pob un yn hwyl!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Dwi'n meddwl mai mater i bobl eraill ydy hyn!
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Dwi'n ei chael yn anodd i feddwl am un digwyddiad penodol. Mae yna gymaint o chwerthin a hwyl wedi bod dros y blynyddoedd. Ond dwi yn cofio gorfod cyfieithu ar y pryd i Wali Tomos (heb unrhyw rybudd mai Wali oedd yn mynd i ymddangos ac nid Mei Jones!). Dyna brofiad o grio a chwerthin mewn panig yn mynd yn un!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Seminar Drama cyntaf yn y coleg - Emyr Humphryes yn gofyn o ble roeddwn yn dod a finna'n ateb - Y Groeslon. 'O Lygaid y Ffynnon' medda fo - 'na' meddwn inna - 'o'r Groeslon'. Wa - sylweddoli mai at John Gwilym Jones y dramodydd roedd o'n cyfeirio!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Crïo go iawn - colli fy ngŵr, Rhys, ym 1996.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Gormodedd.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
'O! Tyn y Gorchudd' gan Angharad Price. Clasur o lyfr sydd yn aros yn y cof.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Efo Rhys fy niweddar ŵr i ddweud wrtho plant mor ffantastig sydd ganddo ni (rhag ofn nad ydio'n gwybod hynny beth bynnag!)
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Fawr ddim a deud y gwir - dwi'n tueddu i fod fel llyfr agored.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Gofyn - 'plis gai bum munud arall…'
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Llun o'm pedwar plentyn yn chwerthin - mor nodwediadol ohonyn nhw.