Mis mêl yn Nice: 'Falle y briodas fyrraf erioed!'
- Cyhoeddwyd
Fel arfer byddai mis mêl ar arfordir y Côte d'Azur yn Ffrainc yn ffordd berffaith o ymlacio a mwynhau yn yr haul.
Ond i Clare a Paddy Ervine mae'n drip hollol "wahanol", gydag awyrgylch Cwpan Rygbi'r Byd yn Nice yn cymryd blaenoriaeth dros orweddian ger y pwll nofio.
Mae Paddy wedi cymryd cam gwag cyntaf ei briodas yn barod, fodd bynnag - ag yntau'n Sais, fe brynodd grys Portiwgal i'w gwylio nhw'n herio Cymru.
"Falle mai hwn fydd y briodas fyrraf mewn hanes!" meddai Clare, sy'n dod o Bort Talbot.
Gyda Nice yn cynnal sawl gêm o fewn wythnos - gan gynnwys Cymru v Portiwgal, Lloegr v Japan, a'r Alban v Tonga - mae'n fis mêl perffaith i'r cwpl sydd wrth eu bodd â rygbi.
"Ni yma am 10 diwrnod, ac mae saith o'r rheiny'n troi o gwmpas rygbi," meddai Clare.
"Ni am fynd i Monaco am y dydd, diwrnod ar y traeth, ond dyma beth oedden ni eisiau. Ni'n hapus i eistedd a gwylio'r gemau yn y dafarn neu yn y stadiwm.
"Mae'n neis fod e'n wahanol, ond fel hyn ydyn ni. Ni'n edrych 'mlaen yn fawr."
Ond dyw hi ddim mor hapus gyda'r gyfrinach a gadwodd ei gŵr.
"Ga'i jyst ddweud, oll nes i ddweud oedd bydden i'n prynu crys ar gyfer gêm Cymru," meddai Paddy.
"Clare wnaeth gymryd yn ganiataol mai crys Cymru fyddai e, a phan drodd y crys Portiwgal lan, sydyn reit dwi mewn trwbl."
Ychwanegodd Clare: "I fod yn onest, o ystyried mod i'n gwisgo ei grys Japan i'r gêm Lloegr, roeddwn i'n hanner disgwyl e.
"Ond dal, fi yw ei wraig newydd, dyle fe wedi dilyn y rheolau!"
Yn y pen draw fe rwygodd y crys Portiwgal cyn cael cyfle i'w wisgo ac fe aeth i'r gêm mewn crys Lloegr.
Fe wnaeth y cwpl, sydd nawr yn byw yn Sir Hampshire, gwrdd ar-lein yn 2020 a rhannu eu diddordeb mewn rygbi yn syth, wrth wylio gêm Chwe Gwlad yn y dafarn ar eu dêt cyntaf.
Er i gyfyngiadau Covid wedyn olygu nad oedd modd cwrdd dros beint, fe wnaeth eu carwriaeth ddatblygu.
"Roedden ni'n 'neud y quizzesyna roedd pawb yn 'neud yn ystod y cyfnod clo am 'chydig, ac yn ffodus i fi doedd Clare yn gyfreithiol ddim yn cael mynd i gyfarfod unrhyw un arall, felly roedd gen i siawns," meddai Paddy gan wenu.
"Nes i ofyn iddi fy mhriodi pan oedden ni ar wyliau yn y Maldives, a dyma ni."
Gyda'r pâr wedi priodi bythefnos yn ôl, roedd yr amseru'n berffaith ar gyfer trip i dwrnamaint rygbi mwyaf y byd.
"Roedden ni wedi archebu'r tocynnau yma ddwy flynedd yn ôl cyn i ni hyd yn oed ddyweddïo," meddai Clare.
"Mae'r ddau ohonon ni wrth ein bodd gyda rygbi, felly 'dyn ni'n edrych 'mlaen am 10 diwrnod yn dilyn y peth ddaeth â ni at ein gilydd."
Dyw'r briodas heb newid agweddau Clare a Paddy at dimau ei gilydd, fodd bynnag, gyda'r ddau yn hyderus o'u gobeithion eu hunain yng Nghwpan y Byd.
"Yn amlwg Cymru sy'n mynd i ennill, 100%, dim amheuaeth," mynnodd Clare.
Mae Paddy yn cyfaddef nad oedd yn rhy bositif am obeithion Lloegr, nes iddyn nhw drechu'r Ariannin gydag 14 dyn yn eu gêm agoriadol.
"Nawr, pencampwyr y byd yn bendant, pedair blynedd arall - Borthwick am byth," meddai.
Gallai prawf mawr cyntaf eu perthynas ddod yn gynt na'r disgwyl - gyda Chymru a Lloegr i wynebu ei gilydd yn chwarteri'r gystadleuaeth os yw un yn ennill eu grŵp, a'r llall yn dod yn ail.
"Dwi'n ceisio peidio meddwl am hynny," meddai Paddy.
Ychwanegodd Clare: "Fel ddywedais i, gallai hon fod y briodas fyrraf erioed."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Medi 2023