Jones yn ymuno ag achos yn erbyn awdurdodau rygbi

  • Cyhoeddwyd
Ryan JonesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ryan Jones yn rhan o dîm Cymru enillodd y Gamp Lawn yn 2005, 2008 a 2012.

Mae cyn-gapten rygbi Cymru, Ryan Jones, wedi datgelu ei fod wedi cael diagnosis o arwyddion cynnar o dementia a'i fod wedi ymuno â'r achos cyfreithiol yn erbyn awdurdodau'r gêm.

Dywedodd wrth bapur newydd The Sunday Times ei fod yn teimlo "bod ei fyd yn syrthio'n ddarnau".

Fe wnaeth cyn-chwaraewyr rygbi, gan gynnwys cyn-chwaraewr rheng-ôl Cymru Alix Popham, ddechrau'r achos cyfreithiol ym mis Rhagfyr 2020 oherwydd methiant honedig i'w hamddiffyn rhag y risgiau sy'n cael eu hachosi gan anafiadau i'r pen.

Mae yna alwadau am "edrych o ddifri" ar fesurau diogelwch o fewn y gamp yn sgil newyddion Ryan Jones, sydd yn 41.

Fe enillodd Ryan Jones 75 cap i Gymru rhwng 2004 a 2014 gan gynrychioli y Llewod mewn tair gêm brawf.

Cafodd Jones ddiagnosis o enseffalopathi trawmatig cronig posib yn mis Rhagfyr 2021, gydag arbenigwyr yn dweud wrtho bod ei achos yn un o'r rhai gwaethaf iddyn nhw weld erioed.

"Rwy' yn ofnus iawn oherwydd mae gen i dri o blant a thri llys-blentyn a dwi am fod yn dad gwych," meddai.

"Dwi ddim yn gwybod beth ddaw yn y dyfodol."

'Sefyllfa drychinebus'

Roedd Ryan Jones yn rhan o dîm Cymru enillodd y Gamp Lawn yn 2005, 2008 a 2012.

Bu'n gapten ar ei wlad 33 o weithiau a bu'n gweithio i Undeb Rygbi Cymru ar ôl ymddeol o chwarae, gan adael y swydd honno yn 2020.

Yn wreiddiol fe gafodd y cyn flaenwr gyda'r Gweilch ddiagnosis o iselder ac fe ddechreuodd wynebu problemau gyda'i gof a mynd yn anghofus.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi ddim yn gwybod beth ddaw yn y dyfodol," medd Ryan Jones

Ym mis Mai fe sefydlodd y Gymdeithas Alzheimer bartneriaeth gyda mudiadau gan gynnwys y Gymdeithas Chwaraewyr Rygbi i sefydlu ffordd o gyfeirio cyn chwaraewyr, chwaraewyr presennol neu reolwyr sydd wedi cael diagnosis dementia, neu sydd yn gofalu am rhywun.

Mae Ryan Jones yn mynnu na fyddai yn newid ei brofiadau o "fyw ei freuddwyd" a chwarae dros Gymru ond mae'n credu bod angen i'r gamp gymryd mesurau pellach.

"Mae (rygbi'r undeb) yn cerdded gyda'i lygaid ynghau i mewn i sefyllfa drychinebus," meddai Jones.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw tad Lloyd Jones, y chwaraewr rygbi Peter Jones, o dementia

Mae'r ffaith bod Ryan Jones wedi ymuno â'r achos cyfreithiol yn "drobwynt," medd un arall sydd yn rhan o'r achos.

Bu farw tad Lloyd Jones, y chwaraewr rygbi Peter Jones, o dementia a oedd wedi cael ei achosi gan ergydion i'r pen.

"Chwaraeodd Ryan Jones i'r Llewod ac roedd e'n gapten ar Gymru," meddai, "fe fydd hwn yn destun gofid i lawer o bobl."

"Dwi'n gobeithio y bydd hwn yn sbarduno newid yn nyfodol rygbi".

'Angen i bopeth ddod o dan y chwyddwydr'

Mae gan ddiagnosis Ryan Jones "oblygiadau pellgyrhaeddol," meddai'r sylwebydd rygbi Cennydd Davies.

"Mae ei fyd wedi chwalu'n deilchion - ond yn anffodus dyw'r cyflwr ddim yn newydd o safbwynt rygbi," dywedodd wrth raglen Bore Sul Radio Cymru.

Dywedodd fod y sefyllfa wedi "gwella'n arw" o ran ymdrin â chyfergyd yn y gamp: "Fyddai Ryan Jones wedi dechrau chwarae mewn cyfnod pan nad oedd yna gamau penodol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Ryan Jones 75 cap i Gymru rhwng 2004 a 2014

Ond mae datblygiadau'r oes broffesiynol yn creu problemau, meddai - yn bennaf eilyddio tactegol a'r pwyslais ar faint y chwaraewyr.

"Mae'r pwyslais ar weithio'n y gampfa bellach wedi gwneud y sefyllfa'n waeth - a ddylai eilyddio tactegol gael ei ddileu? A ddylai pwysau penodol gael ei gyflwyno ar gyfer safleoedd penodol, fel ym myd bocsio?

"Mae angen i bob peth gael ei ystyried, ac mae angen i bob peth ddod o dan y chwyddwydr."

'Rhaid i'r gamp esblygu'

Mae'n rhaid i rygbi "esblygu" ac edrych o ddifri ar sut y caiff y gêm ei chwarae wrth symud ymlaen, yn ôl un cyn-chwaraewr rhyngwladol ac aelod seneddol.

Fe wnaeth Tonia Antoniazzi ennill naw cap rhyngwladol i Gymru cyn cael ei hethol fel AS Llafur Gwyr.

Dywedodd wrth BBC Cymru y byddai'r nifer o achosion fel un Ryan Jones "ond yn cynyddu, ac nid chwaraewyr rygbi enwog yn unig fyddan nhw".

"Mae pobl Cymraeg yn caru rygbi - dydyn ni ddim am roi'r gorau i chwarae rygbi.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ms Antoniazzi fod y diagnosis yn "dorcalonnus"

"Ond maen rhaid i ni ar edrych ar sut yr ydym ni'n cadw ein chwaraewyr yn ddiogel."

Wrth ymateb i gwestiwn a fyddai rhai rhieni'n ailystyried caniatáu i'w plant chwarae rygbi, dywedodd Ms Antoniazzi: "Dwi'n deall hynny, ond mae'n rhaid i ni edrych ar sut mae'r gêm yn cael ei chwarae a pha fesurau diogelwch sydd mewn lle.

"Mae'r mesurau ynghylch anafiadau i'r pen gafodd eu cyflwyno'n ddiweddar yn allweddol.

"Ond pan wyt ti'n rhoi'r crys coch yna ymlaen... dwyt ti ddim eisiau gadael y cae."

Mae'n bwysig fod pawb yn y gamp yn dilyn y mesurau sydd wedi'u cyflwyno, medd Ms Antoniazzi, yn ogystal â sicrhau bod chwaraewyr llawr gwlad hyd at y lefel broffesiynol yn cael lleisio'u barn yn yr ymchwil i anafiadau o fewn y gamp.