Pont y Borth: Hyd at ddwy flynedd o waith atgyweirio

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Rhun ap Iorwerth: Gwaith Pont y Borth yn 'anghyfleustra mawr' i'r ardal

Bydd un lôn wedi ei chau ar Bont y Borth rhwng Gwynedd ac Ynys Môn am hyd at ddwy flynedd, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau.

Gyda disgwyl i'r gwaith diweddaraf gychwyn ar 4 Medi, does dim disgwyl i'r bont ailagor yn llawn tan haf 2025.

Fe gaeodd y bont 200 oed yn ddi-rybudd fis Hydref y llynedd oherwydd risgiau diogelwch "difrifol", yn dilyn cyngor gan beirianwyr cwmni UK Highways.

Ond er ei fod ar agor i draffig erbyn hyn, mae angen rhagor o waith angenrheidiol ar y strwythur.

Yn pryderu fod y gwaith am gymryd mor hir i'w gwblhau, mae Aelod o'r Senedd yr ynys wedi pwyso am fesurau dros dro gan gynnwys creu lôn newydd ar Bont Britannia - sydd hefyd yn bont dwy lon - er mwyn cwrdd â'r angen ychwanegol.

'Osgoi creu rhagor o anhwylustod'

Bydd y gwaith ar Bont y Borth yn cynnwys gosod rhodenni fertigol parhaol newydd, yn ogystal â gwaith peintio helaeth.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd y gwaith yn cymryd lle rhwng 07:00 a 19:00 yn ystod yr wythnos, gyda goleuadau traffig i'w gosod mewn lle.

Disgrifiad o’r llun,

Nid oes disgwyl i Bont y Borth ailagor yn llawn tan haf 2025

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters, fod y rhaglen waith wedi'i threfnu fel na fydd angen cau'r bont yn llwyr.

"Byddwn yn gwneud ein gorau glas i osgoi creu rhagor o anhwylustod i gymunedau bob ochr y bont ac rydyn ni'n ddiolchgar iddyn nhw am eu hamynedd," meddai.

"I wneud yn siŵr bod y bont yn dal i'n gwasanaethu ar ôl ei 200fed flwyddyn, mae'n bwysig bod digon o amser yn cael ei roi i'r gwaith adfer.

"Byddwn yn dal i weithio gyda'r holl bartneriaid, gan gynnwys y gwasanaethau argyfwng, i greu cyn lleied o aflonyddwch â phosibl ac i wneud y gwaith mor gyflym a diogel ag y medrwn."

'Angen dod a'r amserlen i lawr'

Ond mae Aelod o'r Senedd yr ynys, Rhun ap Iorwerth, yn dweud ei fod yn "rhwystredig" fod y gwaith am gymryd mor hir.

"Hyd yn oed gydag un lôn ar agor yn ystod y cyfnod hwn, does gena'i ddim amheuaeth bydd yr effaith ar y gymuned leol a defnyddwyr y bont yn sylweddol.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Pont y Borth - sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Pont Menai - ei dylunio gan Thomas Telford a'i hagor yn 1826

"Wrth gwrs mae hwn yn waith hanfodol, ac roedd yn sicr o gymryd cryn dipyn o amser, ond mae angen inni ddod â'r amserlen hon i lawr."

Gan nodi'r effaith ar fusnesau lleol, dywedodd y byddai'n lobïo'r llywodraeth i ddod â'r amserlen i lawr "yn sylweddol".

"Rydym yn gwybod yn rhy dda beth yw sgil-effeithiau tarfu ar ein pontydd. Mae diffyg gwytnwch amlwg yn ein seilwaith croesi'r Fenai ac mae ein profiadau diweddar wedi profi pa mor fregus yw ein seilwaith.

"Dyna pam rwy'n glir bod angen croesfan fwy cadarn, a'r ateb yw deuoli'r Britannia, neu mewn geiriau eraill i godi trydedd croesiad.

"Yn y cyfamser, byddaf yn parhau i lobïo'r gweinidog i gyflwyno system traffig llif brig ar y Britannia, o bosibl gan ddefnyddio system 'zipper', fel yr wyf wedi'i amlinellu eisoes."