Tata'n wynebu 'cyfnod tyngedfennol' i leihau carbon
- Cyhoeddwyd
Mae gwaith dur mwyaf y DU yn wynebu amser tyngedfennol yn ei hymgais i leihau allyriadau carbon, yn ôl athro yn y maes.
Mae rhybuddion wedi bod y gallai'r ffatri ym Mhort Talbot gael ei chau os na cheir cytundeb am gymorthdaliadau i leihau allyriadau carbon.
Mae'n ofynnol i'r gwaith dur dorri yn ôl ar allyriadau carbon er mwyn i'r llywodraeth gwrdd a'i thargedau amgylcheddol.
Dywedodd cwmni dur Tata ei fod wedi ymrwymo i leihau ei effaith ar yr amgylchedd a newid hinsawdd.
Ond yn ôl yr Athro John Gibbins mi allai'r dechnoleg gostio hyd at £1bn a chymryd blynyddoedd i'w gweithredu, ond dywedodd y byddai'n achub swyddi.
'Arbed swyddi go iawn'
Dywedodd yr Athro Gibbins, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Dal a Storio Carbon, y byddai dal a storio carbon yn caniatáu i'r ffatri gynhyrchu dur carbon isel neu ddi-garbon y tu hwnt i 2050.
Dal a storio carbon yw'r broses o ddal carbon deuocsid cyn iddo gael ei ryddhau i'r atmosffer, ac yna cludo a storio'r carbon.
Dywedodd y byddai'r dechnoleg yn cymryd dwy i dair blynedd i'w gweithredu, ac yn costio rhwng £500m ac £1bn.
"Mae hyn yn rhywbeth a fydd yn arbed swyddi, swyddi go iawn," dywedodd.
"Yr hyn sydd angen ei wneud, yn gyntaf oll, yw i lywodraeth Cymru lynu at y syniad.
"Dyma amser y wasgfa, os bydd y ffatri'n cau yna Duw a'n helpo."
Pryderon am gostau
Ond dywedodd Athro economeg Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd, Calvin Jones, na fyddai dal carbon yn gweithio ym Mhort Talbot ac y byddai'n ychwanegu'n "sylweddol" at gostau cynhyrchu dur.
Dywedodd: "Yn anffodus, nid yw dal a storio carbon wedi'i brofi ar raddfa fasnachol - ar gyfer cynhyrchu ynni ffosil neu ddiwydiant.
"Yn achos Port Talbot, nid oes unman yn agos i storio'r carbon. Mae safleoedd storio sydd newydd eu prydlesu yn y DU i gyd ym Môr y Gogledd.
"Bydd angen naill ai rhwydwaith dosbarthu pibellau CO2 cwbl newydd, neu fflyd o longau cludo CO2 i gludo CO2 Port Talbot i'r man lle gellir ei storio'n ddaearegol.
"Bydd y naill na'r llall yn ychwanegu'n sylweddol iawn at gostau gwneud dur."
Nid oedd yn credu y byddai dal carbon yn gallu datrys y broblem hinsawdd ar gyfer ynni, diwydiant na Phort Talbot.
Er hynny, dywedodd yr Athro Jones bod dewisiadau eraill.
"Mae rhywfaint o waith dur yn cael ei ddatblygu gan ddefnyddio hydrogen yn lle golosg (coke). Er enghraifft mae Volvo yn caffael hwn ar gyfer eu ceir.
"Mae hyn wrth gwrs yn gofyn am ormodedd o hydrogen, na ellir ond ei wneud mewn ffordd ddi-garbon gyda thrydan gwyrdd.
"Yn anffodus, mae Cymru wedi bod yn araf i ddatblygu trydan gwyrdd. Mae gan dde Cymru un o'r cyflenwadau trydan carbon uchaf yn y DU.
"Felly eto, mae'n debyg y byddai angen biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad yn yr ardal ac o'i chwmpas i wneud hyn yn realiti i Tata.
"Mae gennym ni lawer o ddal i fyny i'w wneud."
'Parhau i wneud camau breision'
Dywedodd cwmni Tata ei fod wedi ymrwymo i leihau ei effaith ar yr amgylchedd a newid hinsawdd.
Yn ôl y cwmni, ei huchelgais oedd cynhyrchu dur sero-net erbyn neu cyn 2050, a lleihau allyriadau CO2 o 30% erbyn 2030.
Dywedodd llefarydd: "Mae'r cwmni'n parhau i wneud camau breision i leihau effaith amgylcheddol ei brosesau drwy arloesi, buddsoddi a chydweithio.
"Yn ogystal, mae ei gynhyrchion dur yn parhau i fod yn hollbwysig nid yn unig ar gyfer cadwyni cyflenwi gweithgynhyrchu'r DU, ond hefyd wrth drawsnewid y DU i economi werdd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2021