'Pwysig iawn' cadw cynhyrchu dur yn y DU medd Liz Truss

  • Cyhoeddwyd
Liz Truss
Disgrifiad o’r llun,

Liz Truss: "Wrth gwrs bydd y llywodraeth yn siarad â Tata"

Bydd gweinidogion o Lywodraeth y DU yn siarad â pherchnogion gwaith dur Port Talbot ar ôl rhybuddion y gallai'r ffatri gau heb gytundeb am gymorthdaliadau i leihau allyriadau carbon, medd Liz Truss wrth BBC Cymru.

Fe wnaeth prif weinidog y DU addo trafodaethau gyda Tata am ddyfodol y ffatri, sy'n cyflogi 4,000 o bobl.

Dywedodd ei bod yn "bwysig iawn" cadw cynhyrchu dur yn y DU.

Amddiffynnodd Ms Truss y "gyllideb fach" hefyd, ar ôl i gythrwfl y farchnad ddilyn y mesurau a gyhoeddwyd ddydd Gwener diwethaf.

Ym mis Gorffennaf, adroddodd y Financial Times y byddai Tata yn ystyried cau ei safleoedd pe na bai cytundeb yn cael ei wneud yn y 12 mis nesaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith dur mwyaf y DU, ym Mhort Talbot, yn cyflogi 4,000 o bobl

Dywedodd cadeirydd Tata, Natarajan Chandrasekaran, wrth yr FT mai dim ond gyda chymorth ariannol gan y llywodraeth y mae trosglwyddo i "waith dur gwyrddach" yn bosibl.

Mae Tata am adeiladu dwy ffwrnes trydan newydd - gan ddisodli'r rhai presennol - ym Mhort Talbot er mwyn lleihau allyriadau carbon.

Cost y ffwrnesi newydd fydd tua £3bn, gyda Tata yn gofyn am gymorth o £1.5bn gan Lywodraeth y DU.

Ddydd Iau, dywedodd Ms Truss wrth olygydd gwleidyddol BBC Cymru, Felicity Evans: "Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cynnal ein diogelwch economaidd ac yn cynnal cynhyrchu dur yn y Deyrnas Unedig, ac wrth gwrs bydd y llywodraeth yn siarad â Tata ynglŷn â'r ffordd orau i wneud hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan gwmni dur Tata safleoedd ym Mhort Talbot, Casnewydd, Llanelli a Shotton

Mae cyllideb fach yr wythnos ddiwethaf, gyda gwerth £45bn o doriadau treth wedi'u hariannu gan fenthyca cyhoeddus ychwanegol, wedi arwain at gwymp yn y bunt ac ymchwydd mewn costau benthyca.

Fe wnaeth ymateb y farchnad orfodi Banc Lloegr i gamu mewn ddydd Mercher a phrynu £65bn o ddyled y llywodraeth i atal rhai cronfeydd pensiwn rhag cwympo.

Ddydd Iau, dywedodd y prif weinidog wrth BBC Cymru fod ei llywodraeth wedi cymryd "camau pendant" i helpu pobl gyda'u biliau ynni, "sef y rhan fwyaf o'r pecyn a gyhoeddwyd gennym ddydd Gwener".

"Dydyn ni ddim ychwaith yn codi trethi yn ystod cyfnod o arafu economaidd, oherwydd byddai effaith arafu economaidd yn negyddol iawn, iawn i bawb ledled y wlad," meddai.

"Felly doedd cael y cyfraddau treth uchaf ers 70 mlynedd ddim yn mynd i helpu'r economi i ddod trwy gyfnod anodd."

'Problemau byd-eang'

Mynnodd Ms Truss fod "problem economaidd fyd-eang hefyd wedi'i hachosi gan ryfel Putin yn Wcráin, ac rydyn ni'n gweld marchnadoedd yn ymateb ledled y byd".

Gofynnwyd iddi pam fod ei llywodraeth wedi gwrthod cynnig gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) i gyhoeddi ei hasesiad o ganlyniadau'r newidiadau i'r gyllideb, os oedd mor hyderus y byddai ei gweithredoedd yn darparu twf.

"Bydd yr OBR yn cyhoeddi rhagolwg ym mis Tachwedd pan fyddwn yn gosod ein cynllun cyllidol tymor canolig," meddai'r prif weinidog.

"Rydyn ni wedi bod yn glir bod angen i ni fenthyca'r gaeaf hwn i ymdopi â'r materion difrifol iawn rydyn ni'n eu hwynebu - yr arafu economaidd byd-eang, yn ogystal â'r argyfwng ynni, ond rydyn ni'n benderfynol o ddod â dyled i lawr fel cyfran o GDP (Cynnyrch Domestig Gros - mesur o faint yr economi).

"Byddwn yn cyhoeddi rhagolwg OBR ochr yn ochr â'n cynllun cyllidol tymor canolig, ond rwy'n credu ei bod yn iawn benthyca i ddelio â'r argyfwng ynni difrifol iawn yr ydym yn ei wynebu, a dyna'r rhan fwyaf o'r pecyn a gyhoeddwyd gennym ddydd Gwener."